Cwm Coed Penllergare: Yr hanes a'r ysbrydoliaeth

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Disgrifiad o'r llun, Betsan Evans

“Yr hyn sy’n arbennig am Gwm Coed Penllergare yw dyma le dechreuodd ffotograffiaeth yn Nghymru.â€

Mae Coed Cwm Penllergare ger Abertawe yn lle hudolus i’r ffotograffydd Betsan Haf Evans. Roedd yr ystâd Fictoraidd arfer bod yn gartref i John Dillwyn Llewelyn (1810 – 1882), y ffotograffydd a'r seryddwr arloesol ac mae'n cynnwys milltiroedd o goetir, dau lyn a nifer o deithiau cerdded posib.

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Betsan yn rhannu’r rhesymau pam fod Cwm Coed Penllergare yn lle mor arbennig ac yn ysbrydoliaeth iddi:

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ar fore Sadwrn braf ar ddiwedd mis Hydref dyma fi yn cwrdd â fy ffrind i fynd am wac tynnu lluniau Cwm Coed Penllergare. Gan ein bod yn rhannu yr un diddordeb mewn ffotograffiaeth mae’n gyfle i gloncan, yn enwedig am hanes ffotograffiaeth.

Yr adeg yma o’r flwyddyn pan yn cerdded yng nghanol y coed chi’n cael eich taro gan yr awyr iach ac mae’r llygaid yn cael gwledd o liwiau bendigedig yr hydref.

Mae’r lle yma’n tynnu fi nôl lawr i’r ddaear ac oddi wrth bwrlwm y byd gwaith. Mae’n gyfle i gael hoe o’r gwaith bob dydd heb orfod rhoi’r camera i lawr.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Cychwyn

Yr hyn sy’n arbennig am Gwm Coed Penllergare yw dyma le dechreuodd ffotograffiaeth yng Nghymru. Nôl yn y 1850au roedd teulu John Dillwyn Llewelyn yn byw yn y stâd. Roedd gwraig John, sef Emma Thomasina Talbot, yn gyfnither cyntaf i Henry Fox Talbot sef dyfeisiwr y broses negatif a fu mewn cystadleuaeth â’r Ffrancwr Louis Daguerre (dyfeisydd y broses ffotograffiaeth a elwir y daguerreotype) yn 1839.

Roedd y teulu Dillwyn yn gyfoethog iawn, â tad John Dillwyn yn berchen ar weithfeydd crochenwaith Cambrian yn Abertawe.

Felly roedd hyn yn galluogi John Dillwyn i ganolbwyntio ar ei ddiddordebau ym maes gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ar ei dir fe adeiladodd arsyllfa a dyma ble wnaeth John a’i ferch Thereza dynnu y llun cyntaf o’r lleuad. Roedd ei chwaer ieuengaf, Mary Dillwyn, hefyd yn amlwg yn y maes ac yn cael ei chyfrif fel ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru.

Adeg hynny camera bach oedd gan Mary yr hawl i'w ddefnyddio tra fod y dynion yn defnyddio’r camerâu mawr. Ond roedd hyn yn ei galluogi hi i gymryd lluniau fwy candid / naturiol o bobl.

Yn anffodus does dim llawer o hanes wedi’i cofnodi am Mary. Oherwydd rôl y fenyw yn yr oes yna bu rhaid i Mary roi’r gorau i ffotograffiaeth pan briododd hi a symud i ffwrdd i fyw gyda’i gŵr yn y canolbarth.

Ond mae ‘na un casgliad o’i lluniau wedi eu digido gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Achub y stâd

Yn anffodus bomiwyd y stad yn y 1960au. O 2000 ymlaen sefydlodd grŵp o wirfoddolwyr elusen i achub y tirwedd.

Fel ffotograffydd sy’n hoffi mynd yno i grwydro i dynnu lluniau o natur, dwi’n ddiolchgar iawn fod gan y teulu Dillwyn ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth sy’, mewn ffordd, wedi creu cynfas perffaith i artistiaid.

Dyma gasgliad bach o luniau o Gwm Coed Penllergare trwy’n llygaid bach i.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon