鶹Լ

Ffordd ynghau yn Sir Gâr yn dilyn tirlithriad

Tirlithriad
  • Cyhoeddwyd

Mae ffordd yn Sir Gaerfyrddin ynghau wedi i ran o'r lôn gael ei dinistrio mewn tirlithriad.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael galwad fore Mawrth am y digwyddiad ar y ffordd rhwng Cynwyl Elfed a Threfechan.

"Cafodd galwad ei dderbyn am 08:20 yn adrodd tirlithriad ar ffordd annosbarthedig rhwng Trefechan a Chynwyl Elfed, sydd wedi cau'r ffordd," meddai'r llu.

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael gwybod."

Daw cyn i Storm Ciaran ddod â rhagor o dywydd garw ar gyfer rhannau helaeth o Gymru dros y dyddiau nesaf.

Disgrifiad,

Mae dŵr eisoes wedi mynd i mewn i rai cartrefi yn Sir Gâr

Dywedodd aelod cabinet trafnidiaeth Cyngor Sir Gâr, y cynghorydd Edward Thomas: "Oherwydd rhesymau diogelwch amlwg, ry'n ni'n gofyn i bobl gadw draw o'r ardal.

"Mae disgwyl i Storm Ciaran daro Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher a dydd Iau, felly byddwn yn annog gyrwyr a cherddwyr i gymryd gofal ychwanegol tra'n teithio dros y dyddiau nesaf."

Ffynhonnell y llun, Heulwen Lewis

'Dim byd yn dala’r hewl lan'

Dywedodd Heulwen Lewis sy'n byw ar Heol Henfwlch gerllaw: "Ma’ hanner yr hewl wedi cwympo mewn, ma' crac yn yr hanner arall, a s’dim byd yn dala’r hewl lan.

&ܴdz;Ѳ’r landslide ‘di dod trwyddo i’r caeau.

"Chi’n gweld e o’ch blaen chi. Fi 'di bod yn watcho fe trwy’r bore yn cwympo trwyddo wrth i bobl cerdded drosto fe yn checkio bod e’n iawn.

"Chi’n gweld y cerrig yn dod lawr.”

Ychwanegodd Gaynor Lewis, sydd hefyd yn byw ar Heol Henfwlch ei bod yn rhagweld y bydd hi'n "flwyddyn siŵr o fod cyn bo' nhw’n cael yr hewl hyn ar agor".

"Mae’n mynd i fod yn broblem fawr achos yn aml mae dwy hewl gyda chi i Gaerfyrddin o Gastell Newydd a Llandysul.

"Os ma’ hewl Bronwydd ar gau, ma' pawb yn dod ffordd hyn. Os ma' hon ar gau a hewl Bronwydd ar gau, s'dim ffordd i fynd i’r dre'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai adeiladau ym mhentref Bronwydd wedi dioddef llifogydd, medd Dorian Evans

Ychwanegodd Dorian Evans o bentref Bronwydd gerllaw fod dŵr wedi llifo i gartrefi yn yr ardal honno oherwydd y tywydd garw dros y dyddiau diwethaf, hyd yn oed cyn i'r storm daro'r ardal.

&ܴdz;Ѳ’r cymdogion i gyd wedi cael dŵr mewn yn y garej a’r utility, a dim dŵr g'lan yw e," meddai.

"Cerrig, coed a mwd yw e fwya', a mae e fel slime really, ym mhobman."

Rhagor o dywydd garw ar y ffordd

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar rhybudd tywydd gwahanol mewn grym i Gymru dros y dyddiau nesaf

Mae amryw o rybuddion tywydd mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru dros y dyddiau nesaf, wrth i Storm Ciarán daro'r DU.

Bydd rhybudd melyn am law trwm mewn grym o 18:00 nos Fercher ar gyfer hanner deheuol y wlad, ac yna rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o'r de a'r canolbarth o 21:00 y noson honno.

Fe fydd y ddau rybudd yna mewn grym trwy gydol dydd Iau hefyd, tan hanner nos, ac mae rhybudd gwahanol am law trwm mewn grym ar gyfer y gogledd trwy gydol y diwrnod hwnnw.

Rhwng 03:00 a 13:00 ddydd Iau mae rhybudd oren mwy difrifol am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau o arfordir Sir Benfro.

Mae amryw o rybuddion llifogydd eisoes mewn grym gan hefyd.