Beth yw gobeithion rhai o'r ASau newydd?

Disgrifiad o'r llun, Mae 13 o'r 32 AS sydd wedi eu hethol yng Nghymru yn aelodau newydd

Gyda 32 o aelodau seneddol wedi'u hethol yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, maen nhw bellach wedi cyrraedd San Steffan ac yn barod i gychwyn ar eu gwaith.

Allan o'r 32 aelod, mae 13 ohonyn nhw yn rhai newydd.

Gyda鈥檙 Ceidwadwyr wedi colli eu holl seddi yng Nghymru, mae鈥檙 aelodau newydd yn cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd yr AS Llafur newydd ar gyfer Canol a De Penfro, Henry Tufnell, ei fod yn "hynod gyffrous i fod yn rhan o hwn i gyd".

Mae Llinos Medi, AS Plaid Cymru Ynys M么n, eisoes wedi ymweld 芒 Th欧'r Cyffredin yn rhinwedd ei swydd flaenorol ond dywed ei bod yn "nerfus" cychwyn y r么l newydd.

Roedd yna nifer fawr yn ffarwelio ag AS Plaid Cymru Caerfyrddin, Ann Davies, yng Nghaerfyrddin ddydd Llun.

Dywedodd ei bod yn "barod am y gwaith ac am y sialens".

Bydd yr aelodau yn tyngu llw ddydd Mawrth. Mae bellach modd gwneud hyn yn Gymraeg.

Heriau economaidd Ynys M么n

Dywedodd Llinos Medi, AS newydd Ynys M么n fod bywyd yn "dra gwahanol" yn Llundain.

"'Chydig ddyddiau yn 么l roedd rywun yn nocio drysau yn Ynys M么n a r诺an ma' rywun wedi cyrraedd fama, ag yndi mae'n dod 芒 fo yn realiti go iawn bo' fi wedi cael fy ethol a fod genna i swydd i'w wneud yma 'wan."

Er ei bod yn gymharol gyfarwydd 芒'r lleoliad yn rhinwedd ei swydd flaenorol, dywedodd ei bod "heb os yn nerfus, ond mae 'na gyffro hefyd achos mae 'na gyfle r诺an i ddod a llais Ynys M么n yma a llais sydd yn nabod yr ynys yn dda a'i hanghenion".

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald Roberts

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Ben Lake, Llinos Medi, Liz Saville-Roberts ac Ann Davies ail-greu llun eiconig Plaid Cymru o 1992

Wrth edrych ymlaen at ei r么l newydd, dywedodd ei bod eisiau ffocysu ar "yr heriau economaidd gwahanol i ardaloedd fel Ynys M么n a herio鈥檙 llywodraeth i feddwl yn greadigol".

Dywedodd: "Does gen i ddim syniad beth i ddisgwyl ond na'i gymryd o fel mae'n dod a rhoi fy ngorau."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "bwysig 'mod i'n cadw'n ffyddlon i fi fy hun".

Gwella trafnidiaeth gyhoeddus Cymru

Wrth deithio i Lundain ddydd Iau er mwyn cychwyn ei r么l newydd fel AS Canol a De Penfro, fe brofodd Henry Tufnell drafferthion gyda'r gwasanaeth tr锚n.

"Mae'r trenau yn ofnadwy i Sir Benfro," meddai.

"Maen nhw鈥檔 stopio yng Nghaerfyrddin a ti methu cael tr锚n yn syth i Lundain.

"Mae wir yn ofnadwy. Byddai鈥檔 dda os allai Great Western Railway wneud rhywbeth am y sefyllfa.鈥

Mae rhai o鈥檙 trafferthion teithio sy鈥檔 wynebu ei etholaeth wedi eu datganoli, meddai, ac y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithio ar hynny.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Henry Tufnell fod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth iddo

Dywedodd fod datrys trafferthion trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth iddo yn ei r么l newydd.

Byddai gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn cael 鈥渆ffaith enfawr ar yr economi leol" ac ychwanegodd fod hynny yn hanfodol ar gyfer twristiaeth.

鈥淢ae twristiaeth yn rhan allweddol o鈥檙 economi leol ac rydym wir angen cael hwnna i fyny ac yn weithredol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn greiddiol i hynny."

Wrth bwysleisio pwysigrwydd yr economi leol, ychwanegodd fod "swyddi sy'n talu'n dda yn allweddol".

'Gwell tegwch ariannol i Sir Gaerfyrddin'

Un arall sydd wedi cyrraedd Llundain i gychwyn ar ei r么l newydd fel AS Caerfyrddin yw Ann Davies.

Wedi i nifer ymgynnull yng ngorsaf dr锚n Caerfyrddin fore Llun i ffarwelio ag Ann Davies, dywedodd ei fod yn "teimlo'n gr锚t" i gael y gefnogaeth".

"Oedd o jyst yn wych, oedd e mor annisgwyl," meddai.

Wrth iddi gael ei holi ddydd Llun, dywedodd nad oedd wedi mentro mewn i D欧'r Cyffredin eto.

Dywedodd: "Fi'n barod am y gwaith ac am y sialens hollol wahanol i beth o ni鈥檔 meddwl y bydden ni鈥檔 neud, fi鈥檔 barod ac fe ngwna i fy ngorau.

"Fe wna i o hyd fy ngorau dros y sir dwi 'di cael fy magu ynddi ac sy鈥檔 agos iawn i鈥檓 calon".

Disgrifiad o'r llun, Roedd torf wedi ymgynnull i ffarwelio ag Ann Davies yng ngorsaf dr锚n Caerfyrddin

鈥淒wi mo'yn fod yn rhan o d卯m sy'n cael gwell tegwch yn ariannol i Sir Gaerfyrddin, fi 'di bod trwy鈥檙 cyngor, yn rhan o鈥檙 cyngor, fi鈥檔 gweld cymaint o gwtogi sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.

"14 o flynyddoedd o doriadau bob blwyddyn a鈥檙 flwyddyn ddiwethaf ro' ni鈥檔 edrych ar 22 milion pounds o doriadau."

Aeth ymlaen i ddweud mai: 鈥淭egwch i Sir Gaerfyrddin i fi eisiau... efallai ma' 'da fi syniadau yn fy meddwl i nawr, ar hyd y daith fydd 'na syniadau eraill鈥.

A hithau'n wraig ffarm ac yn hunan gyflogedig, dywedodd: 鈥淩y' ni鈥檔 cadw fynd, ry' ni鈥檔 bobl ddygn iawn a 'na鈥榬 teip o berson ydw i a fyddai鈥檔 delio gydag unrhyw beth fydd yn dod ar fy nhraws."