Cannoedd o bobl yn angladd Dewi 'Pws' Morris

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Dewi 'Pws' Morris ym mis Awst, yn 76 oed

Daeth cannoedd o bobl at ei gilydd ar gyfer angladd Dewi 'Pws' Morris ym Mangor ddydd Iau.

Roedd degau o bobl yn sefyll ar hyd strydoedd Nefyn ar gyfer taith olaf y diddanwr poblogaidd trwy'r dref cyn yr angladd.

Bu farw ym mis Awst, yn 76 oed, yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Dywedodd Cleif Harpwood, ei ffrind a chyd-aelod o'r band Edward H Dafis, "ein bod ni wedi colli arwr cenedlaethol".

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Cleif Harpwood "ein bod ni wedi colli arwr cenedlaethol"

Roedd Dewi 'Pws' Morris yn fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.

Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam.

Disgrifiad o'r llun, Roedd het nodweddiadol Dewi Pws ar ben yr arch ynghyd â blodau siâp banjo a baner y Ddraig Goch

Dywedodd Cleif Harpwood: "Ni 'di colli rhywun oedd yn agos i bawb.

"Rwy'n credu bod pawb yng Nghymru o glywed am ei golli e yn teimlo'r golled yna."

"O'dd e'n anhygoel bod yn ei gwmni e.

"O'dd e fel fyse fe'n nabod pawb a phawb yn ei nabod e ac ma hynny'n beth prin a bydd ei golled ar ei ôl e'n fawr.

"Rwy'n teimlo fy mod i wedi colli rhywun pwysig iawn yn fy mywyd i."

Watch Moments
Disgrifiad o'r fideo, Roedd pobl yn sefyll tu allan i dafarn Yr Heliwr i ddangos parch wrth i'r hers fynd heibio

Yn Nefyn y penderfynodd ymgartrefu, gyda'i wraig Rhiannon, wedi blynyddoedd o fyw yn Nhre-saith.

Fe adawodd yr hers a'r teulu ei gartref ar gyrion y dref am hanner dydd cyn ymlwybro tua Morfa Nefyn a ffatri Cwrw LlÅ·n, heibio tafarn y Bryncynan ar eu taith i Fangor.

Ymhlith y bobl oedd yn gwylio'r orymdaith y tu allan i dafarn Yr Heliwr oedd Endaf Wilson.

"Dwi yn ei nabod o ers blynyddoedd a bydd colled mawr ar ei ôl," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Aelodau'r band Edward H Dafis: Charli Britton, Hefin Elis, Dewi Pws, John Griffiths a Cleif Harpwood

Ddydd Iau, fe bostiodd y band Mynediad Am Ddim englyn - mae'n ymddangos gan Robin Evans o'r band - yn coffau tri o aelodau gwreiddiol Edward H Dafis.

Bu farw'r gitarydd bas John Griffiths yn 2018 a'r drymiwr Charli Britton yn 2021.

I osgoi neges Facebook
Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Facebook a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna tua 300 o alarwyr yn y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ac roedd llawer yn gwisgo macynnau coch a gwyn ar gais y teulu

Roedd yr angladd ei hun, yn Amlosgfa Bangor, yn wasanaeth cyhoeddus "i ddathlu bywyd Dewi" ac roedd yna tua 300 o alarwyr.

Mewn neges gyhoeddus, roedd ei deulu wedi gofyn i fynychwyr wisgo macynnau lliwgar coch a gwyn oedd yn nodweddiadol o'i gyfnod gyda’r band Edward H Dafis.

Gan ragweld diddordeb mawr yn y gwasanaeth, fe rybuddiodd yr ymgymerwyr y byddai ond yn bosib i 250 ei wylio ar-lein.

Roedd Cymdeithas yr Hoelion Wyth wedi estyn gwahoddiad i bobl nad oedd wedi gallu teithio i'r gogledd "ddod i Dafarn Ffostrasol lle bydd modd gwylio darllediad o'r angladd".