鶹Լ

Apêl ysgol am ddillad prom i helpu gyda chostau byw

disgyblion gyda rhai o'r dillad sydd ar gael
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Brynrefail - Betsan, Erin a Kieran - gyda rhai o'r dillad sydd ar gael i'w benthyg

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn galw am gymorth gan y gymuned i helpu disgyblion i fedru mynd i’w prom diwedd blwyddyn.

Gyda chostau byw yn pwyso mae Ysgol Brynrefail yn Llanrug wedi galw am roddion neu fenthyciad o siwtiau a ffrogiau i ddisgyblion fyddai methu mynd i’r dathliadau fel arall oherwydd y gost.

Dywedodd Jennifer Hughes, pennaeth blwyddyn 10 ac 11, a threfnydd y prom: “Mae 'na gwpl wedi dod atom ni a dweud yn blwmp ac yn blaen eu bod nhw methu dod oherwydd costau.

“Mae’n ofnadwy o drist i wybod mai dyna’r rheswm - 'da ni’n gobeithio fod pawb yn edrych ymlaen at y prom.

"Felly mi rydyn ni wedi siarad efo nhw i weld os oes ffordd rownd y peth.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jennifer Hughes bod rhai disgyblion wedi dweud na allan nhw fynychu'r prom oherwydd costau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae prom ar ddiwedd arholiadau TGAU a Lefel A wedi dod yn boblogaidd mewn ysgolion ar draws Cymru.

Mae’r arfer Americanaidd wedi dod yn uchafbwynt y flwyddyn, ac yn ffordd o ddathlu gorffen arholiadau a nodi llwyddiant.

“Mae’r prom yn bwysig i lot o bobl,” meddai Kieran, disgybl blwyddyn 11 Ysgol Brynrefail.

“Mae pawb wedi bod yma efo’i gilydd ers pum mlynedd a rhai ers dechrau ysgol gynradd - felly ers 15 mlynedd.

"Mae’n bwysig i ni ddod at ein gilydd i celebratio efo’n gilydd.

“Ond mae ‘na lot o pressure i impressio - a ma’ siwt yn costio o leia’ £150.”

Ychwanegodd ei gyd-ddisgybl Betsan: “Mae 'na gymaint o luniau yn cael eu postio [ar y cyfryngau cymdeithasol] - 'da ni eisiau edrych ein gorau felly mae 'na bwysau i brynu ffrog newydd, a thalu am ewinedd a lashes.”

Disgrifiad o’r llun,

Kieran - yn ei wisg ysgol, ac yn modelu un o'r siwtiau sydd ar gael

Mae Ysgol Brynrefail eisoes yn ceisio cadw’r gost yn isel drwy fynd i westy lleol ac arbed costau teithio.

Mae’r ysgol hefyd yn talu am hanner pris y tocyn - sy’n £23 eleni - i ddisgyblion sy’n cael cinio am ddim.

Maen nhw nawr wedi gyrru neges at rieni yn gofyn am unrhyw roddion neu fenthyciad o ddillad addas ac yn ceisio lledaenu’r neges i weddill y gymuned.

Dywedodd Jennifer Hughes: “Dwi’n meddwl, efo’r hinsawdd ar y funud, mae 'na dipyn o alw, ac mae dipyn o’r disgyblion wedi dod ata i i ddweud eu bod nhw’n pryderu.

“Mi rydan ni’n galw ar y gymuned ac yn gofyn am help os oes gan unrhywun ffrogiau, bagiau, crysau, unrhyw beth sy’n addas.

"Ella bod ganddyn nhw blant oedd yn ddisgyblion yma o’r blaen ac efo dillad addas.

"Mae’r ymateb wedi bod yn grêt - mae rhai wedi dod a phethau yma yn barod.”

Dillad ail law yn boblogaidd

Gan fod yr athrawon yn adnabod eu disgyblion, maen nhw’n ceisio trafod mewn ffordd sensitif gyda’r rhai sy’n debygol o fod angen cymorth.

Ond mae 'na obaith hefyd y bydd posib ehangu’r ddarpariaeth wrth i agweddau newid tuag at fenthyg ac ailddefnyddio.

Dywedodd Ms Hughes: “Mae’n fwy derbyniol rŵan i brynu yn ail law - mae’n rhywbeth mawr - felly gobeithio fydd mwy yn fodlon gwisgo dillad ail law neu swapio ffrogia'.

“Tydi o yn ddim byd i deimlo cywilydd amdano, a dwi’n meddwl y byddai'r rheini yn falch os fydda ni’n cymryd y pwysau yna i ffwrdd.”

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r ffrogiau sydd ar gael i'w benthyg

Er y pryder am gostau, mae hefyd angen cydnabod pwysigrwydd y prom fel ffordd o wobrwyo disgyblion ar ôl eu harholiadau, meddai Non Gwyn Jones, arweinydd cynnydd yr ysgol.

“Y prom ydy uchafbwynt y flwyddyn," meddai.

"Mae’n rhoi’r anogaeth i weithio’n galed ac yn gwneud i ddisgyblion feddwl am sut maen nhw’n ymddwyn yn yr ysgol.

"Maen nhw’n gwybod ein bod ni’n edrych ar eu hymdrech ac ymddygiad drwy’r flwyddyn ac mae’n wobr ar ddiwedd y flwyddyn.”

Y cymdeithasu sy'n bwysig

Ac yn ôl Erin, disgybl blwyddyn 11, mae’n bwysig cofio’r prif reswm dros fynd i'r digwyddiad.

“Ond un diwrnod ydy o, ac mae’r prom yn fwy i 'neud efo cymdeithasu yn hytrach na sut 'da chi’n edrych.

"Dydi pobl ddim yn siarad am stryglo ac mae’n bwysig i wybod bod 'na help.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwysig i bob ysgol ystyried goblygiadau ariannol unrhyw weithgaredd a rhoi cefnogaeth i rai sydd ei angen.