Cyffur canser i atal pobl rhag 'cymryd cam mor drastig'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Sian Powell ei bod yn "gorfod meddwl be' dwi wedi'i basio 鈥檓laen" i'w merched
  • Awdur, Elen Wyn
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae mam o Sir Ddinbych a ddewisodd gael llawdriniaeth mastectomi dwbl yn 25 oed wedi dweud ei bod yn falch fod cyffur bellach ar gael yn ehangach i ferched sydd mewn peryg o gael canser y fron.

Dywedodd Sian Powell ei bod yn gobeithio y bydd mwy o opsiynau yn golygu na fydd yn rhaid i bobl "gymryd cam mor drastig 芒 dwi wedi'i 'neud".

Mae Anastrozole, oedd am flynyddoedd ond yn cael ei ddefnyddio i drin y clefyd, bellach wedi ei drwyddedu i fod yn gyffur a all atal y canser hefyd.

Cafodd y cyffur ei gymeradwyo yn swyddogol yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf, ond roedd eisoes ar gael yng Nghymru.

Er hynny, mae elusen yn gobeithio y bydd y cyffur nawr yn haws i'w gael yma, ac y bydd mwy o fenywod yn manteisio ar y cyfle i鈥檞 ddefnyddio.

Be' ydy Anastrozole?

Yn Lloegr, dim ond menywod oedd wedi cael diagnosis o ganser y fron oedd yn arfer cael Anastrozole.

Ond yr wythnos ddiwethaf cafodd ei drwyddedu鈥檔 swyddogol i fod yn driniaeth a all rwystro'r canser.

Mae newid pwrpas y cyffur yn swyddogol yn golygu y gall merched sydd mewn cyfnod 么l-menopos, neu sydd mewn peryg o gael canser y fron, gymryd y tabledi.

Mae Anastrozole eisoes wedi bod yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru fel triniaeth ataliol mewn rhai achosion.

Mae'n gyffur rhad i鈥檞 gynhyrchu, ac mae arbenigwyr yn gobeithio y bydd yn gallu arbed miloedd o fywydau, yn ogystal 芒 miloedd o bunnau i鈥檙 gwasanaethau iechyd.

Un dabled y dydd am bum mlynedd 鈥 dyna鈥檙 dos - a鈥檙 effaith amddiffynnol, mae鈥檔 debyg, yn para am flynyddoedd hyd yn oed ar 么l rhoi gorau i鈥檞 gymryd.

O gymryd y cyffur, mae yna beth risg o rai sgil-effeithiau - sy鈥檔 debyg i symptomau'r menopos, fel pyliau o wres, teimlo'n wan a phoen yn y cymalau.

'Yr opsiwn oedd ar gael i fi'

Disgrifiad o'r llun, Mae Sian Powell yn gobeithio y bydd mwy o opsiynau yn golygu na fydd yn rhaid i bobl "gymryd cam mor drastig 芒 dwi wedi'i 'neud"

Mae Sian Powell, 35, yn fam i dair merch ac yn rhedeg busnes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata o鈥檌 chartref ym mhentref Rhewl ger Rhuthun.

11 oed oedd Sian pan fu farw ei mam o ganser y fron, a hithau鈥檔 ei 40au.

Gyda chanser yn rhedeg yn y teulu, yn 25 oed penderfynodd Sian gael llawdriniaeth mastectomi dwbl.

鈥淣es i 'neud y penderfyniad drastig i gael double mastectomy yn eitha' ifanc - wel, yn ifanc iawn," meddai.

鈥淗wn oedd yr opsiwn oedd ar gael i fi ac oedd well gen i gael tawelwch meddwl.

鈥淯nwaith 'naethon nhw gynnig o i fi, o'n i鈥檔 meddwl 'dwi鈥檔 sicr yn mynd i 'neud hyn'. O鈥檇d o鈥檔 fwy o pryd yn hytrach na os."

'Delio efo鈥檙 peth cyn gynted 芒 phosib'

Llawdriniaeth radical oedd yr unig ddewis i Sian ar y pryd.

鈥淒wi鈥檔 meddwl fod yr oed 'naeth dy riant di farw fel rhyw drothwy - ti鈥檓 yn gweld yn bellach na鈥檙 oed yna,鈥 meddai.

鈥淎c er mai 25 o鈥檔 i, ac mi oedd yna ddigon o amser tan hynny [yr oed y bu farw ei mam], o'n i鈥檔 meddwl 'yr agosa dwi鈥檔 mynd at gyrraedd yr oed yna, y mwya鈥 mae o鈥檔 mynd i'm mhoeni i'.

鈥淔elly, mae鈥檔 well i mi ddelio efo鈥檙 peth cyn gynted 芒 phosib, a chyn cael plant.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Un dabled y dydd am bum mlynedd ydy'r dos o Anastrozole

Er yn croesawu鈥檙 newyddion fod Anastrozole wedi cael ei drwyddedu yn swyddogol fel cyffur ataliol, tydi Sian ddim yn difaru ei phenderfyniad hi.

鈥淒wi鈥檔 meddwl fod y cyffur yn cael ei gynnig i ferched h欧n, ac yn h欧n hyd yn oed na be' oedd mam pan gafodd hi鈥檙 diagnosis," meddai.

"Felly dwi ddim yn si诺r, tasa鈥檙 cyffur ar gael ar y pryd, os fasa fo wedi newid fy meddwl i.

鈥淥nd, dwi yn cadw llygaid ar y datblygiadau yn y maes achos mae gen i dair o genod, ac wrth gwrs yr ystyriaeth arall dwi鈥檔 gorfod meddwl ydi be' dwi wedi'i basio 鈥檓laen iddyn nhw.

"Felly gobeithio fydd yna fwy a mwy o bethau yn dod allan fydd yn sicrhau fod yna fwy o bobl yn gallu cael fwy o opsiynau, fydd ddim, o reidrwydd, yn golygu cymryd cam mor drastig 芒 dwi wedi'i 'neud.鈥

Gobaith y bydd yn haws i'w gael

Er mai cyhoeddiad i Loegr a wnaed yr wythnos ddiwethaf, yn 么l elusen Breast Cancer Now, mae ymestyn y drwydded 鈥測n berthnasol i ferched yng Nghymru".

Tydi鈥檙 elusen 鈥渄dim yn credu y bydd y cyhoeddiad o Loegr yn cynyddu nifer y merched yng Nghymru sy鈥檔 gymwys i gymryd Anastrozole鈥, ond maen nhw鈥檔 gobeithio y bydd y cyffur yn haws i鈥檞 gael.

Dywedodd Breast Cancer Now fod y 鈥渘ifer sy'n manteisio ar yr opsiwn" o gymryd y cyffur fel mesur ataliol "yn isel" ar hyn o bryd.聽

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn Lloegr, dim ond menywod oedd wedi cael diagnosis o ganser y fron oedd yn arfer cael y cyffur

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd Anastrozole eisoes yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru ac ar gael i'r rhai sy'n gymwys, cyn cyhoeddiad yr MHRA yr wythnos diwethaf.

"Rydym yn disgwyl i'r NHS yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn unol 芒'r argymhellion presennol gan NICE a gofynion mynediad y Gronfa Triniaethau Newydd.

"Gall byrddau iechyd ddarparu gwybodaeth fwy penodol am argaeledd y driniaeth hon."