Â鶹ԼÅÄ

Cymru am 'roi penderfyniadau am TB i'r ffermwyr'

GwarthegFfynhonnell y llun, Reuters
  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru wedi dweud ei bod yn bwysig rhoi penderfyniadau'n ymwneud â'r diciâu mewn gwartheg yn nwylo ffermwyr.

Roedd Huw Irranca-Davies, sydd hefyd bellach yn ddirprwy brif weinidog, yn siarad ar raglen Dros Frecwast o Sioe Amaethyddol Ynys Môn ddydd Mawrth.

Roedd eisoes wedi dweud ei fod yn sefydlu bwrdd penodol i geisio diddymu'r clefyd yng Nghymru.

Yn ei gyfweliad Cymraeg cyntaf ers ei benodiad yn ddirprwy brif weinidog, pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cael atebion penodol i'r sefyllfa yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Irranca-Davies yn Ysgrifennydd Materion Gwledig ac yn Ddirprwy Brif Weinidog

Dywedodd: "Dwi 'di bod yn cwrdd â ffermwyr a milfeddygon a'r diwydiant ac wedi gwrando ar y pryderon TB.

"Felly rydw i'n cydnabod yr effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a'r busnesau.

"Mae'n rhaid nawr i'r bwrdd fynd ymlaen gyda rhaglen o waith er mwyn i ni waredu TB yng Nghymru.

"Mae grŵp cynghori technegol wedi dweud bod bywyd gwyllt yn rhywbeth i edrych arno, felly bydd y bwrdd yn ystyried unrhyw gyngor gan y grŵp cynghori technegol ac yn cyflwyno cyngor i fi hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Ysgrifennydd ar Ynys Môn ar gyfer diwrnod cyntaf Sioe Amaethyddol yr ynys ddydd Mawrth

Fe'i holwyd ymhellach am y gwahaniaethau rhwng dull Cymru a Lloegr o fynd i'r afael â'r clefyd.

Atebodd: "Byddwn ni yn mynd ymlaen yng Nghymru gyda rhaglen gwaredu TB yn ffocysu ar y problemau yng Nghymru, nid yn Lloegr.

"Rydyn ni yn gwneud llawer o bethau diddorol a phethe effeithiol yng Nghymru.

"[Rhaid] rhoi decisions o ran TB i'r ffermwr ei hun - mae'n bwysig i ddweud bod rhaid ni fynd ymlaen yng Nghymru gyda'r solutions yng Nghymru, yn specific i Gymru."

'Dim byd yn newid'

Gofynnwyd iddo hefyd pa mor ymarferol oedd gwneud y ddwy swydd, sef Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

"Wel, rydw i'n edrych ymlaen at wneud y ddwy swydd," meddai.

"Yn effeithiol, does dim byd yn newid - dwi yma heddiw nawr yn y Sioe ar Ynys Môn yn edrych ymlaen at gerdded y maes yn siarad â ffermwyr a llawer o bobl eraill.

"Ond does dim byd yn newid - dwi yn cadw ymlaen i siarad gyda'r gymuned ffermio, grwpiau amgylcheddol, gyda sefydliadau newid hinsawdd, a'r sefydliadau bio amrywiaeth.

"Mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen."