Â鶹ԼÅÄ

Lee Waters i adael ei rôl fel Gweinidog Trafnidiaeth

Lee Waters
  • Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Lee Waters, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y rôl unwaith y bydd prif weinidog newydd yn cael ei ethol.

Mr Waters oedd wedi arwain y broses ddadleuol o gyflwyno terfyn cyflymder 20mya newydd ar ffyrdd yng Nghymru.

Mae'r ddau ymgeisydd i gymryd yr awenau fel prif weinidog ar ôl Mark Drakeford wedi addo adolygiad o'r canllawiau a roddwyd i gynghorau ar ba ffyrdd i'w heithrio.

Ond mae Vaughan Gething a Jeremy Miles wedi cadarnhau na fydd y gyfraith yn cael ei dileu.

Yn dechnegol, mae pob gweinidog yn rhoi’r gorau i'w swyddi pan fydd prif weinidog newydd yn cymryd yr awenau, ond dyw hi ddim yn glir a yw Mr Waters yn dymuno dychwelyd i'r meinciau cefn neu ymgymryd â swydd arall yn y cabinet.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r terfyn cyflymder 20mya wedi bod yn hynod ddadleuol

Teitl swyddogol Mr Waters yw’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Wrth wneud y cyhoeddiad ar wefan X, Twitter gynt, cadarnhaodd Mr Waters y byddai'n dileu ei gyfrif pan fydd yn gadael ei rôl drafnidiaeth.

"Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydw i wedi treulio gormod o amser ar Twitter," meddai.

"Fe stopiodd fod yn hwyl ychydig yn ôl, ond nawr rwy'n cael pentwr o sylwadau cas ar gyfer hyd yn oed y negeseuon mwyaf diniwed."

Yn y Senedd fis Medi diwethaf, fe wnaeth Mr Waters oroesi pleidlais o ddiffyg hyder gafodd ei gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae'r Ceidwadwyr eisiau i'r gyfraith 20mya gael ei dileu, ond yn cefnogi'r syniad mewn mannau megis o amgylch ysbytai ac ysgolion.

Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Waters, dywedodd eu harweinydd yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Bydd gyrwyr a pherchnogion busnesau ledled Cymru yn anadlu ochenaid o ryddhad wrth glywed y newyddion yma.

"Mae cyfnod y dirprwy weinidog yn y swydd wedi bod yn un polisi gwrth-fodurwyr ar ôl y llall, gan arafu Cymru a gwneud niwed difrifol i'n heconomi."