Siarad am dy ffydd? Haws dweud na gwneud!

Ffynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Mae llais ac enw Gareth Iwan Jones yn gyfarwydd i nifer o wrandawyr 麻豆约拍 Radio Cymru fel un o'r criw ar raglen Tudur Owen bob prynhawn Gwener a bore Sadwrn am flynyddoedd.

Ond yn ddiweddar, mae Gareth, sydd yn gweithio fel Uwch Gynhyrchydd i'r orsaf, wedi cael ei benodi yn Ganon Lleyg 芒 Chadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Yma mae'n egluro fod y penodiad wedi codi'r cwestiwn yngl欧n 芒 sut wyt ti'n 'cyfaddef' dy fod gen ti ffydd...

Siarad am grefydd yn 'no-no'

Mae nhw鈥檔 deud fod 鈥榥a ddau beth na ddylia chi byth drafod hefo ffrindiau 鈥 gwleidyddiaeth a chrefydd.

Mae鈥檔 rhaid i mi ddeud mod i鈥檔 torri鈥檙 rheol am wleidyddiaeth yn reit aml ac wedi rhoi鈥檙 byd gwleidyddol yn ei le am oriau yn nhafarndai Bangor, Caernarfon a Sir F么n ar hyd y blynyddoedd.

Ond mae siarad am grefydd - neu鈥檔 waeth fyth ffydd - yn bendant dal yn 鈥no-no鈥. Mae hynny鈥檔 un rheswm pam fod rhai o fy ffrindiau wedi cael dipyn o syndod yn ddiweddar pan nes i s么n mod i鈥檔 mynd i fod yn Ganon Lleyg yn y Gadeirlan ym Mangor.

Ffynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Disgrifiad o'r llun, Gareth yn cael hwyl efo Tudur a Manon yn stiwdio Radio Cymru ym Mangor

R诺an, mae rhannu鈥檆h profiad o ffydd hefo ffrindiau neu gyd-weithwyr yn medru bod yn brofiad digon chwithig i unrhyw un am wn i, ond pan mae un o鈥檆h ffrindiau gora yn ddigrifwr doniol iawn, a dau arall yn cyd-gyflwyno hefo fo ar y radio, mae鈥檙 lefel o risg yn teimlo鈥檔 eithaf uchel...

Ond dwi鈥檔 ystyried Tudur Owen, Dyl Mei a Manon Rogers-Hyphen-Thomas yn ffrindiau agos iawn, felly roedden nhw ymysg y cyntaf i glywed y newyddion.

'Canon Gareth'

Gyrru neges Facebook nes i yn y lle cyntaf 鈥 鈥淥, gyda llaw, dwi am fod yn Ganon...鈥 gan drio gwneud i鈥檙 peth swnio mor ddi-nod a naturiol a phosib.

Mi oedd yr ymateb yn hollol hyfryd 鈥 wrth gwrs ei fod o, ma' nhw鈥檔 griw caredig ac yn ffrindiau annwyl.

Do, mi wnaethon nhw dynnu coes ar y radio - ma' hynny鈥檔 rhan o鈥檔 perthynas ni, ac i fod yn onest mi fyddwn i wedi bod yn siomedig petai nhw ddim wedi s么n a chael hwyl am y peth.

Fe wnaeth un o鈥檙 gwrandawyr gysylltu hefo鈥檙 (hen) j么c 鈥淟longyfarchiadau ar fod yn Ganon 鈥 dim ond pistol oedd Paul!鈥 ac ar yr awyr o hyn allan 鈥楥anon Gareth鈥 fydda i, nid 鈥楻hew A Lemon鈥 neu 鈥楳am鈥.

Ond mi ges i negeseuon hyfryd ganddyn nhw a gweddill y t卯m ym Mangor, ac mi oedd hynny鈥檔 golygu lot fawr.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Manon, Dyl Mei, Tudur Owen a Gareth - yn cyd-ddarlledu ers blynyddoedd ar 麻豆约拍 Radio Cymru

Anodd s么n am ffydd

Mae pawb wrth gwrs yn holi be' goblyn ydy Canon Lleyg. Yr esboniad dwi鈥檔 ei roi ydy ei fod o鈥檔 debyg i lywodraethwr ysgol ond yn y Gadeirlan 鈥 a mae o, ond dyna鈥檙 ateb hawdd i鈥檞 roi yn y swyddfa yn hytrach na鈥檙 holl stori.

Byddaf, mi fydda i鈥檔 cael y fraint o gynrychioli鈥檙 gynulleidfa Gymraeg yn y Gadeirlan. Mae鈥檙 Gymraeg o鈥檙 diwedd yn cael lle teilwng yn ein gwasanaethau, diolch i鈥檙 Is-Ddeon Sion Rhys Evans a鈥檙 t卯m.

Ond dros y blynyddoedd diwethaf yn y Gadeirlan, dwi hefyd wedi cael profiadau gwirioneddol arbennig. Nid tr枚edigaeth fel mellten oddi fry, ond teimlad gynyddol gartrefol - ac ysbrydol.

A dyma eto lle mae trafod ffydd yn anodd i rywun sydd heb arfer. Mae鈥檔 lot haws s么n am 鈥榖rofiad ysbrydol鈥 na s么n am ffydd. Mae鈥檔 lot haws s么n am bwysigrwydd cynyddol y Gymraeg yn y Gadeirlan, na s么n am ffydd. Mae鈥檔 lot haws s么n am ddyletswydd a braint ac anrhydedd, na s么n am ffydd.

Ffynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Disgrifiad o'r llun, Gareth gyda'i wraig, Manon, eu merched, Catrin a Gwenno, a'i rieni

Roeddwn i ar y radio dros y penwythnos, ac ar Bwrw Golwg nid rhaglen Tudur Owen; dipyn o newid, i mi a鈥檙 gwrandawyr! Fe soniais wrth John Roberts na fyddwn i wedi medru derbyn yr anrhydedd yma petawn i ddim yn meddwl fod y Gadeirlan yn lle sy鈥檔 croesawu pawb, yn adeilad a sefydliad gwbl gynhwysol sy鈥檔 dangos cariad tuag at bawb yn ein cymdeithas.

Mae medru bod yn chi eich hun yn rhywbeth mor bwysig mewn bywyd, a dwi鈥檔 credu hynny鈥檔 gryf iawn.

Be' nes i ddim ei ddweud ydy na fyddwn i chwaith wedi medru derbyn y swydd heb ffydd. Ond am ryw reswm mae hynny dal yn anodd i鈥檞 ddweud, hyd yn oed fel Canon Gareth ar Bwrw Golwg! Felly, diolch Cymru Fyw am gael dweud hynny r诺an, ac am gael sgwennu ychydig am be' fydd bod yn Ganon yn ei olygu 鈥 i mi, o leiaf.