麻豆约拍

Merched mewn bandiau yn dal i deimlo 'ofn go iawn'

ChromaFfynhonnell y llun, Cowshed
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Katie Hall wedi bod yn rhannu rhai o'i phrofiadau personol hi o gasineb at ferched

  • Cyhoeddwyd

Mae prif leisydd y band roc, Chroma yn galw am wneud mwy i fynd i'r afael 芒'r hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel casineb parhaus tuag at fenywod yn y diwydiant cerddoriaeth.

Daw sylwadau Katie Hall wrth i'r band baratoi i rannu llwyfan gyda Foo Fighters ar eu taith o amgylch y byd.

Fe soniodd am un achos lle yr oedd dyn dieithr wedi dweud wrth aelodau gwrywaidd y band ei fod "am gael rhyw" gyda hi.

Roedd y band yn siarad fel rhan o ymgyrch 'Iawn' Llywodraeth Cymru, sy'n annog dynion ifanc i helpu dod 芒 thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Mae diogelwch merched yn bwnc sydd yn agos at galon y band o ardal Rhondda Cynon Taf, a'r llynedd fe wnaethon nhw ryddhau albwm o'r enw 'Ask for Angela' - enw a ddaeth o ymgyrch sy'n cael ei weithredu i gefnogi merched mewn bariau, clybiau a busnesau trwyddedig ar hyd y Deyrnas Unedig.

Mae'r ymgyrch yn annog pobl sy'n teimlo dan fygythiad i fynd at aelod o staff a gofyn am 'Angela', er mwyn rhoi gwybod eu bod angen cymorth.

鈥溾橬es i weld poster yr ymgyrch mewn toiled a 'nes i feddwl ei fod yn ddiddorol achos mae鈥檔 cydnabod bod dal risgiau i bawb, hyd yn oed yn yr oes fodern,鈥 meddai Katie.

鈥淔el menyw, mae鈥檙 ofn yn un go iawn. Bob tro dwi鈥檔 cerdded adref o d欧 ffrind sydd dim ond lawr y ffordd, maen nhw鈥檔 poeni ac yn dweud wrtha鈥 i decstio pan dwi鈥檔 cyrraedd.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Chroma yn cefnogi Foo Fighters yng Nghae Criced Old Trafford, Manceinion

Fe gyfeiriodd Katie at un digwyddiad penodol pan yr oedd dyn, nad oedd hi'n ei adnabod, wedi dweud wrth aelodau eraill y band ei fod am gael rhyw gyda hi.

"鈥橬ath y dyn 鈥榤a ddod lan i鈥檙 ddau ohonoch chi (Zac a Liam) a dweud, 鈥榙wi鈥檔 mynd i gael rhyw gyda Katie ar 么l y sioe," meddai.

"Daeth y bois lan ata i a dweud 鈥楰atie, paid 芒 mynd yn agos at y dyn 鈥榥a.鈥

"Dwi鈥檔 gwybod bydd y bois wastad yn gofalu amdana i 100%, ond mae e dal yn anghredadwy.鈥

Fe fydd Chroma yn cefnogi Foo Fighters ar eu taith ryngwladol ym Manceinion ar 13 Mehefin, rhywbeth y mae Katie wedi ei ddisgrifio fel "breuddwyd".

Bydd y band byd enwog o America yn perfformio mewn sawl dinas yn y DU eleni, gan gynnwys yng Nghaerdydd, a bydd 70% o'r artistiaid sy'n eu cefnogi yn artistiaid benywaidd unigol neu yn fandiau sydd 芒 phrif leisydd sy鈥檔 fenyw.

'Pwysig cael y sgyrsiau anodd'

Yn 么l aelodau eraill Chroma, y chwaraewr bas Liam Bevan a'r drymiwr Zac Mather, mae gan ddynion yn y diwydiant cerddoriaeth gyfrifoldeb i beidio goddef casineb a cham-driniaeth yn erbyn menywod.

鈥淢ae e i wneud gyda gwybod sut allwn ni fel dynion wneud yn well i ymateb i unigolion pan maen nhw鈥檔 dweud rhywbeth sy鈥 ddim yn swnio鈥檔 iawn,鈥 meddai Zac.

鈥淢ae鈥檔 bwysig i gael y sgyrsiau anodd yna gyda dynion heb deimlo dy fod yn rhoi dy hunan mewn sefyllfa beryglus ble gallan nhw fod yn dreisgar neu ddiystyrru'r hyn ti鈥檔 dweud.鈥

Ychwanegodd Liam: "Ers i ni sefydlu, ry鈥檔 ni wedi cael lot o sgyrsiau. Mae 鈥榥a bethau dwi erioed wedi meddwl ddwywaith amdanyn nhw fel dyn.

鈥淒im ond pan ti yn yr amgylcheddau yna eto, mae gen ti ongl newydd ar beth all fod yn digwydd o dy gwmpas efallai na fydde ti wedi鈥檌 sylwi arnyn nhw o鈥檙 blaen.鈥

Mae Katie hefyd o'r farn mai cael dynion i herio ymddygiad gwael dynion eraill yw'r unig ffordd y gall pethau newid.

"Mae鈥檔 bwysig i leisio鈥檙 pethe 鈥榤a achos efallai byddai鈥檙 person yna ddim yn ymwybodol o鈥檙 darlun ehangach neu鈥檔 ymwybodol eu bod nhw鈥檔 ei wneud e.鈥