鶹Լ

Newidiadau posib i ysbytai cymunedol Powys yn 'bryderus'

Cyfarfod cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,

Roedd degau o bobl yn bresennol yn y cyfarfod cyhoeddus yng Nglantwymyn nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Roedd mwy na 50 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus ger Machynlleth nos Iau er mwyn trafod newidiadau arfaethedig i ysbytai cymunedol ym Mhowys.

Dywed Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) fod angen y newidiadau ‘dros dro’ er mwyn “helpu i gynnal gwasanaethau o safon o fewn yr adnoddau sydd ar gael.”

Ond mae pobl leol a rhai meddygfeydd yn anhapus, gydag un cynghorydd yn disgrifio rhai o’r newidiadau fel "israddio".

Cafodd y cyfarfod yng Nglantwymyn nos Iau ei drefnu gan y cyngor cymuned lleol – mae’n un o gyfres sy’n cael eu cynnal yn ystod cyfnod ymgysylltu cyhoeddus sy’n parhau tan 8 Medi.

Pa newidiadau sy'n cael eu hystyried?

Ymhlith cynigion y bwrdd iechyd mae lleihau oriau agor yr unedau mân anafiadau yn ysbytai Aberhonddu a Llandrindod. Mae'r uned yn Aberhonddu ar agor 24 awr bob dydd o'r wythnos ar hyn o bryd, tra bod yr uned yn Llandrindod ar agor o 07:00 tan hanner nos.

O dan gynigion BIAP byddai’r ddau ar agor rhwng 08:00 ac 20:00 bob dydd. Nid oes bwriad i newid y trefniadau yn unedau mân anafiadau Y Trallwng ac Ystradgynlais.

Mae cynigion dadleuol hefyd i newid gwasanaethau cleifion mewnol yn wyth ysbyty cymunedol Powys.

Does gan Bowys ddim ysbyty cyffredinol - ac yn aml mae cleifion yn gorfod teithio i Aberystwyth, Amwythig neu Telford i gael triniaeth.

Mae’r ysbytai cymunedol yn llai ac yn lleol ac yn darparu gwasanaethau i gleifion ar ôl iddyn nhw adael yr ysbytai cyffredinol ond cyn iddyn nhw fod yn ddigon da i fynd adref.

Mae BIAP yn cynnig y byddai dau ysbyty cymunedol – yn y Drenewydd ac Aberhonddu – yn darparu gwasanaethau ychwanegol ar gyfer cleifion sydd angen gofal adsefydlu, fel ffisiotherapi a gofal arbenigol arall.

O dan y cynigion, byddai dau ysbyty arall – Llanidloes a Bronllys – ar gyfer cleifion sy’n barod i fynd adref lle nad oes angen triniaeth ychwanegol, a lle mae’r cleifion yn aros i becyn gofal gael ei roi ar waith.

Byddai'r pedwar ysbyty arall (Ystradgynlais, Llandrindod, Y Trallwng a Machynlleth) yn parhau i weithredu fel wardiau meddygol cyffredinol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd sir lleol, Glyn Preston yn poeni am ddyfodol ysbyty yn Llanidloes

Mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod y gallai’r trefniant hwn olygu na fyddai cleifion yn cael gofal yn yr ysbyty cymunedol sydd agosaf at eu cartrefi.

Yn achos ysbyty Llanidloes, mae pobl leol wedi disgrifio’r newid arfaethedig i gyfleuster ar gyfer cleifion sy’n barod i fynd adref fel "israddio".

Dywedodd y cynghorydd sir lleol Glyn Preston ei fod yn poeni y gallai unrhyw newidiadau fod yn gam cyntaf tuag at gau'r ysbyty yn Llanidloes.

“Yn y cyfarfod cyhoeddus, siaradodd y gymuned gydag un llais i ddweud ‘na’ i israddio," meddai.

"Ry’n ni’n ymwybodol iawn bod y bwrdd iechyd yn rhagweld twll o £22m yng nghyllideb y flwyddyn nesaf ac ry’n ni’n deall fod yn rhaid iddyn nhw ymateb i hynny. Ond ry’n ni’n wirioneddol bryderus fel cymuned y gallai hynny olygu cau’r ased hwn (Ysbyty Llanidloes) ac y gallai’r newidiadau yma yn gam cyntaf tuag at hynny.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr David Moore, mae bod yn agos at adref yn bwysig i gynorthwyo adferiad cleifion

Dywedodd Dr David Moore o Feddygfa Arwystli yn Llanidloes y byddai’r newidiadau’n golygu na fyddai cleifion bob amser yn yr ysbyty sydd agosaf at eu cartref a bod hyn yn bryder.

“Mae bod yn agos i gartref nid yn unig yn cynorthwyo adferiad claf, mae’n haws i deuluoedd i ymweld a chefnogi cleifion sy'n aros yn yr ysbytai cymunedol.

"Er enghraifft, efallai y bydd claf yng ngogledd y sir a’r Trallwng fel ei ysbyty agosaf, yn cael ei symud i Lanidloes. Mae’n daith sylweddol o fwy na 45 munud, ac ni fydd teuluoedd llawer o gleifion yn gallu teithio.”

Honnodd Dr Moore hefyd mai dim ond "mater o ddyddiau" cyn cyhoeddi’r cynigion y cafodd meddygon teulu wybod, ac nad oedd ganddyn nhw "unrhyw wybodaeth flaenorol" ynglŷn â sut byddai’r newidiadau yn effeithio ar gleifion.

Ychwanegodd fod amseriad y cyfnod ymgysylltu yn ystod gwyliau ysgol wedi golygu bod “ein gallu i ymateb i’r broses honno a bod yn rhan ohoni wedi bod yn gyfyngedig iawn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbytai cymunedol yn darparu gwasanaethau i gleifion ar ôl iddyn nhw adael yr ysbytai cyffredinol ond cyn iddyn nhw fynd adref

Mewn ymateb dywedodd BIAP fod y cyfnod ymgysylltu wedi’i ymestyn i 8 Medi i roi “mwy o gyfle i bobl ddarganfod mwy a dweud eu dweud ar y cynigion ar gyfer newidiadau dros dro i wasanaethau iechyd lleol.”

Dywed BIAP hefyd y byddai’r newidiadau yn parhau am o leiaf chwe mis o Hydref 2024.

Dywed y ddogfen ymgysylltu bod un o’r rhesymau dros y cynigion yn ymwneud ag arian: “Ym Mhowys rydym yn derbyn cyllideb o tua £400 miliwn y flwyddyn i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau gofal iechyd ysbytai.

"Ond yn 2024/25 rydym yn disgwyl dod â'r flwyddyn i ben gyda diffygion o dros £20m. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau i fyw o fewn ein modd fel na fyddwn yn cynnal problemau ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”

Y GIG yn 'wynebu nifer o heriau'

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae'r GIG ledled y DU, ac yn lleol ym Mhowys, yn wynebu nifer o heriau i gynnal ansawdd, diogelwch, canlyniadau a chynaliadwyedd ariannol i gleifion a chymunedau.

"Mae gormod o gleifion yn treulio gormod o amser yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddatgyflyru - lle mae cleifion yn colli cryfder yn eu cyhyrau, yn colli'r gallu i ofalu amdanynt eu hunain, ac yn mynd yn anesmwyth.

"Gall hyn ei gwneud yn anoddach iddynt ddychwelyd i'w lefelau blaenorol o weithgaredd a gweithredu pan fyddant yn dychwelyd adref, a gall gynyddu'r siawns o gael eu derbyn i'r ysbyty."

Dywedodd BIAP hefyd ei bod yn anodd darparu gwasanaethau arbenigol mewn sir wledig fawr a bod gormod o ddibyniaeth ar “staff asiantaeth drud”.

Ychwanegodd y datganiad: “Yn gyffredinol, nod y newidiadau hyn yw lleihau arosiadau estynedig diangen yn yr ysbyty, fel bod cleifion yn gallu dychwelyd i'w cartref gan gynnwys cartrefi gofal.

"Maen nhw hefyd yn ceisio ein helpu i ddod â chleifion yn ôl i Bowys yn gynt o ysbytai mewn siroedd cyfagos.”