鶹Լ

Teyrngedau i 'ffermwr cydwybodol a phrysur' fu farw ger Y Bala

Islwyn OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Islwyn Owen yn ffermwr adnabyddus yn ardal Y Bala

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ffermwr fu farw mewn digwyddiad yn ardal Y Bala.

Roedd Islwyn Owen yn 67 oed ac yn byw ym mhentref Llanycil.

Cafodd yr heddlu eu galw i fferm yn yr ardal am 20:50 nos Fercher 4 Medi.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Andy Gibson eu bod yn gweithio "ar y cyd gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) er mwyn deall yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad".

Ychwanegodd eu bod yn trin y farwolaeth fel un "heb esboniad" ar hyn o bryd, a bod y Crwner lleol wedi cael gwybod.

'Andros o golled i'r ardal leol'

Dywedodd un cynghorydd lleol fod y gymuned wedi'i "syfrdanu" yn dilyn ei farwolaeth.

Yn ôl y Cynghorydd Alan Jones Evans, sy'n cynrychioli ward Llanuwchllyn, mi oedd Mr Owen yn "ffermwr cydwybodol a phrysur".

"Dyna oedd ei fywyd - amaethyddiaeth, mi oedd yn ffermwr taclus a dyna oedd ei fyd yn gyflawn. Roedd pawb yn gwybod pwy oedd Islwyn," meddai.

"Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i'w weddw, Margaret. Roedd Islwyn yn adnabyddus iawn yn y byd amaeth yn lleol a thu hwnt.

"Mi oedd o'n wyneb cyfarwydd ym mhob sioe amaethyddol a chymdeithas yn yr ardal i gyd, ac mae'r newyddion yma yn andros o golled i'r ardal leol."

'Seren lachar yn ffurfafen ffermio Penllyn'

Dywedodd Alun Elidyr, sy’n un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C ac yn un o lysgenhadon Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: “Mae seren lachar yn ffurfafen ffermio Penllyn wedi diffodd wrth i ni golli Islwyn Cefnbodig.

"Roedd ei wên barod a’i hawddgarwch wrth drafod materion amaeth digon cymhleth yn golygu fod ennyd yn ei gwmni’n werthfawr.

“Roedd ei wybodaeth am wartheg a defaid, pridd a phorfa’n eithriadol o eang, a’i natur garedig wrth sgwrsio’n cynnig ateb i sawl problem, a hynny wastad gydag ychwanegiad chwerthiniad direidus a chipolwg dros ei sbectol.

“Doedd bod yn ffarmwr llwyddiannus ddim yn ddigon iddo, roedd yn gymwynaswr brwd i’r gymuned wledig ehangach, a’i egni heintus yn ysbrydoli ble bynnag y bo.

“Mae’r gymuned amaethyddol ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn cydymdeimlo’n ddwys iawn gyda Margaret a’r teulu, ac mae’n deg i ddweud na welwn i mo’i debyg eto. Roedd Islwyn yn unigryw.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyflwynydd Alun Elidyr fod Islwyn Owen yn "unigryw"

Ychwanegodd Rhys Owen, pennaeth amaeth a chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri: "Roedd Islwyn Owen yn ŵr rhadlon agos i’w le.

"Roedd manylder yn bwysig iddo ac roedd ganddo lygad arbennig o dda am stoc.

"Roedd o’n arloesol i ddweud y gwir ac mae ei fferm wedi bod yn un o’r rhai sydd wedi’i harddangos gan y parc.

"Roedd o’n fodlon dysgu gwersi a’u rhannu hefyd.

"Roedd cynhyrchu yn bwysig iddo ond cadwraeth hefyd.

"Roeddwn i’n ei adnabod ers 20 mlynedd, ond yn fwy na hynny, roedd o’n ffrind.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr HSE eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn "cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru gyda'u hymholiadau".

Mae Heddlu'r Gogledd wedi gofyn i bobl barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod anodd yma.

Pynciau cysylltiedig