Â鶹ԼÅÄ

'Am fenyw!' - Dadorchuddio cerflun Arglwyddes Rhondda

CerflunFfynhonnell y llun, Monumental Welsh Women
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cerflun yn ei ddadorchuddio yng Nghasnewydd ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae cerflun i anrhydeddu Arglwyddes Rhondda wedi cael ei ddadorchuddio yng nghanol dinas Casnewydd ddydd Iau.

Roedd Margaret Haig-Thomas yn swffragét, yn ddynes fusnes, yn newyddiadurwr ac yn ymgyrchydd gydol oes dros hawliau menywod.

Dyma'r pedwerydd o bum cerflun i gael ei godi yn dilyn ymgyrch genedlaethol i anrhydeddu arwresau cudd Cymru gan y grŵp Monumental Welsh Women.

Cafodd y cerflun efydd a dur wyth troedfedd o daldra ei ddadorchuddio mewn seremoni ger Pont Droed y Mileniwm yng Nghasnewydd.

Arweiniodd Arglwyddes Rhondda, neu Margaret Haig-Thomas, ymgyrch 40 mlynedd i ganiatáu i ferched eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Fe dreuliodd hi gyfnod yn y carchar ar ôl cynnau tân mewn blwch post fel rhan o'i hymdrechion i ymladd dros hawliau merched.

Fel newyddiadurwr, sefydlodd a golygodd y cylchgrawn gwleidyddol wythnosol, Time and Tide, a hi oedd cyfarwyddwr benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Bu farw Arglwyddes Rhondda ym 1958, ychydig cyn i'r gyfraith y bu'n ymladd mor daer drosti gael ei chyflwyno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arglwyddes Rhondda yn arwyddo deiseb yn galw am ferched i gael eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ym 1947

Dywedodd Helen Molyneux, cadeirydd Monumental Welsh Women, fod Arglwyddes Rhondda yn "fenyw ysbrydoledig a frwydrodd dros hawliau menywod trwy gydol ei bywyd".

"Ein gobaith yw y bydd y cerflun hwn yn ysbrydoliaeth i fenywod a merched Casnewydd wneud yr un peth," meddai.

Ychwanegodd Julie Nicholas o’r Ymgyrch Cerflun i Arglwyddes Rhondda, eu bod wedi llwyddo i "osod merch fwyaf adnabyddus Casnewydd ar bedestal yng nghanol y ddinas".

"Rydym mor falch bod stori Arglwyddes Rhondda a’i chysylltiadau cryf â Chasnewydd wedi’u plethu trwy ddyluniad y gofeb; o’i hymgyrchu am bleidlais i fenywod i’w harweinyddiaeth fusnes a diwylliannol, a’r ymdeimlad o chwaeroliaeth wnaeth ei hysbrydoli i weithio mor galed i wella bywydau a hawliau menywod a phlant."

Ffynhonnell y llun, Merched Mawreddog Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y cerflun yn y broses o gael ei greu

Mae Monumental Welsh Women wedi cefnogi ymgyrchoedd i godi sawl cerflun dros y blynyddoedd diwethaf:

  • Betty Campbell - Caerdydd (Medi 2021)

  • Elaine Morgan - Aberpennar (Mawrth 2022)

  • Cranogwen - Llangrannog (Mehefin 2023)

  • Arglwyddes Rhondda - Casnewydd (Medi 2024)

  • Elizabeth Andrews - Lleoliad i'w gadarnhau (2025)

Ffynhonnell y llun, Monumental Welsh Women
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael creu'r cerflun yn "bleser ac yn anrhydedd", meddai Jane Robbins

Jane Robbins yw'r artist a gafodd ei chomisiynu i greu'r cerflun o Arglwyddes Rhondda.

Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys cerflun o'r ffotograffydd Americanaidd Linda McCartney yn Yr Alban, a phenddelw o arweinydd y Swffragetiaid, Emmeline Pankhurst ym Manceinion.

"Gan fy mod yn falch o ddod o gefndir Cymreig, roedd yn bleser ac yn anrhydedd pan ofynnwyd i mi greu cerflun o Arglwyddes Rhondda," meddai.

"Hefyd, fel cerflunydd benywaidd mewn proffesiwn lle mae’r mwyafrif yn ddynion, roeddwn i’n meddwl, 'am fenyw!'

"Roedd hi o flaen ei hoes a gwrthododd gymryd 'na' fel ateb, wrth iddi fynd ati’n ddewr i newid bywydau menywod yn y DU er gwell.

"Mae ei gweithredoedd hi'r un mor berthnasol heddiw ag oeddent ganrif yn ôl."

Pynciau cysylltiedig