Â鶹ԼÅÄ

20mya 'werth o' medd cynghorydd a gollodd frawd

Disgrifiad,

Fe gollodd Gareth Parry ei frawd, Keith, yn dilyn gwrthdrawiad ym 1994

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd o Wynedd a gollodd ei frawd ar ôl gwrthdrawiad yn dweud fod y newid i 20mya yn "ffantastig".

Bu farw Keith Parry yn 1994 a dywed ei frawd, Gareth Parry, fod y newid "werth o os all achub un bywyd".

Daeth deddf newydd i rym ddydd Sul sy'n golygu bod terfyn cyflymder nifer fawr o ffyrdd trefol Cymru bellach wedi gostwng i 20mya.

Mae yna wrthwynebiad i'r polisi gan rai, er bod gan gynghorau sir hawl i osod eithriadau ble mae terfyn o 30mya yn fwy priodol.

"Dw i o'i blaid o 100%. Gollis i'm mrawd... gan gar oedd yn neud 30mya a ddaeth o erioed adra'," dywedodd y Cynghorydd Gareth Parry.

"Os fedar o achub un accident arall, mae o werth o dydy.

"Dw i'm isio i'r un teulu arall fynd drwy beth aeth ein teulu ni, a dal i fynd drwyddo fo rwan.

"'Sna'm diwrnod yn mynd lle 'dan ni'm yn meddwl am Keith.

"Pan 'dan ni'n mynd am beint, dio'm ots be 'dan ni'n 'neud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Gareth Parry fod y newid i 20mya yn "ffantastig"

Fe bleidleisiodd y Cynghorydd Parry o blaid y newid i 20mya yn lle 30mya ar ffordd yn Llanberis - yn wahanol i rai o'i gyd-gynghorwyr.

Dywedodd: "Dw i isio fo i fod yn 20mya all the way.

"Dw i'm isio bod y cynghorydd, os oes 'na ddamwain yn digwydd fan 'na yn 30mya zone a rhywun yn cael ei anafu, dw i'm isio d'eud o ia fi nath ddewis iddo fo fod yn 30mya.

"Dio'm yn mynd i gymryd faint? 50 eiliad yn fwy i ddod trwy 'na?"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Keith Parry yn yr ysbyty yn 1994 yn dilyn gwrthdrawiad

Mae pryderon gan rai yn lleol y byddai'r terfyn cyflymder is yn ei gwneud hi'n anoddach i dimau achub yn ardal Llanberis i gyrraedd argyfyngau.

Dywedodd y Cynghorydd Parry y dylai timau achub mynydd gael eu trin fel yr heddlu neu ambiwlans a bod hawl ganddyn nhw i fynd yn gynt "a chael golau glas" pan fo argyfwng.

"Arfar efo fo ydy o de."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth deddf newydd i rym ddydd Sul sy'n golygu bod terfyn cyflymder nifer fawr o ffyrdd trefol Cymru bellach wedi gostwng i 20mya

Mae'r newid gafodd ei gyflwyno ddydd Sul wedi bod yn un dadleuol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn feirniadol o'r cynllun gan ddweud y bydd yn rhy ddrud ac yn arafu gwasanaethau brys.

Dywedodd y gweinidog dros drafnidiaeth yng Nghymru, Lee Waters, y bydd hi'n cymryd amser i ddod i arfer â'r newid.

Ond dywedodd mai achub bywydau yw'r nod.

Pynciau cysylltiedig