Map newydd o F么n i 'greu dyfodol gwell' i bobl ifanc

Disgrifiad o'r llun, Criw o ddisgyblion yn un o'r digwyddiadau mapio ar Ynys M么n sy'n rhan o brosiect Llwyfan Map Cyhoeddus
  • Awdur, Carwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae map digidol newydd yn cael ei ddatblygu yn Ynys M么n sy'n anelu at geisio gwella bywydau pobl ifanc yr ynys.

Bwriad prosiect ydy cael plant a phobl ifanc i greu mapiau sy'n nodi agweddau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu cymunedau.

Dywedodd llefarydd fod "plant a phobl ifanc yn wybodus iawn am eu dyfodol, yr amgylchedd a newid hinsawdd ond does ganddyn nhw ddim llawer o lais yn y system" a thrwy gasglu gwybodaeth ganddyn nhw "gallwn greu dyfodol gwell iddyn nhw i gyd".

Mae'n brosiect ymchwil sy'n cael ei arwain gan brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd, Wrecsam a Bangor.

Lle Llais

Fel rhan o gyflwyno'r system fapio ddigidol newydd, mae digwyddiadau cymunedol 'Lle Llais' wedi eu cynnal ar draws yr ynys i gasglu data gan bobl sy'n mynychu.

Mae'n nhw'n gwahodd pobl ifanc yr ynys i rannu eu straeon a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol trwy gyfrwng y celfyddydau.

Yn ganolbwynt i'r sesiynau mae pedwar strwythur pren enfawr sy'n cael eu hardduno 芒 deunyddiau naturiol lleol a'u plethu wedyn 芒 gwaith celf, straeon a lluniau'r bobl ifanc.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r strwythurau mawr pren wedi'u cynllunio gan y cyflwynydd teledu a'r pensaer, Piers Taylor

Un o fapwyr cymunedol y prosiect yw Maya Lee, sydd wedi'i magu ar Ynys M么n.

"'Dan ni'n trio mapio'r cymunedau drwy lenses gwahanol - amgylcheddol, cymdeithasol, er enghraifft, a gweld beth mae pobl leol yn meddwl a sut mae nhw'n defnyddio'r lleoliadau," dywedodd.

"'Dan ni'n ceisio gweld a mapio'r ynys o berspectif y bobl sydd o bwys ac sy'n byw ac yn profi bywyd yma."

Mae'r platfform mapio digidol newydd yma yn bwysig, meddai, gan fod Ynys M么n yn le "gwledig iawn".

"Does 'na ddim lot fawr o gyfleoedd yma - dydi pobl ddim efo lot o lais i ddweud be' fasa nhw'n hoffi gweld yn eu cymuned, ond mae pawb yma efo stori unigryw."

Disgrifiad o'r llun, Un o fapwyr cymunedol y prosiect ydi Maya Lee

"'Dan ni'n mapio pethau personol. Mae 'na bethau unigryw sydd ddim fel arfer ar blatfformau fel Google Maps, pethau fel prosiectau celf, chwaraeon d诺r, prosiect ar hen adeiladau, crochet.

"Pethau gwahanol iawn, ond pethau i bobl allu cysylltu 芒'i gilydd gan wneud ein lleoliadau yn unigryw."

Mae rhai o ddisgyblion yr ynys wedi cael cyfle i rannu eu dyheadau gyda'r prosiect 'Lle Llais', gan gynnwys Ruby a Modlen a oedd yn rhan o'r digwyddiad mapio yng nghoedwig Niwbwrch.

Disgrifiad o'r llun, Ruby (chwith) a Modlen (dde) yn mwynhau un o weithgareddau mapio'r prosiect newydd

Dywedodd Modlen eu bod wedi "mynd i bedwar lleoliad gwahanol yn y goedwig i deimlo, clywed, gweld pethau gwahanol o'n cwmpas.

"Dwi'n hoffi neud pethau fel edrych ar goed a phlanhigion gwahanol a dwi ddim yn hoffi gweld pan mae 'na lai o goed ar y map, felly dwi isio gweld mwy o goed o gwmpas.

"Mae'n rhan o gynhesu byd-eang ac mi ydan ni wrthi'n neud y thema yma yn yr ysgol. Dwi ddim yn hoffi gweld coed yn cael eu torri lawr."

Dywedodd Ruby bod yr ardal leol yn bwysig iddi.

"Dwi'n trio bod fel Greta Thunberg - hi ydi fy arwres i," meddai. "Dwi isio edrych ar 么l y blaned.

"Nes i fwynhau cerdded gyda fy ffrindiau heddiw a gwneud hyn i gyd ym myd natur."

Bydd fersiwn weithredol o'r map ar gael i'r cyhoedd erbyn dechrau haf 2025 a bydd cyfle i gynnig adborth amdano.

Mae'r prosiect yn rhedeg tan fis Hydref 2025 ond mae'r t卯m yn gobeithio ei ymestyn ymhellach.

Disgrifiad o'r llun, Yr Athro Flora Samuel ydy pennaeth yr adran bensaern茂aeth ym Mhrifysgol Caergrawnt

Eglurodd yr Athro Flora Samuel mai'r weledigaeth yw "gweld system gynllunio sy'n seiliedig ar fapiau o dystiolaeth a data yn hytrach na phethau goddrychol".

Mae'n nod hefyd i bobl "allu deall y data yn y mapiau hynny" a chyfrannu atyn nhw trwy fapio cymunedol.

Bydd y prosiect, meddai, yn datblygu map "gyda data dwfn iawn o'r ynys... o bob mathau o ffynonellau nad ydyn nhw fel arfer yn dod at ei gilydd", gan gynnwys "haenau cymunedol a data gan blant a phobl ifanc".

Fe fydd y mapiau, meddai "yn datgelu鈥檙 heriau mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu mewn gwirionedd, nid yn unig ar Ynys M么n, ond y tu hwnt".

Bydd hynny yn ei dro "yn helpu i gyflwyno鈥檙 achos i鈥檞 blaenoriaethu nhw mewn polis茂au i wneud ein lleoedd yn addas i blant a phobl ifanc".