Beth sy'n bwysig i bobl un o etholaethau mwyaf Cymru?

Disgrifiad o'r llun, Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yw etholaeth fwyaf Cymru o ran maint daearyddol
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Hen etholaeth Brycheiniog a Maesyfed oedd y fwyaf o ran ei maint daearyddol yng Nghymru a Lloegr.

Bellach, mae’r ardal etholiadol wedi tyfu hyd yn oed yn fwy, yn sgil ad-drefnu ffiniau’r etholaethau.

Nawr, mae cymunedau ym mhen uchaf Cwm Tawe yn rhan o’r etholaeth enfawr, gan gynnwys Pontardawe, Cwmllynfell a Gwaun-Cae-Gurwen.

Enw'r etholaeth newydd yw Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.

Etholaeth newydd yn 'rhy fawr'

Ar y cyfan mae’n etholaeth wledig lle mae canran sylweddol o’r boblogaeth yn gweithio yn y diwydiant amaeth.

Mae bron i 10,000 o bobl yn ffermio trwy Bowys gyfan, a thros draean o fusnesau'r sir yn rhai amaethyddol.

Ond mae’r cymunedau yn ardal Pontardawe yn wahanol.

Yno mae rhesi o dai teras, sy’n nodweddiadol o drefi cymoedd y de, a’r bobl yn perthyn i ardal ôl-ddiwydiannol Cwm Tawe, dim ond naw milltir i ffwrdd o ddinas Abertawe.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Janice Walters bod pobl ym Mhontardawe yn poeni am golli gwasanaethau lleol

Mewn siop trin gwallt ym Mhontardawe, dywedodd Janice Walters bod maint yr etholaeth wedi bod yn poeni ei theulu hi.

“Mae fy mab yn byw yn Nhrebanos sy’n rhan o’r etholaeth newydd, a dyw e ddim yn hapus amdano fe," meddai.

"Mae e’n meddwl bod e’n rhy fawr i gynnwys lle bach fel hyn.

"Ni just fel cwt bach yn y lle enfawr yma.â€

Disgrifiad o'r llun, Bydd y pwll nofio ym Mhontardawe yn cau ym mis Awst am resymau diogelwch

O ran y materion sy’n bwysig i bobl leol, dywedodd Janice bod nifer yn poeni am golli gwasanaethau lleol, yn enwedig y pwll nofio ym Mhontardawe sy’n mynd i gau cyn diwedd mis Awst.

“Mae colli’r pwll nofio yn achosi tipyn bach o ofn i bobl achos mae’n bwysig i lawer o bobl fan hyn.

"Castell-nedd yw’r agosaf wedyn, ond mae’n broblem oherwydd mae pawb yn meddwl bod y pwll ym Mhontardawe yn dda iawn ar gyfer plant a phobl anabl.â€

Ym mis Mai fe wnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot benderfynu cau’r pwll am resymau diogelwch oherwydd dirywiad yn strwythur yr adeilad.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cigydd lleol Bleddyn Howells yn dweud bod "popeth yn cau lawr" ym Mhontardawe

Mae Bleddyn Howells yn gigydd sydd â siop yng nghanol Pontardawe, ac mae hefyd yn gynghorydd tref annibynnol.

Dywedodd hefyd bod pobl yn poeni am golli’r pwll nofio a gwasanaethau eraill, a bod diffyg arian yn y gymuned.

Dywedodd Mr Howells: “Mae’r banc olaf yn mynd i gau amser Nadolig, felly fydd dim banc ym Mhontardawe wedyn, y ganolfan gymunedol hefyd a Gelligron House.

"Mae popeth yn cau lawr a beth mae pobl yn mynd i wneud wedyn?"

'Naws yr etholaeth yn newid'

Mae llawer o’r materion a gafodd eu crybwyll gan yr etholwyr yn gyfrifoldeb uniongyrchol naill ai i gwmnïau preifat, cynghorau lleol neu Lywodraeth Cymru.

Yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf bydd cyfle i ddewis aelodau yn Senedd San Steffan, a phenderfynu pwy fydd yn ffurfio llywodraeth newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Poblogaeth etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yw 92,100, ac mae bron i 73,000 o etholwyr.

Mae proffil oedran yr etholaeth yn hŷn na’r cyfartaledd, gyda 27% o’r boblogaeth dros 65 oed.

Mae 69% o bobl yn berchen ar dÅ· ac mae dros 18% yn gallu siarad Cymraeg.

O Bontardawe i Aberhonddu mae pellter o 30 milltir.

Mae naws yr etholaeth yn newid i un fwy gwledig ac amaethyddol wrth yrru tua’r gogledd heibio Ystradgynlais ac i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Disgrifiad o'r llun, Addysg yw brif bryder cyn-brifathro Ysgol y Bannau, John Meurig Edwards

Cyn-brifathro Ysgol y Bannau, ysgol gynradd Gymraeg Aberhonddu, yw John Meurig Edwards, sydd wedi byw yn y dref ers degawdau.

Cyflwr yr economi yw un o’r prif ofidiau iddo, ynghyd â sefyllfa addysg.

“Y peth mawr yw’r economi ar hyn o bryd a chostau byw – mae hwnna yn gyffredinol i’r wlad i gyd," dywedodd.

"I fi yn bersonol, wi’n poeni am beth sy’n mynd i ddigwydd i addysg. Mae cymaint o broblemau yn codi ar hyn o bryd ynglÅ·n â diffyg athrawon - athrawon yn gadael oherwydd bod dim digon o adnoddau yn cael eu rhoi mewn i ysgolion er mwyn iddyn nhw gael eu rhedeg yn gywir.â€

Mae addysg yn faes sydd wedi ei ddatganoli i Gymru, sy'n golygu mai Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd sydd â chyfrifoldeb yma.

Ychwanegodd bod y newid i’r etholaeth ac ychwanegu Cwm Tawe yn mynd i wneud hi’n her i bwy bynnag sy’n ennill y sedd ym mis Gorffennaf.

“Mae’n etholaeth gymysg iawn ac mae hi wedi bod yn draddodiadol naill ai gyda’r Ceidwadwyr neu’r blaid Ryddfrydol, a dyna le fydd y frwydr o hyd yn fy marn i, ond mae dod â Chwm Tawe mewn yn mynd i ddod â Llafur mewn yn gryfach yn yr etholaeth yma hefyd.â€

Yn yr etholiad cyffredinol yn 2019 cafodd hen sedd Brycheiniog a Maesyfed ei hennill gan Fay Jones i’r blaid Geidwadol, gyda mwyafrif o 7,131 dros y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda’r Blaid Lafur yn drydydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhaeadr Gwy mewn ardal amaethyddol, ond mae'n denu ymwelwyr

30 milltir arall i’r gogledd o Aberhonddu mae tref Rhaeadr Gwy yn yr hen Sir Faesyfed yng nghanol ardal amaethyddol.

Mae ffermio yn rhan bwysig iawn o’r economi leol, ond gyda chronfeydd dŵr Cwm Elan a’i llwybrau cerdded a beicio wrth ymyl, mae Rhaeadr hefyd yn denu llawer iawn o dwristiaid.

Mae Sian Davies yn ffermio ar gyrion Rhaeadr ac mae’n weithgar gyda’r clwb ffermwyr ifanc lleol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sian Davies eisiau gweld gwleidyddion yn rhoi fwy o arian i wasanaethau hanfodol

Dywedodd Sian: “Fi’n credu y pethau mwyaf pwysig i ni fel teulu a hefyd y bobl sy’n byw yn ardal ni yw amaeth, iechyd ac addysg.

"Yr ansicrwydd mewn amaeth yw’r peth mawr ar hyn o bryd i ni, ac o ran iechyd, dyw pobl ddim yn gallu cael llawdriniaeth pan maen nhw isie.â€

Ychwanegodd Ms Davies ei bod hi am weld gwleidyddion yn blaenoriaethu arian ar gyfer gwasanaethau hanfodol.

“Mae digon o arian i gael ar gyfer nhw eu hunain, ond y pethau mwyaf pwysig sydd angen yr arian dwi’n teimlo dy’n nhw ddim yn rhannu fe allan yn deg.â€

Rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe:

Democratiaid Rhyddfrydol - David Chadwick

Llafur - Matthew Dorrance

Plaid Cymru - Emily Durrant-Munro

Reform UK - Adam Hill

Ceidwadwyr - Fay Jones

Plaid Werdd - Amerjit Kaur-Dhaliwal