Parkinson's: 'Celf yn llwyddo i godi ysbryd'

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwynfor Davies yn dweud bod y gwersi wedi cael effaith gadarnhaol iawn arno
  • Awdur, Eleri Griffiths
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae dyn o ogledd Cymru yn dweud fod creu cerfluniau yn llwyddo i "godi ei ysbryd" wrth iddo ddelio â Parkinson’s.

Cafodd Gwynfor Davies o Landudno ddiagnosis o'r cyflwr 11 mlynedd yn ôl.

Yn ddiweddar, penderfynodd fynd i ddosbarthiadau celf wythnosol ac mae'n dweud bod y profiad wedi cael effaith gadarnhaol iawn arno.

Dywedodd Wendy Allison o Parkinson's UK Cymru fod y dosbarthiadau’n bwysig iawn gan fod unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â defnyddio sgiliau motor penodol yn gallu helpu pobl i reoli eu symptomau.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gwynfor Davies wybod fod ganddo Parkinson's 11 mlynedd yn ôl

Cyn ymuno â’r dosbarthiadau doedd Gwynfor Davies erioed wedi ymddiddori mewn celf.

Ond fe ymunodd ar ôl dod i wybod amdano yn ei ddosbarth grŵp cymorth wythnosol, sy'n cael ei gynnal yng Nghyffordd Llandudno.

Roedd Mr Davies yn bryderus i ddechrau gan fod ei freichiau yn ysgwyd ac mae ysgrifennu'n gallu bod yn anodd iddo.

Ond hyd yma mae wedi mwynhau'r dosbarthiadau yn fawr.

Disgrifiad o'r llun, Doedd Carol Davies ddim yn disgwyl i'r dosbarthiadau gael cymaint o effaith ar ei gŵr

Dywedodd Mr Davies: "Mae’n cadw’r ymennydd yn fyw - ac mae popeth yn adio i fyny yn y diwedd, dydy?

"Ma' 'na bach o hwyl i gael a dywedodd y doctor wrtha i, ‘whatever you do don’t take to the armchair’ a dwi wastad wedi gwneud be' mae o'n ei ddweud."

Roedd ei wraig Carol Davies wedi synnu bod Gwynfor mor barod i fynd i'r dosbarthiadau.

"Y tro cyntaf, roedd yn weithgaredd newydd ac roedd Gwynfor eisiau i mi fynd efo fo," meddai.

"Dwi’n gallu gweld y gwahaniaeth. Mae o’n gwylio’r darn yn tyfu o ddarnau bach o glai a phethau... Mae o wedi ei ysbrydoli ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniad terfynol.

"Mae’n hyfryd, ac mae o'n rhywbeth mae o'n gallu ei gyflawni."

Disgrifiad o'r llun, Mae Neil Dalrymple yn un o'r rhai sy'n arwain y dosbarthiadau celf

Mae Mr Davies wedi bod yn helpu creu murlun seramig fydd yn cael ei arddangos mewn clinig Parkinson's i helpu dioddefwyr arall.

Mae'r dosbarthiadau yn cael eu trefnu gan Parkinson's UK Cymru ond yn cael eu rhedeg gan y cerflunydd, Neil Dalrymple, 75, a'r artist seramig, Erin Lloyd, 25.

Roedd Mr Dalrymple - sy'n byw â chyflwr Parkinson's ei hun - yn rhan o'r broses o sefydlu'r dosbarthiadau, ond roedd Ms Lloyd eisiau helpu gan fod ganddi gysylltiad personol â'r cyflwr ac roedd hi eisiau rhannu ei chariad am gelf gydag eraill.

Dywedodd fod ei thad wedi byw gyda Parkinson’s am flynyddoedd a'i bod wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall y cyflwr effeithio ar rywun.

Disgrifiad o'r llun, Mae yna awyrgylch "gwych" yn y dosbarthiadau, yn ôl Erin Lloyd

Roedd Mr Dalrymple yn fentor i Ms Lloyd pan yr oedd hi yn y coleg ac mae hi wedi gweld sut mae ei waith wedi newid ac addasu wrth iddo ddelio â symptomau'r cyflwr.

"Roeddwn i'n keen i roi cymorth i Neil yn y sesiynau yma a just gweld sut mae Parkinson's yn effeithio pawb mewn ffordd wahanol," medai Ms Lloyd.

"Dwi’n meddwl bod e'n creu awyrgylch gwych nid just yn greadigol ond o ran hapusrwydd.

"Maen nhw gyd yn gweld ei gilydd yn creu'r un darn o waith celf ac mae hwnna'n creu cymuned.

"Maen nhw'n gallu cydweithio a pheidio meddwl am y ffaith bod ganddyn nhw Parkinson's, a chanolbwyntio ar y ffaith bod eu symptomau nhw'n gallu helpu ysbrydoli ac ychwanegu at ddarn o gelf.

"Mae hwnna'n arbennig ac yn deimlad hynod o dda i fod yn rhan ohono."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r dosbarthiadau yn help i ofalwyr yn ogystal â dioddefwyr, meddai Cerren Wyn Richards

Aelod arall o’r grŵp yw Cerren Wyn Richards, fu'n gofalu am ei gŵr oedd â Parkinson's nes iddo farw.

"Mae’r ffordd dwi'n sbïo arno fo dipyn bach yn wahanol i ddioddefwr, ond dyna pam mae'r grŵp Parkinson's yn dda," meddai.

"Mae’r gofal yno nid yn unig ar gyfer y dioddefwyr ond y gofalwyr - oherwydd mae'n gallu bod yn waith eitha' trwm."

Ychwanegodd fod y dosbarthiadau yn "wych" gan eu bod yn "rhoi’r cyfle i bobl sy'n dioddef efo Parkinson's ddod at ei gilydd i greu rhywbeth a gweithio fel tîm ac i gadarnhau’r pwysigrwydd o drio".

"Dyw clywed bod gennych chi Parkinson's ddim yn golygu fod popeth yn gorffen. Mae hi dal yn bosib i chi wneud gymaint o bethau."

Cyfle i bobl ddod at ei gilydd

Dywedodd Wendy Allison, cydlynydd datblygu cymunedol ar gyfer Parkinsons UK Cymru, fod y dosbarthiadau celf yn bwysig mewn sawl ffordd.

"Mae'n gyfle prin i wneud rhywbeth creadigol - mae pethau sy'n cynnwys sgiliau motor manwl yn dda iawn i bobl sydd â Parkinson's, ac yn helpu pobl gyda'u symptomau," meddai.

"Mae gan rai pobl gryndod, er enghraifft, neu efallai fod ganddyn nhw boen, felly mae gallu defnyddio eu dwylo a'u cymalau yn dda iawn.

"Mae unrhyw beth sy'n cynnwys meddwl gwybyddol a chydsymud llaw a llygad, i gyd yn dda iawn hefyd."

Ychwanegodd: "Gall Parkinson's fod yn beth hynod ynysig i fyw ag ef.

"Felly, mae unrhyw beth sy’n golygu bod pobl yn dod at ei gilydd – lle gallant siarad a rhannu eu brwydrau, neu gael ychydig o hwyl gyda'i gilydd, yn bwysig iawn."