Â鶹ԼÅÄ

Yr Uchel Lys i ddelio ag achos menyw wedi'i chyhuddo o lofruddio'i mab, 6

Karolina ZurawskaFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Karolina Zurawska ymddangos yn y llys fore Iau drwy gyswllt fideo

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed a cheisio llofruddio ei thad wedi ymddangos yn y llys.

Mae Karolina Zurawska, 41, wedi ei chyhuddo o lofruddio Alexander Zurawski yn Abertawe fis Awst.

Fe ymddangosodd Karolina Zurawska yn yn Llys y Goron Abertawe fore Iau drwy gyswllt fideo o garchar Eastwood Park.

Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyn, John Hipkin KC, fod cynlluniau i gynnal adroddiadau seiciatryddol ar gyfer y diffynnydd.

Fe gadarnhaodd y barnwr, Paul Thomas, hefyd mai barnwr Uchel Lys fyddai'n delio gyda'r achos.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alexander Zurawski ei ddisgrifio fel bachgen "hoffus" a "phenderfynol"

Cafodd Alexander Zurawski ei ganfod yn farw mewn eiddo ar Glos Cwm Du yn Gendros ar 29 Awst.

Mae ei fam hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio ei thad, Krzysztof Siwy, 67, yn gynharach ar yr un dyddiad.

Mewn datganiad wedi ei farwolaeth, dywedodd teulu Alexander ei fod yn blentyn "clên iawn" oedd "wrth ei fodd yn chwarae gyda'i chwaer a'i gi".

Yn ôl Ysgol Gynradd y Garreg Wen, ble'r oedd Alexander yn ddisgybl, roedd yn fachgen "hoffus" a "phenderfynol".

Mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar 12 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig