O Star Wars i Beetlejuice - creu mowldiau ar gyfer sêr y byd ffilmiau
- Cyhoeddwyd
Mae merch o Ddyffryn Ogwen wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr byd-enwog Tim Burton tu ôl i’r llenni ar un o ffilmiau mwyaf 2024.
Mae Mabli Non Jones, o Gerlan, Bethesda, yn creu mowldiau ar gyfer ffilm a theledu, gan helpu i greu’r creaduriaid a’r prostheteg sydd i’w gweld ar y sgrîn fawr.
Llynedd, mi fuodd yn gweithio ar The Acolyte ac Andor, dwy gyfres deledu o fyd Star Wars.
Ac mae'r ffilm ddiweddara iddi weithio arni newydd ei ryddhau – Beetlejuice Beetlejuice, wedi ei chyfarwyddo gan Tim Burton ac yn ddilyniant i Beetlejuice.
Daeth Mabli wyneb i wyneb gyda rhai o sêr mwyaf y byd ffilmiau, gan gynnwys Winona Ryder, Willem Dafoe a Danny DeVito.
Mewn cyfweliad â rhaglen Aled Hughes ar 鶹Լ Radio Cymru, disgrifiodd Mabli sut beth oedd gweithio mor agos gyda’r sêr.
“Ar y tu fewn, dwi’n freakio allan!” meddai.
"Dwi’n dod o Gerlan, dwi’m yn rili gallu rhoi’r ddau fyd yna at ei gilydd!"
‘Bwystfilod ac aliens yn ffrwydro allan o foliau!’
Disgrifia Mabli ei gwaith fel “creu be' fydd yr actorion yn wisgo – [er enghraifft] clust, pâr o ddwylo, unrhyw anafiadau neu friwiau."
Eglurodd: “Ar y ffilm diwethaf nes i weithio arno fo [Beetlejuice], o’dd ‘na lot o bethau gwahanol – mi oedd ‘na fwystfilod, aliens, coluddion yn ffrwydro allan o foliau, boliau beichiog, babis... bob dim!"
Disgrifiodd y broses o lifecasting “lle ‘da ni’n creu negatif o’r actor yn defnyddio silicon neu alginate, rhoi o dros yr actor, a wedyn yn creu plaster.
“Ac wedyn ma’ gen ti’r cerflunwyr sy’n sculptio pa bynnag anafiadau, clustiau, boliau beichiog, math yna o beth, wedyn ma’ hynna’n dod ata ni i’w mowldio nhw, yn defnyddio fiberglass rhan fwyaf o’r amser, neu silicon neu blaster”.
Cam cynnar o’r broses mae Mabli yn gweithio arno, cyn symud y gwaith ymlaen at adrannau eraill.
“Ar ôl iddo fo ddod ata ni, mae o’n cael ei anfon at bobl eraill sy’n peintio, yn rhoi’r gwalltiau mewn, ac wedyn at y bobl sy’n rhoi’r animatronics ɲ.”
Gweithio gydag un o’r mawrion
Roedd y profiad o weithio gyda Tim Burton, y cyfarwyddwr byd-enwog, wrth ddod â’i ddarluniau yn fyw yn un arbennig.
“Dwi’n cofio Mam yn dweud, fel hogan fach, o’n i’n caru unrhyw beth i’w wneud hefo Calan Gaeaf, yn enwedig ffilmiau Tim Burton," meddai.
“Mae o’n artist hefyd – fo sy’n dewis pa gymeriadau mae o eisiau [yn ei ffilmiau].”
Dywedodd Mabli ei fod yn brofiad “rili cŵl gallu gweithio hefo fo a dod fyny hefo’r cynlluniau ’ma ar gyfer be bynnag oedd o eisiau”.
Cychwyn yn ifanc
Roedd Mabli yn gwybod ers oedran cynnar pa faes roedd hi eisiau mentro iddo fo.
Yn ddiweddar, ffeindiodd ei mam “hen recordiad o fi a fy mrawd yn smalio gwneud Uned 5 neu raglen radio, ac oedd o’n gofyn ‘be ti ‘sho bod pan ti’n hyn?’... ‘dwi ‘sho creu aliens ar Doctor Who!’ – saith neu wyth oed o’n i, felly ar yr adeg yna o’n i’n gwybod yn barod bo’ fi eisiau gwneud o”.
Ar ôl astudio Celf yn yr ysgol, aeth ymlaen i ddilyn cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai Bangor, cyn symud i lawr i Lundain i astudio Mould Making yng Ngholeg y Celfyddydau Llundain.
“O’n i’n rili lwcus, mewn ffordd, mod i ‘di cael llwybr mor hawdd.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021
- Cyhoeddwyd4 Medi