Â鶹ԼÅÄ

'2024 yn flwyddyn o ansicrwydd i weithwyr Tata'

Arwydd Tata SteelFfynhonnell y llun, Getty
  • Cyhoeddwyd

Bydd 2024 yn "flwyddyn o ansicrwydd" yn ôl un o weithwyr dur Tata.

Wrth siarad â rhaglen , dywedodd Alun Hughes, sy'n 60 oed ac o Langennech, Sir Gâr, ei fod e'n poeni am ddyfodol ei swydd.

Roedd disgwyl i gwmni Tata dorri 3,000 o swyddi yng ngweithfeydd dur Port Talbot ym mis Tachwedd, ond chafodd y cyhoeddiad ddim ei wneud.

Gweithfeydd dur Port Talbot yw cynhyrchydd carbon mwyaf Cymru, ac mae cwmni Tata'n dweud eu bod am symud at gynhyrchu dur mewn modd mwy cynaliadwy.

Ond mae undebau wedi dod at ei gilydd i gynnig cynllun arall, fyddai'n golygu llai o ddiswyddiadau tra’n parchu'r amcan o leihau allyriadau carbon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Tata am symud at gynhyrchu dur mewn modd mwy cynaliadwy

'Fe fydd diswyddiadau... ond faint?'

Disgrifiad,

Alun Hughes: 'Mae rhai o weithwyr Tata eisoes yn gadael am swydd arall'

Dyw Tata heb wneud unrhyw ddatganiad ffurfiol am eu bwriad at y dyfodol eto.

Ond yn ôl Alun Hughes, sydd yn gweithio i'r cwmni ym Mhort Talbot ers 15 mlynedd, mae diswyddiadau yn anorfod.

"Os y'ch chi am gynhyrchu dur mewn ffordd sy'n llai llygredig ac o well safon, ma' hwnna mynd i gal effeth ar y gweithlu.

"Bydd angen llai o bobl i gynhyrchu'r dur glân yna. Felly fe fydd diswyddiade. Faint? Alla'i ddim dweud."

Mae Mr Hughes wedi dod yn gynrychiolydd undeb yn ddiweddar er mwyn cael "cymaint o wybodaeth â phosib" am gynlluniau'r cwmni.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gyfnod pryderus i bobl Port Talbot

Rhai gweithwyr eisoes yn gadael

Mewn cyfnod ansicr, mae'n dweud bod rhai eisoes wedi penderfynu gadael eu swyddi.

"Un esiampl - dyn hynod o ddawnus yn ei grefft, bydd e'n mynd a dechrau swydd newydd yn y flwyddyn newydd. Mae'r pryder yn ormod iddo fe - yr ansicrwydd.

2Y ffaith yw, [yn ei feddwl e] 'ffordd y'f i mynd i dalu fy nyledion i? Fi am fynd nawr yn lle weitan i weld be sy'n digwydd yn y flwyddyn newydd'."

Fel un sydd yn agosáu at oed ymddeol, mae Alun Hughes hefyd yn poeni am ei ddyfodol.

"Dw'i dros fy chwe deg, felly os bydd diswyddiade, fydda'i lan yn erbyn pobl sydd lawer iawn ifancach 'na fi.

"Ac os oes 3,000 o swyddi yn mynd, allwch chi luosi hynny gyda thri neu bedwar achos yr holl fusnesau sy'n dibynnu ar Tata."

"Dyna'r pryder yn bersonol fyddai hynny. Ffindo swydd arall sy'n rhoi safon bywyd fi'n byw ar hyn bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran Tata bod eu trafodaethau gyda chynrychiolwyr y tair prif undeb yn parhau.

Pynciau cysylltiedig