Heddwas yn meddwl am achos Jack Lis 'bron bob dydd'

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Sarjant Coulson a Sarjant Phillips oedd dau o'r rhai cyntaf i gyrraedd Jack Lis wedi i gi ymosod arno
  • Awdur, Dan Heard
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Mae heddwas ymatebodd i ymosodiad gan gi ar fachgen 10 oed yng Nghaerffili yn dweud ei fod yn dal i feddwl am y digwyddiad 鈥渂ron bob dydd鈥.

Bu farw Jack Lis wedi i gi ymosod arno mewn t欧 yn ardal Pentwyn ym Mhenyrheol fis Tachwedd 2021.

Sarjant Ross Phillips oedd un o鈥檙 cyntaf i wynebu鈥檙 ci XL Bully.

Mae ef a Sarjant Isabelle Coulson o Heddlu Gwent wedi eu henwebu am un o wobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, 10 oed oedd Jack Lis pan fu farw ym mis Tachwedd 2021

Roedd Sarjant Phillips newydd ddechrau ei shifft pan ddaeth adroddiadau o ddigwyddiad ar stad Penyrheol.

鈥淧enderfynais i fynd draw yno fy hun, oherwydd bod yr adroddiadau cyntaf yn awgrymu bod yna anafiadau difrifol," meddai.

鈥淲rth gyrraedd - cyn i ni hyd yn oed gyrraedd y stryd - roedd yna nifer o bobl tu allan, yn trio dal ein sylw a dangos y ffordd at y t欧.鈥

Roedd hi鈥檔 鈥渁nhrefn llwyr鈥 yno, meddai.

鈥淒aeth yn glir yn gyflym bod plentyn yn y t欧, a bod y ci hefyd dal tu fewn.

鈥淩oedd yn sefyllfa hynod o beryglus. Roedd rhaid i ni achub Jack, ond hefyd atal y ci rhag dianc.鈥

Disgrifiad o'r llun, Roedd Sarjant Phillips newydd ddechrau ei shifft pan ddaeth yr alwad am yr ymosodiad

Llwyddodd Sarjant Coulson i dynnu sylw鈥檙 ci, gan adael Sarjant Phillips mewn sefyllfa i gyrraedd Jack.

鈥淩oedd e鈥檔 gorwedd ger y drws, yn agos i鈥檙 stafell fyw," meddai.

"'Nes i allu ei dynnu fe allan trwy鈥檙 drws, ond wrth i fi wneud hynny, daeth y ci n么l tuag at y drws hefyd.

鈥淟lwyddais i atal y ci rhag dianc, rhoi Jack i鈥檙 parafeddygon, ac yna gafael yn y ci a鈥檌 wthio fe n么l mewn trwy鈥檙 drws.鈥

Bu farw Jack o鈥檌 anafiadau. Yn ddiweddarach daeth cwest i鈥檙 casgliad iddo farw o anafiadau difrifol i鈥檞 ben a鈥檌 wddf.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Amy Salter a Brandon Hayden eu carcharu am fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth

Ym Mehefin 2022 cafodd Brandon Hayden ac Amy Salter eu carcharu ar 么l cyfaddef eu bod yn berchen ar gi peryglus.

Hyd heddiw, mae Sarjant Phillips yn dal i feddwl am farwolaeth Jack.

鈥淢ae鈥檔 un sydd wedi aros efo fi, a bod yn onest.

鈥淔el heddwas, dwi鈥檔 ymateb i nifer o ddigwyddiadau ofnadwy, a gall llawer ohonynt fod yn anodd delio 芒 nhw, ond鈥 roedd hyn yn hynod o anodd, oherwydd yr amodau, a cholli Jack.

鈥淒yna oedd y peth anoddaf i ddelio 芒 fe.鈥

'Teimlad rhyfedd'

Mae Sarjant Phillips a Sarjant Coulson wedi cael eu henwebu am un o Wobrau Dewi Sant 2024 am eu dewrder.

Prif Weinidog Cymru sy鈥檔 cyhoeddi enillydd pob categori mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd nos Iau.

鈥滵wi鈥檔 hynod o ddiolchgar am yr enwebiad," meddai Sarjant Phillips.

鈥淥nd mae鈥檔 deimlad rhyfedd achos dim ond gwneud fy ngwaith o鈥檔 i, wrth gwrs.鈥

Mae鈥檔 achos fydd yn aros gydag ef, meddai.

鈥淩wy wedi ymateb i sawl sefyllfa dros y blynyddoedd ac mae pob un yn gadael rhywbeth gyda chi,鈥 eglura.

鈥淒ydyn nhw ddim i gyda mor drawmatig na thrist 芒鈥檙 sefyllfa yma, ond rydych chi鈥檔 delio 芒 nhw y gorau gallwch chi gyda chymorth eich cydweithwyr.鈥