鶹Լ

Gatland â 'chefnogaeth lawn' Undeb Rygbi Cymru

Warren Gatland yn croesi ei freichiauFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gatland wedi wynebu pwysau cynyddol wedi i'r tîm ddisgyn i'w safle isaf erioed yn netholion y byd

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi dweud fod gan Warren Gatland “ein cefnogaeth lawn”.

Mae tîm cenedlaethol y dynion wedi profi blwyddyn galed, gan ddisgyn i’r 11eg safle yn netholion y byd - ei safle isaf erioed.

Daeth Cymru yn olaf yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf mewn 21 o flynyddoedd, ac fe gollon nhw'r ddwy gêm i Awstralia ar daith yr haf.

Fe lwyddon nhw i drechu clwb Queensland Reds ar y daith honno mewn gêm di-gap, ond o drwch blewyn oedd hynny.

'Rhan o'r cynllun'

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Camodd Cory Hill Hill yn ôl o’r gêm yn erbyn y Queensland Reds o ganlyniad i “resymau personol”

Er y canlyniadau siomedig yn 2024, mae cadeirydd URC Richard Collier-Keywood yn pwysleisio fod y gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud eleni i gyd yn “rhan o’r cynllun”.

“Dwi’n Gymro balch fy hun a dwi ddim yn hoff o’r ffaith ein bod ni wedi colli’r naw gêm brawf ddiwethaf, ond mae’r pwyslais ar ailadeiladu,” meddai.

“Rydyn ni wedi gofyn i Warren i gael amcan penodol mewn golwg wrth i ni nesáu at y Cwpan y Byd nesaf.

"Dyw ein trywydd ni ddim wedi bod yn ddelfrydol, felly mae e wedi cymryd y cyfle dros y Chwe Gwlad a chyfres yr haf i weld rhai chwaraewyr newydd.

“Os edrychwch chi ar y perfformiadau hyd yn hyn, gallwch chi weld fod rhai o’r chwaraewyr wedi profi eu hunain yn dda iawn.

“Mae hyn yn rhan o’r cynllun dy’n ni wedi gofyn iddo fe weithredu ac mae'n bwrw 'mlaen gyda’r hyn sydd angen gwneud, ac wrth gwrs dy’n ni’n mynd i’w gefnogi fe.”

'Mae'n mynd i weithio'

Roedd Gatland yn destun rhagor o feirniadaeth yn Awstralia wedi iddo enwi Cory Hill fel capten ar gyfer y gêm yn erbyn Queensland Reds.

Yn 2021 cafodd Hill ei enwi fel rhan o griw a achosodd ddifrod i dŷ menyw, ond ni wynebodd unrhyw gosb gyfreithiol.

Yn y pendraw, penderfynodd Hill i dynnu nôl o’r gêm ychydig oriau ynghynt o ganlyniad i “resymau personol”, ac wedi'r gêm fe gyfaddefodd Gatland ei fod wedi gwneud camgymeriad.

Ond, mynnodd Collier-Keywood fod URC yn parhau i roi cefnogaeth lawn i Gatland.

“Fy ngobaith yw ein bod ni ddim yn mynd i barhau i golli,” meddai.

“Mae’n amlwg nad ydym ni’n mynd i fynd o sefyllfa lle rydym ni’n colli bob gêm brawf rhwng nawr a 2027 ac yna cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

"Os mae’r strategaeth yn mynd i weithio. Yn amlwg fe ddylen ni weld mwy o ennill dros y cyfnod nesaf, ac mae gan Warren ein cefnogaeth lawn.”