All canabis wella safon byw cleifion canser?

Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Jillian MacLean yn rhan o dreialon i asesu os yw canabis yn gallu helpu trin canser glioblastoma
  • Awdur, Ben Price
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Mae cleifion sydd 芒 thiwmor difrifol ar yr ymennydd yn aml yn gofyn a yw canabis yn gallu helpu, meddai arbenigwr canser.

Nawr, mae astudiaethau yn ceisio ateb y cwestiwn hwn er mwyn ceisio gwella safon byw cleifion yn ystod eu misoedd olaf.

鈥淢ae canran sylweddol o gleifion yn chwilio am gynnyrch canabis, neu CBD, yn y gobaith y gallai eu helpu,鈥 meddai鈥檙 arbenigwr oncoleg clinigol, Jillian MacLean.

Mae hi鈥檔 rhan o dreialon yng Nghanolfan Ganser Felindre, sy鈥檔 asesu os yw Sativex - cyffur sy鈥檔 cynnwys canabis - yn gallu gweithio ar y cyd 芒 chemotherapi er mwyn trin tiwmor glioblastoma.

'Dim i'w golli'

Ar gyfartaledd mae pobl sydd 芒 glioblastoma ond yn byw rhwng 12 a 18 mis ac mae鈥檙 opsiynau o ran triniaeth yn brin.

鈥淕yda鈥檙聽diagnosis yma, dydyn nhw ddim yn聽teimlo bod ganddyn nhw unrhyw beth i鈥檞 golli trwy roi cynnig arno," meddai Dr MacLean.

"Rydyn ni eisiau profi hynny a gweld os yw hynny'n beth defnyddiol.

鈥淥s yw鈥檔 llwyddo, yna mae鈥檔 rhywbeth a ddylai fod ar gael i gleifion heb iddynt orfod dod o hyd i bethau eu hunain.鈥

Mae treial 'Aristocrat' y Deyrnas Unedig, sydd dan arweinyddiaeth t卯m ym Mhrifysgol Leeds, yn defnyddio chwistrelliad sy'n cynnwys canabinoidau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Fe gollodd Julian Edwards ei wraig Samantha i ganser glioblastoma yn Rhagfyr 2022

Yr Elusen Tiwmor yr Ymennydd sy鈥檔 gyfrifol am ariannu鈥檙 treialon.

Dywedodd Julian Edwards, o鈥檙 Bont-faen ym Mro Morgannwg, ei fod yn teimlo cymysgedd o emosiynau trwy wybod bod y cleifion cyntaf wedi鈥檜 recriwtio yn y ganolfan yn Felindre, lle cafodd ei wraig, Samantha, driniaeth cyn iddi farw ym mis Rhagfyr 2022, yn 53 oed.

'Balch o'r camau bach ymlaen'

"Byddwn i wedi rhoi fy mraich dde er mwyn i Sam fod wedi cael canser a gafodd ganlyniadau gwell," meddai.聽

"Ond rwy鈥檔 gwybod y byddai鈥檔 falch bod camau bach wedi鈥檜 gwneud ac mae鈥檔 wych clywed bod yna deuluoedd yn gallu elwa o鈥檙 treial hwn.

"Datblygodd y tiwmor ar ymennydd Sam yn weddol gyflym erbyn y diwedd.聽

"Roedden ni鈥檔 siarad am fywyd ar 么l y Nadolig a sut roedd 2023 yn edrych, ond wnaethon ni fyth gyrraedd yno.

"Bu farw 10 diwrnod cyn y Nadolig.

"Ond hyd at y pwynt hwnnw roedd fy ngwraig yn cadw gw锚n ar ei hwyneb bob dydd ac am bob dydd roedd hi鈥檔 codi, fe wnaethon ni godi gyda hi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Annabel fod diagnosis ei ffrind Areesha, dde, yn sioc i'w theulu a ffrindiau

Cododd Areesha Evans filoedd o bunnoedd yn y misoedd ar 么l ei diagnosis hi, gan wybod bod arian i fuddsoddi mewn ymchwil yn hanfodol.

Cafodd ddiagnosis o glioblastoma ym mis Ebrill 2021, a bu farw 10 mis yn ddiweddarach, yn 35 oed.

"Erbyn iddi gael y diagnosis, prin oedd gennym ni amser i dderbyn beth oedd yn digwydd ac yna roedd hi鈥檔 rhy hwyr,鈥 meddai ei ffrind, Annabel Jones, o Ffynnon Taf.

"Roeddwn i eisiau curo ar ddrysau pawb a dweud 鈥榬ydym ni angen buddsoddiad, mae angen ymchwil, mae angen rhywbeth鈥 oherwydd dyna oedd y peth mwyaf creulon a weles i erioed."

Roedd Areesha yn fenyw ffit ac yn iach, ac yn fam i ferch ifanc.

Fe wnaeth hyn ei wneud yn anoddach fyth i'w theulu a ffrindiau dderbyn y diagnosis.

'Cyfnod calonogol iawn'

Y treial yma yw un o'r astudiaethau cyntaf sydd wedi'i hariannu trwy gyllido torfol, esboniodd Dr MacLean.

"Rydyn ni wedi gweld datblygiadau enfawr wrth drin mathau eraill o diwmorau sylfaenol a chanserau dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn gallu bod yn eithaf rhwystredig fel niwro-oncolegydd, oherwydd rydyn ni yn sicr ar ei hol hi.

"Mae yna amryw o resymau am hynny 鈥 mae鈥檙 rhain yn diwmorau eithaf prin ac rydyn ni wedi cael llawer llai o gyllid, o gymharu 芒 mathau eraill o diwmorau.

鈥淥nd mae鈥檔 gyfnod calonogol iawn i fod yn glinigwr tiwmor yr ymennydd.

鈥淩ydyn ni鈥檔 deall llawer mwy am fioleg y tiwmorau hyn 鈥 bron yn fwy na rydyn ni鈥檔 gwybod am fathau eraill o diwmorau cynradd yr ymennydd.

鈥淵r hyn rydyn ni wir ei angen nawr yw鈥檙 cyllid a鈥檙 strwythur ar gyfer treialon i allu rhoi cynnig ar yr opsiynau hynny.鈥