Y Wladfa: Angen 'codi hyder' siaradwyr Cymraeg

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn cynnal dathliad Gŵyl y Glaniad bob blwyddyn
  • Awdur, Beth Alaw Williams
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

Wrth i Gymdeithas Cymru-Ariannin chwilio am ddau berson i Gymru i weithio yn y Wladfa, maen nhw'n dweud mai'r bwriad ydy "codi hyder pobl er mwyn defnyddio'r iaith fel cyfrwng cymdeithasol."

Mae 159 mlynedd ers i'r Cymry lanio ar dir Y Wladfa, Patagonia am y tro cyntaf ac i gydfynd â Gŵyl y Glaniad ddydd Sul, mae'r gymdeithas yn chwilio am bobl i weithio yno yn 2025.

Dywedodd aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas eu bod nhw'n chwilio am bobl "profiadol, brwdfrydig ac ymroddgar" ar gyfer y swyddi yn nhalaith Chubut.

Yn ogystal â dathliadau yn y Wladfa, mae sawl digwyddiad yng Nghymru yn nodi Gŵyl y Glaniad.

Disgrifiad o'r llun, Teithiodd 153 o bobl i Batagonia ar long y Mimosa

Mae Gŵyl y Glaniad yn cael ei dathlu'n flynyddol ar 28 Gorffennaf i gofio am y Cymry cyntaf i hwylio i'r Wladfa yn 1865.

Fe wnaeth mudwyr gychwyn ar eu taith o Lerpwl ar y Mimosa ym Mai 1865.

Yn ystod y daith a barodd ddau fis, cafodd dau fabi eu geni ac fe gafodd priodas ei chynnal ar y llong.

Er mai 153 o bobl oedd yn rhan o'r daith gyntaf, mae gan dros 50,000 o bobl Patagonia gysylltiadau gyda Chymru erbyn heddiw.

I nodi'r achlysur, mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn chwilio am swyddogion i gyfrannu at y diwylliant Cymraeg ac at waith eglwysi yn y Wladfa.

Mae aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin, Rhisiart Arwel yn pwysleisio pwysigrwydd y swyddi newydd.

Dywedodd: "Un o brif swyddogaethau'r gymdeithas ydy cefnogi cymdeithas Cymraeg sydd yn byw ym Mhatagonia.

"Y gobaith ydy'n bod ni'n cael dau berson i allu bod allan yn Y Wladfa am gyfnod hyd at 12 mis."

Angen 'codi hyder' siaradwyr Cymraeg y Wladfa

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhisiart Arwel yn rhan o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin

Bydd un swydd yn ffocysu ar ddatblygu'r Gymraeg trwy gynnal gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg, tra bydd yr ail swyddog yn cyd-weithio’n agos gydag eglwysi a gweinidogion.

Dywedodd Rhisiart: "Mater o godi hyder pobl 'da ni eisiau gwneud er mwyn defnyddio'r iaith fel cyfrwng cymdeithasol.

"Mae llawer o bobl yn gallu siarad Cymraeg yna, sy'n hollol wych, ond y pwynt ydy'r defnydd o'r iaith."

Mae gwasanaeth Cymraeg yn cael ei chynnal yn y Gaiman unwaith y mis, tra bod y gweddill yn dueddol o gael eu cynnal mewn Sbaeneg.

Mae Rhisiart yn gobeithio bydd un swyddog yn helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn crefydd.

"Mae'r traddodiad o ddefnyddio Cymraeg yn y capeli wedi crebachu.

"Mae crefydd dal yn bwysig iawn i bobl ar draws Y Wladfa ac felly bysa'r person 'da ni'n anfon allan wedyn yn gallu cynorthwyo'r bobl sydd eisoes yn gweithio yn y capeli."

Disgrifiad o'r llun, Glaniad y mudwyr yn cael eu ail-greu fel rhan o ddathliadau 'Gŵyl y Glanwyr' ym Mhatagonia yn 2015

Er bod 7,000 milltir rhwng Cymru a'r Wladfa, mae Aberteifi yn rhannu cysylltiad cryf gydag un dref yno.

Cafodd Aberteifi ei phartneru â Threfelin, ble mae cofeb y Mimosa, fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd Gŵyl y Glaniad yn 2015.

Mae'r gymuned yn dod at ei gilydd dros y penwythnos ar gyfer bwyd ac adloniant i nodi'r ŵyl yn Neuadd yr Esgob Petit.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan y gymdeithas, sydd yn trefnu dathliad pob blwyddyn mewn trefi gwahanol.

"Mae llawer o bwyllgor Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi cael eu geni ym Mhatagonia neu maen nhw wedi treulio dipyn o amser yna felly mae gennym ni lot o gyd-destun," dywedodd Rhisiart Arwel.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Cymru-Ariannin

Disgrifiad o'r llun, Cafodd dathliad ei gynnal yn Nefyn yn 2022

Yn ogystal ag yma yng Nghymru, dywedodd Rhisiart y bydd cyfarfodydd arbennig yn digwydd ar draws Y Wladfa i ddathlu'r "diwrnod pwysig" ddydd Sul.

Bydd trigolion yn rhannu danteithion wrth fwynhau adloniant traddodiadol.

Bydd modd i'r ddau berson fydd yn mynd i'r Wladfa o Gymru fod yn rhan o ddathliadau Gŵyl y Glaniad yn Y Wladfa flwyddyn nesaf.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 31 Awst.