Canlyniadau cofiadwy clybiau Cymru yn Ewrop

Ffynhonnell y llun, CBDC

Disgrifiad o'r llun, Lee Jenkins yn sgorio ym muddugoliaeth Hwlffordd yn erbyn Shkendija yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Wrth i glybiau Uwch Gynghrair Cymru baratoi i chwarae yn Ewrop y tymor yma, Dylan Griffiths sy'n bwrw golwg ar ganlyniadau cofiadwy rhai o glybiau Cymru yng nghystadlaethau UEFA dros y blynyddoedd.

Cwmbrân 3-2 Cork

Cwmbrân oedd y tîm cyntaf i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Y Pencampwyr ar ôl ennill Cynghrair Cymru yn 1993.

Pencampwyr Iwerddon, Cork City oedd eu gwrthwynebwyr yn y rownd ragbrofol gyntaf gyda’r cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn Stadiwm Cwmbrân.

Mi sgoriodd Simon King i dîm Tony Wilcox yn y pum munud agoriadol, gyda dwy gôl arall gan Francis Ford yn ychwanegu at eu mantais.

Mi darodd Cork yn ôl gyda dwy gôl yn yr ail hanner ond mi lwyddodd Cwmbrân i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.

Methodd Cwmbrân â sicrhau eu lle yn y rownd gyntaf oherwydd rheol goliau oddi-cartref gyda Cork yn ennill o 2-1 yn yr ail gymal.

Y Barri 3-1 FC Porto

Ffynhonnell y llun, Pinrest

Roedd cewri Portiwgal wedi dangos eu grym yn y cymal cyntaf yn Awst 2001 gyda buddugoliaeth o 8-0 ac oherwydd hyn roedd nifer o’u prif chwaraewyr ddim yn chwarae yn y gêm ym Mharc Jenner.

Ond er nad oedd y sêr i gyd wedi teithio, mi wnaeth pencampwyr Cymru ennill o 3-1 yn erbyn tîm oedd yn cynnwys Ricardo Carvahlo, Jorge Costa a Helder Postig.

Porto wnaeth sgorio gyntaf gyda Gustavo Dias Rafael yn rhwydo.

Ond mi darodd Y Barri’n ôl gyda dwy gôl mewn tri munud gan Lee Phillips a Mike Flynn i roi’r tîm cartref ar y blaen.

Fe seliwyd y fuddugoliaeth pan sgoriodd Gary Lloyd yn y funud olaf.

Bangor 1-0 FK Sartid

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Heb os daeth buddugoliaeth fwyaf Bangor yn 1962, pan guron nhw Napoli 2-0 ar Ffordd Farrar yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Tîm rhan amser oedd ganddyn nhw, yn chwarae yng nghynghrair Sir Caer.

Ond mae’n bosib dadlau y daeth eu buddugoliaeth fwyaf nodedig fel clwb yn Uwch Gynghrair Cymru 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Cyn-chwaraewr Manchester United a Lloegr, Peter Davenport, oedd y rheolwr pan guron nhw FK Sartid o Serbia yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cwpan UEFA.

Paul Roberts sgoriodd yr unig gôl ar y Cae Ras yn Wrecsam. Roedd y tîm yn cynnwys cyn-chwaraewyr Manchester United a Chymru, Clayton Blackmore a Simon Davies yn ogystal ag Owain Tudur Jones.

Y Seintiau Newydd 4-0 Bohemians

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Mi ddaeth tymor gorau'r Seintiau Newydd yn Ewrop yng Ngorffennaf 2010 wrth iddyn nhw gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Er colli’r cymal cyntaf 1-0 oddi-cartref yn erbyn pencampwyr Iwerddon, mi darodd tîm Mike Davies yn ôl mewn steil.

Sgoriodd Craig Jones, Matty Williams dwywaith a Chris Sharp yn yr 20 munud agoriadol yn Neuadd y Parc.

Eu gwobr oedd gêm yn erbyn Anderlecht, ond mi ddaeth yr antur i ben gyda’r tîm o wlad Belg yn ennill o 6-1 ar gyfanswm goliau.

Llanelli 2-1 Dinamo Tbilisi

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Roedd gan Llanelli record dda yn Ewrop eisoes wrth ennill oddi-cartref yn erbyn Gefle o Sweden yn 2007 a Motherwell ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Ond yn 2011 daeth y fuddugoliaeth fwyaf yn erbyn tîm oedd wedi ennill Cwpan Enillwyr Ewrop yn 1981.

Mi sgoriodd Jordan Follows ddwy gôl ar Barc y Scarlets, ond doedd dim dathlu yn yr ail gymal gyda’r tîm o Georgia yn curo tîm Andy Legg, 5-0.

Cei Connah 1-0 HJK Helsinki

Ffynhonnell y llun, NCM Media

Yn ôl rhai, buddugoliaeth Cei Connah yn erbyn y tîm oedd ar frig eu cynghrair yn y Ffindir yn 2017 ydy’r un fwyaf gan glwb o Uwch Gynghrair Cymru yn Ewrop. Roedd HJK Helsinki wedi cyrraedd rownd y grwpiau yng Nghynghrair Europa yn 2014-15.

Nathan Woolfe sgoriodd yr unig gôl yn Stadiwm Nantporth ym Mangor.

Roedd Cei Connah yn y penawdau eto ddwy flynedd yn ddiweddarach wrth guro Kilmarnock o 3-2 ar gyfanswm goliau yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa – buddugoliaeth wnaeth sicrhau gêm i dîm Andy Morrison yn erbyn Partizan Belgrade o Serbia.

Hwlffordd 1-0 Shkendija (1-1 ar gyfanswm goliau), 3-2 wedi ciciau o'r smotyn

Ffynhonnell y llun, CBDC

Dyma ymddangosiad cyntaf Hwlffordd yn Ewrop ers 2004 – ac roedd hi’n noson hynod o ddramatig yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Ngorffennaf 2023.

Roedd tîm Tony Pennock wedi colli’r cymal cyntaf 1-0 yn erbyn y tîm o ogledd Macedonia.

Roedd yna ddrama yn yr ail gymal pan sgoriodd Lee Jenkins wedi 89 munud i sicrhau buddugoliaeth ac i fynd â’r gêm i amser ychwanegol.

Doedd dim mwy o goliau, felly roedd angen ciciau o’r smotyn, a golwr Hwlffordd Zac Jones oedd yr arwr wrth iddo arbed dwy gic o’r smotyn.