鶹Լ

Epilepsi: Merch naw oed yn achub bywyd ei mam

Gwen HarriesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwen eisiau bod yn feddyg neu'n nyrs pan fydd hi'n tyfu i fyny

  • Cyhoeddwyd

Mae Imogen Harries, sy’n 38 oed o Sir Benfro, yn byw gydag epilepsi ac yn aml yn cael ffitiau.

Dywed bod ei merch Gwen, 9, wedi achub ei bywyd droeon ar ôl ymateb yn gyflym i'w ffitiau.

Mae epilepsi yn effeithio ar un o bob 100 o bobl yn y Deynas Unedig.

Mae'r fam o Hwlffordd yn dweud bod angen i fwy o bobl gael eu haddysgu am epilepsi a sut i ymateb wrth weld rhywun yn cael ffit.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Eglurodd Imogen a’i gŵr i’w plant beth i’w wneud pan fydd hi'n cael ffit a phryd i ffonio 999

Cafodd Imogen Harries ddiagnosis o epilepsi yn 2021 ar ôl cael ffit yn ei chartref. Ar y pryd roedd hi'n poeni sut y byddai'r cyflwr yn effeithio ar fywydau ei dau o blant.

Eglurodd hi a’i gŵr i’w plant beth i’w wneud pan fydd Imogen yn cael ffit a phryd i ffonio 999.

Dywed fod Gwen wedi datblygu dealltwriaeth dda o'r salwch.

“Un tro fe ges i ffit pan o’n i adre a roedd fy ngwyneb ar y llawr. Roedd tad a brawd Gwen allan yn siopa felly doedd hi ddim eisiau ffonio’i thad rhag ofn oedd e’n gyrru,” meddai ac fe wnaeth Gwen ffonio 999.

'Rwy'n lwcus iawn'

“Pan ddaeth y heddwas i mewn, roedd yn rhaid iddo fynd drwy’r ffenestr oherwydd roedd y drws ar glo. Dywedodd Gwen wrthyn nhw: ‘Byddwch yn ofalus! Peidiwch â thorri blinds fy mam!’. Roedd hi’n bwyllog iawn. Rhoiodd hi'r ci yn y gegin i roi lle iddyn nhw i weithio.

Ychwanega Imogen ei bod yn ddiolchgar i fod yn fyw wedi iddi gael un o'i ffitiau.

“Mae Gwen wastad wedi tawelu fy meddwl a phob tro dwi’n deffro dwi’n gweld ei hwyneb. Rwy’n lwcus iawn.”

Bydd Gwen yn gwneud yn siŵr ei bod yn dal pen ei mam neu ei orchuddio â thywelion os yw Imogen yn cael damwain.

Ychwanegodd Imogen: “Pan fydda i’n deffro bydd Gwen yn rhoi clustog o dan fy mhen, yn siarad gyda fi a chwarae gyda fy ngwallt.”

Mae Gwen eisiau bod yn feddyg neu'n nyrs pan fydd hi'n tyfu i fyny.

Mae epilepsi yn effeithio ar 11 o bob 1000 yng Nghymru. Mae'r cyflwr yn effeithio ar yr ymennydd gan achosi ffitiau yn aml a gall hefyd arwain at golli cof.

Mae 80 o bobl yn cael diagnosis o’r salwch bob dydd yn y DU.

Cafodd Imogen gwnsela y llynedd gan bod y cyflwr yn achosi gor-bryder.

“Roeddwn i’n ofn gyrru’r plant neu bod ar fy mhen fy hun gyda nhw.”

Mae Imogen yn teimlo nad oes digon o bobl yn gwybod beth i'w wneud pan fyddan nhw’n gweld rhywun yn cael ffit.

“Rwy’n credu o’r blaen, pe bawn i’n gweld rhywun yn cael ffit, mae’n bosibl y byddwn wedi cerdded heibio heb wybod beth i’w wneud,” meddai.

Sut i helpu?

  • Tynnwch wrthrychau niweidiol a all fod o gwmpas;

  • Rhowch glustog o dan ben y person;

  • Chwiliwch am gerdyn adnabod epilepsi neu emwaith adnabod – gall roi gwybodaeth i chi am eu ffitiau a beth i'w wneud;

  • Amserwch pa mor hir y mae'r ffit yn para;

  • Unwaith y bydd y ffit wedi dod i ben, helpwch y person i anadlu trwy ei roi yn y safle adfer;

  • Arhoswch gyda nhw nes eu bod wedi gwella'n llwyr;

  • Byddwch yn dawel ac yn gysurlon.

Mae Epilepsy Action yn cynghori pobl i ffonio 999 os yw’r person wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn ystod y ffit neu os yw’n para mwy na phum munud.

Mae Gwen wedi derbyn Gwobr Seren Epilepsi gan yr elusen Epilepsy Action.

Dywedodd Rebekah Smith, dirprwy brif weithredwr Epilepsy Action: “Mae gwybodaeth anhygoel Gwen am epilepsi yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rwy’n siŵr y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli ganddi i ddysgu mwy am y cyflwr a sut i gadw llygad am eraill.”

Pynciau cysylltiedig