Â鶹ԼÅÄ

Dyn yn cyfaddef taflu sylwedd cyrydol ar ddyn arall ger Llandeilo

Lansiodd Heddlu Dyfed-Powys apêl yn dilyn yr ymosodiad gan gyhoeddi llun o Jivan DeanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Lansiodd Heddlu Dyfed-Powys apêl yn dilyn yr ymosodiad, gan rannu'r llun yma o Jivan Dean

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 23 oed wedi pledio'n euog i ddefnyddio sylwedd cyrydol i ymosod ar ddyn ger Llandeilo.

Ymddangosodd Jivan Dean yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, gan gyfaddef i ddau gyhuddiad yn dilyn y digwyddiad ar safle 'Tipi Valley' ar 14 Awst.

Cyfaddefodd Dean ei fod wedi taflu sylwedd cyrydol - sef sodiwm hydrocsid - gyda’r bwriad i losgi, anafu, anffurfio neu anablu ei ddioddefwr, Raven Riley.

Fe gyfaddefodd hefyd i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol i Mr Riley.

Lansiodd Heddlu Dyfed-Powys apêl yn dilyn yr ymosodiad, gan gyhoeddi llun o Jivan Dean, ac fe gafodd ei arestio yn fuan wedyn.

Clywodd y llys bod y dioddefwr wedi treulio rhai diwrnodau yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Bydd Dean yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 22 Hydref.