Pryder bod costau'n amharu ar brofiad prifysgol

Disgrifiad o'r llun, Er gwaethaf y costau a'r ddyled fydd yn dilyn, mae Steffan, Grace ac Iwan yn gweld prifysgol fel buddsoddiad ar gyfer y dyfodol ac yn brofiad pwysig
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 麻豆约拍 Cymru

Mae mwy o fyfyrwyr yn gweithio tra'n astudio er mwyn mynd i'r afael 芒 chostau byw - ac yn 么l swyddog undeb myfyrwyr, mae hynny'n bryder.

"'Da ni yn poeni bod hynna yn mynd i effeithio ar eu hastudiaethau nhw," meddai Catrin Edith Parry, sy'n rhan o d卯m Undeb Prifysgol Caerdydd.

Wrth i filoedd o fyfyrwyr newydd ddechrau yn y brifysgol, mae un corff ymchwil yn dweud nad yw'r cyllid sydd ar gael yn ddigon i sicrhau safon byw da er bod y pecyn cymorth Cymreig yn fwy hael na'r pecyn i fyfyrwyr o rannau eraill y Deyrnas Unedig.

Dywedodd un brifysgol eu bod wedi cynyddu taliadau caledi ac un arall bod yna fwy o alw am gymorth.

Disgrifiad o'r llun, Mae undebau yn galw ar fyfyrwyr i droi atyn nhw am gyngor os yn wynebu trafferthion ariannol, medd Catrin Edith Parry o Brifysgol Caerdydd

Ynghanol prysurdeb wythnos y glas, dywedodd Catrin Edith Parry fod myfyrwyr newydd mewn "bybl" ar hyn o bryd yn cwrdd 芒 ffrindiau newydd.

"Mae'n wythnos lle ma鈥檙 pres yn dod mewn - cyllid myfyrwyr ac ma' pawb yn hapus wythnos yma ond dwi鈥檔 meddwl unwaith byddan ni 'di pasio rhyw fis arall bydd y poeni yna鈥檔 dod yn 么l eto.鈥

Dywedodd bod yna lawer o fyfyrwyr erbyn hyn yn gwneud swydd ochr yn ochr 芒'u hastudiaethau.

"'Da ni鈥檔 gweld bod myfyrwyr yn gorfod gweithio swyddi sy' bron yn llawn amser i 'neud yn si诺r bod gynnon nhw ddigon o bres i fyw yma," ychwanegodd.

"'Da ni isio i bobl gael y profiad prifysgol a 'neud yn dda, ond 'da ni yn gweld bod hynna鈥檔 dechra' bod yn broblem.鈥

Straeon perthnasol

Fel rhan o'r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru, mae pawb yn cael grant costau byw o 拢1,000 ac mae hyd at 拢8,100 i'r rheini sy' ddim yn byw adref ac yn astudio tu fas i Lundain - yn dibynnu ar incwm teuluol.

Y cyfanswm grantiau a benthyciadau gall myfyrwyr o Gymru sy'n astudio tu fas i Lundain hawlio yw 拢12,150 a hyd at 拢15,170 yn Llundain.

Yn 么l y felin drafod Higher Education Policy Institute, mae hynny'n fwy hael na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ond ddim ond yn 65% o'r hyn sydd ei angen ar gyfer safon byw derbyniol.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l arolwg gan wefan ariannol 'Save the Student', roedd dau draean o fyfyrwyr weithiau'n peidio cael pryd bwyd oherwydd diffyg arian

Mae Steffan Huw, 18, o Sir Gaerfyrddin yn gwerthafwrogi'r cymorth ariannol sydd ar gael.

鈥淵ng Nghymru, ni mewn sefyllfa olreit i gymharu 芒 myfyrwyr o Loegr 鈥 dydyn nhw ddim yn cael gymaint a 'ny o gwbwl.

"Y鈥檔 ni鈥檔 cael cyfran fel grant hefyd sy' ddim rhaid i ni dalu n么l.鈥

Ond mae meddwl am y ddyled ar 么l astudio yn bryderus, meddai.

Astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth mae Grace Browne, 18, o Abertawe, ac mae'n teimlo'n "rili cyffrous ond rili nerfus" am ddechrau yn y brifysgol.

鈥淒wi鈥檔 becso am y dyfodol - y costau yn y dyfodol, talu n么l y student loan. Ond am nawr dwi鈥檔 budgeto a dwi鈥檔 meddwl bydda i鈥檔 iawn," meddai.

鈥淢ae gen i swydd rhan-amser yn barod. Dwi鈥檔 'neud un dydd Sadwrn yr wythnos, jyst i helpu popeth, a helpu costau a stwff fel 鈥檔a.鈥

Mae Iwan Bryer, hefyd o Sir Gaerfyrddin, wedi cael cyngor gan ei deulu am sut i arbed arian.

"Mae mam-gu wedi dangos yr app rili cool ma lle mae restaurants yn twli mas bwyd ar ddiwedd y dydd a mae nhw鈥檔 neud bocsys a鈥檔 gostwng prisiau.

"Ma lot o gymorth 'di bod yn pethe fel y freshers fair 鈥檓a heddi... a ma' lot o wefannau rili handi yn gallu rhoi cymorth i chi i safio arian mewn ffordd rili syml.鈥

Cymorth gan brifysgolion

Dywedodd Prifysgolion Cymru bod sefydliadau'n gweithredu i helpu myfyrwyr sydd yn ei chael hi'n anodd yn ariannol trwy gynnig cymorth ymarferol fel llefydd cynnes i weithio, gweithdai addysg ariannol neu ehangu cronfeydd caledi.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cynyddu eu taliadau caledi i uchafswm o 拢2,000, tra bod Prifysgol Abertawe wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth dros ddwy flynedd.

Disgrifiad o'r llun, Mae pecyn ariannol myfyrwyr Cymru yn gymharol hael, meddai Deio, ond dydy e dal ddim yn ddigon

Yn 么l Deio Owen, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru mae 'na fwlch rhwng incwm myfyrwyr a chostau.

"'Da ni鈥檔 gweld bod myfyrwyr yn gallu talu dros 拢6,000 y flwyddyn ar rent yn unig sy鈥檔 bryderus iawn鈥.

Mae'n cydnabod bod yna "gwestiynau allan yna o ran beth ydi gwerth graddau prifysgol" ond mae'n credu bod yna fudd mawr i gael gradd.

"Mae 'na astudiaethau鈥檔 dangos bod prifysgol yn eich rhoi chi mewn sefyllfa well i gael swyddi yn y dyfodol a bod 'na werth i fynd i brifysgol," ychwanegodd.

Y neges i fyfyrwyr yw i wneud y mwyaf o'r cyngor sydd ar gael.

鈥'Da ni rili isio gweld myfyrwyr yn mwynhau tra bo' nhw yma鈥檔 y brifysgol", meddai Catrin Edith Parry o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

"Ond pl卯s, pl卯s dewch i siarad efo ni os oes gennych chi unrhyw bryderon.鈥