鶹Լ

Cynnig £5,000 i bobl ddychwelyd i gadarnleoedd y Gymraeg

Porth LlechogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Ymgartrefu Llwyddo'n Lleol yn cynnig grant i bobl sydd eisiau symud nôl i siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Mae grant o £5,000 yn cael ei gynnig i deuluoedd sydd am ddychwelyd i gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y gogledd a'r gorllewin.

Mae'r cynnig, gan brosiect Llwyddo'n Lleol, ar gael ar gyfer pobl sydd wedi symud i ffwrdd, ond sydd eisiau dychwelyd i ranbarth Arfor - siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin.

Y nod yw ei gwneud hi'n haws i deuluoedd symud yn ôl i'r ardal.

Mae Llwyddo'n Lleol yn dweud y gallai'r grant gael ei ddefnyddio ar gyfer materion fel "costau cludiant, costau rhent neu forgais, costau gwarchod plant, neu wersi Cymraeg hyd yn oed".

Y grant 'yn gatalydd' i symud nôl

Un teulu sydd eisoes wedi elwa o gymorth cynllun Ymgartrefu ydy un Huw Brassington, sy'n wreiddiol o Wynedd ond sydd wedi bod yn byw yn Cumbria yng ngogledd Lloegr ers rhai blynyddoedd.

Yn adnabyddus i nifer fel rhedwr mynydd a chyflwynydd i S4C, peiriannydd yw ei waith o ddydd i ddydd.

"'Da ni ar fin symud nôl i Gymru, a ma' grant Llwyddo'n Lleol wedi'i 'neud o'n haws i ni 'neud y penderfyniad yna," meddai.

"Yn y diwedd dyna oedd y catalyst mewn ffordd i ni ddod nôl."

Ffynhonnell y llun, Huw Brassington
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Brassington yn adnabyddus fel rhedwr mynydd

Bydd yn cadw ei swydd gyda chwmni Tenets Design Consultants ac yn gweithio o ogledd Cymru, ond bydd hefyd yn chwilio am bobl eraill i weithio i'r cwmni yng Nghymru.

"Mae hynny’n rhan o effaith grant Llwyddo’n Lleol," meddai

"Mae ’na swyddi da i bobl eraill yng ngogledd Cymru wedi dod ohono fo.”

Pwy sy'n gymwys am y grant?

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion canlynol i fod yn gymwys:

  • Cyplau/teuluoedd sydd ag o leiaf un oedolyn 35 oed neu iau;

  • Cyplau/teuluoedd sydd ag o leiaf un aelod sy’n dod yn wreiddiol o ranbarth Arfor ond sydd bellach yn byw y tu hwnt i’r siroedd hyn;

  • Bod yn unigolyn sy’n medru’r Gymraeg neu wedi ymrwymo i ddysgu’r iaith, neu’n deulu sydd ag un aelod sy’n siarad ac/neu yn dysgu Cymraeg;

  • Yn gallu ymrwymo i ddychwelyd i ranbarth Arfor erbyn mis Mawrth 2025;

  • Yn hapus i rannu eu profiad o symud yn ôl ar gamera.

Mae Llwyddo'n Lleol yn dweud fod "rhywfaint o hyblygrwydd" ynghylch y gofynion, ac yn annog unrhyw un sy'n awyddus i gymryd rhan yn y prosiect ond sydd ddim yn bodloni'r holl fanylion i gysylltu â nhw.

Dywedodd Llwyddo'n Lleol fod "allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd".

"O ganlyniad, un o amcanion Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd eisoes wedi gadael fod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid."

'Gweithio ar stepen fy nrws'

Yn ogystal â phrosiect newydd Ymgartrefu, mae Llwyddo'n Lleol yn dweud eu bod eisoes yn denu pobl yn ôl i gadarnleoedd y Gymraeg trwy eu prosiectau Mentro a Gyrfaol.

Dywedon nhw fod wyth unigolyn a dderbyniodd gymorth gan elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol wedi dychwelyd i Arfor o ganlyniad i'w swyddi.

Un o'r rheiny ydy Sioned Meleri Evans, sydd wedi dychwelyd i Sir Gâr i fod yn is-gynhyrchydd gyda chwmni Carlam.

“Dwi’n lwcus iawn achos dwi wedi gallu dod ’nôl adref i Sir Gâr i weithio ar stepen fy nrws i Carlam," meddai

"Mae'r cwmni wedi'i leoli yn yr Egin, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i fod yn agosach at fy nheulu a ffrindiau.”

Pynciau cysylltiedig