鶹Լ

'Cyffro yn y garfan' cyn i Gymru wynebu Gwlad yr Iâ

Craig Bellamy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheolwr Craig Bellamy yn "llawn cynnwrf" wrth dreulio mwy a mwy o amser gyda'r garfan

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Craig Bellamy gerdded i mewn i gynhadledd y wasg yn Stadiwm Laugardalsvollur yn Reykjavik nos Iau, gyda gwên lydan ar ei wyneb mae’n gofyn i’r newyddiadurwyr: "Pawb yn iawn?"

Tawelwch.

"Ydych? Na? Oes na ateb?"

Dyma Bellamy y rheolwr. Mae’n hawlio sylw ac yn barod i herio. Mae yna barchedig ofn.

Y natur di-flewyn ar dafod hwn sydd wedi dal dychymyg, ynghyd â'i arddull ymosodol ar y cae. Mae'r cefnogwyr yn gwrando, yn gwylio ac yn gwerthfawrogi ei weledigaeth.

"Dw i wedi fy nghyffroi. O'n i'n gwbod bod y criw yma yn un da. O'n i'n llawn cynnwrf wedi'r garfan gyntaf gyda'n gilydd ond mae wedi codi i lefel arall y tro hyn."

Ffitrwydd Ben Davies yn 'berffaith'

Disgrifiad,

Ben Davies: 'Ni'n credu ni'n gallu bod yn well eto'

Mae’r chwaraewyr yn rhannu'r un angerdd cyn eu gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ nos Wener.

Mae Ben Davies - y capten - yn hen ben erbyn hyn. Ddeuddeg mlynedd yn cynrychioli ei wlad, Bellamy yw ei bedwerydd rheolwr ac mae'r gŵr newydd wrth y llyw at ei ddant - yn bendant.

“Fel carfan, da ni’n edrych ymlaen at y gêm. Ni’n credu ni wedi gweithio’n galed wythnos ‘ma a ni’n barod i ‘ware nawr.

"Ni ‘di edrych nol ar y gemau, beth ni di neud yn dda a be ni’n gallu neud yn well. Fi’n credu bod e’n ffordd newydd o ‘ware a mae fe’n ffordd o ‘ware ble mae rhaid i ni fod yn hyderus a da ni’n cael hynny wrth yr hyfforddwr.

"'Da ni'n mynd i geisio creu siawnsys a sgorio goliau. Ar adegau bydd e bach yn risky ond mae e’n neis i ‘ware pêl-droed ble da ni ar y droed flaen.”

Dyw'r amddiffynwr 31 oed ddim wedi bod yn chwarae yn gyson dros ei glwb Tottenham Hotspur y tymor hwn felly oes 'na farc cwestiwn ynglŷn â'i ffitrwydd?

Na - mae’n "berffaith", meddai â gwen ddireidus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gêm nos Wener yn cael ei chwarae yn Stadiwm Laugardalsvollur, Reykjavik

Adeiladu ar y pedwar pwynt gafon nhw ym nwy gêm gyntaf eu hymgyrch yng Nghyngrair y Cenhedloeddd yw’r nod i Gymru dros y dyddiau nesaf.

Gwlad yr Iâ i ddechrau, ac yna'n ôl i Gaerdydd i herio Montenegro eto nos Lun.

Pa obaith felly yn y gêm gyntaf? Dwi’n holi newyddiadurwr lleol, Gudmundur Asgeirsson.

"Mae llawer wedi newid ers i Wlad yr Iâ fynd i’r Ewros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2018," meddai. "Mae tipyn o ailadeiladu wedi bod - ma' 'na dîm newydd ar y cyfan.

"Mae 'na deimlad positif o gwmpas y garfan eto. Mae llawer wedi digwydd oddi ar y cae hefyd, ond gobeithio allwn ni gael y dyddiau da yn ôl eto."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gyffro hefyd ymhlith carfan Gwlad yr Iâ, medd y newyddiadurwr Gudmundur Asgeirsson

Fe fydd cefnogwyr Cymru'n gobeithio na fydd y dyddiau da yna yn dychwelyd i'r gwrthwynebwyr yn rhy fuan.

Mae hi’n 10 mlynedd ers i Gymru wynebu Gwlad yr Iâ ddiwethaf. Buddugoliaeth o 3-1 i’r tîm cartref yng Nghaerdydd oedd hi bryd hynny.

Prin yw'r rheini sy'n cofio'r sgôr ond fe fydd y mwyafrif yn cofio athrylith Gareth Bale, yn gwibio i lawr yr ystlys o'i hanner ei hun cyn rhwydo.

Fe fyddai gôl ac antur debyg nos Wener yn plesio pawb.