O chwarae Subbuteo gyda’i frawd... i Gwpan y Byd

Disgrifiad o'r llun, Matthew Rowley

Bydd nifer ohonom yn cofio'r gêm fwrdd Subbuteo fel rhan o’n plentyndod. Ond un sy’ wedi parhau i chwarae’r gêm bêl-droed gyda modelau bach plastig o chwaraewyr yw Matthew Rowley o Gaerdydd, sy’ newydd chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd Subbuteo.

Dyma’r pumed tro i’r DJ o dde Cymru gynrychioli ei wlad – ac roedd y twrnament dros benwythnos Medi 20-22 yn Tunbridge Wells, Lloegr yn un arbennig, meddai: “Roedd yn ddigwyddiad anhygoel a dwi’n gobeithio ei fod wedi codi proffil y gêm.

“Dyma’r nifer mwyaf o chwaraewyr Subbuteo i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1996 – roedd 10 ohonom ni i gyd.

“Llwyddodd dau o’n chwaraewyr yn y gystadleuaeth agored i gyrraedd y 32 olaf, sy’ efallai ddim yn swnio’n lot ond ddim yn aml mae chwaraewr o Gymru yn llwyddo i basio y grwpiau.”

Yn boblogaidd iawn yn y 1970au a’r 1980au mae Subbuteo yn gêm lle mae chwaraewyr yn fflicio modelau bach o chwaraewyr pêl-droed o gwmpas stadiwm gan drio sgorio gôl gyda’r bêl.

Ffynhonnell y llun, Phil Harrison / 鶹Լ

Disgrifiad o'r llun, Mae unigolion o nifer o wledydd wedi cystadlu yng Nghwpan y Byd 2024

Mae’r Cwpan y Byd yn digwydd bob dwy flynedd ac eleni roedd dros 300 o unigolion yn cystadlu gyda thimau’n cynrychioli gwledydd fel Japan, Tunisia, Awstralia, Singapore a Brasil, gydag unigolyn o Groeg, Dimitrios Dimopoulos, yn fuddugol. Eleni hefyd roedd Wcrain yn cystadlu am y tro cyntaf.

Fel mae Matthew yn ei ddweud: “Mae Subbuteo wedi lledu ar draws y byd.”

Yn anffodus i’r chwaraewr o Gaerdydd gorffennodd e ar waelod ei grŵp, meddai: “Ro’n i’n siomedig gyda sut wnes i chwarae achos llynedd yn yr Euros o leiaf wnes i berfformio yn dda.

“Ond mae gen i hen anaf llygad sy’n effeithio arna’i ar hyn o bryd.”

Mae Matthew’n esbonio fod angen cydsymudiad llaw-llygaid perffaith er mwyn chwarae Subbuteo yn dda: “Mae angen bod yn gallu meddwl yn gyflym ac mae medrusrwydd dwylo’n hynod bwysig.

“Mae’n gêm sy’n cael ei chwarae gyda chymaint o gyflymder a chywirdeb ar y lefel uchaf – mae’n anhygoel beth mae rhai o’r chwaraewyr gorau’n gallu gwneud.”

Yn Tunbridge Wells cafodd y gêm ei greu gan Peter Adolph yn 1946 gyda’r ffigurau cyntaf wedi eu creu o gardfwrdd. Felly roedd yn brofiad arbennig i gystadlu yno yn man geni’r gêm eleni.

Esbonia Matthew: “Am y tro cyntaf hefyd roedd y gystadleuaeth yn cael ei ffrydio’n fyw gyda chriw camera proffesiynol ar dudalen Facebook cynghrair Subbuteo Lloegr ac mae’n wirioneddol dangos pa mor gyflym a medrus yw’r gêm.”

'Datblygu'r gêm yng Nghymru'

Wedi cynrychioli Cymru mewn tri Chwpan y Byd a dau bencampwriaeth Ewropeaidd, mae Matthew'n angerddol fod angen datblygu’r gêm yng Nghymru: “Mae’n rhaid i ni dyfu’r gêm. Dyma’r gêm un yn erbyn un gorau posib. Mae’n bosib ei gymharu i darts neu snwcer ond mae’n fwy cyflym i’w chwarae.

“Ym Mhrydain mae twf wedi bod yn y nifer o chwaraewyr sy’n cofio chwarae’r gêm yn y gorffennol ac sy’ wedi dychwelyd i chwarae – ‘slawer dydd roedd cynghreiriau lleol mewn nifer o drefi.

“Mae’r chwaraewyr newydd hyn wedi cychwyn teithio dros Brydain i gystadlu ond un broblem sy’ gennym yng Nghymru yw nad oes digon o chwaraewyr ifanc ar y sîn.”

Mae ‘na bencampwriaethau Subbuteo rheolaidd ar draws Prydain ac Ewrop ac mae Matthew'n aelod o glwb Subbuteo Adar Gleision Caerdydd, sy’n chwarae yn Nantgarw. Ond nid oes unrhyw glybiau eraill yng Nghymru erbyn hyn.

Meddai Matthew, sy’n teithio i’r Eidal wythnos nesaf i chwarae yn erbyn clwb yn Pisa: “Rydym yn bwriadu cychwyn teithio o amgylch trefi a dinasoedd yng Nghymru, gan wahodd pobl o Loegr ac Ewrop i ddod i chwarae yno.”

Disgrifiad o'r llun, Ar ei anterth roedd mwy na 300,000 o setiau Subbuteo yn cael eu gwerthu bob blwyddyn

Cychwyn fel plentyn

Roedd cychwyn perthynas Matthew gyda’r gêm yn debyg i brofiad nifer ohonom fel plant, meddai: “Roedd gan fy mrawd hŷn set ac oedden ni arfer cnocio ambutu gyda fe ar y llawr.

“Ac mi dyfodd fel estyniad o fy nghariad at bêl-droed go iawn – o’n i jest eisiau gwneud rhywbeth arall oedd yn ymwneud â phêl-droed.

“Roedd fy ffrind i'n chwarae i glwb felly mi es i gyda fe a 26 mlynedd yn ddiweddarach dwi dal yno.

“Ar ddiwedd y dydd y bobl sy’n rhan o’r gêm sy’n ei wneud yn arbennig – maen nhw’n bobl dwi’n caru treulio amser gyda ac mae’r elfen gymdeithasol yn fwy pwysig na dim.

“Mae’r atgofion sy’ gen i o deithio ar draws Ewrop yn yr 1990au yn mynd i aros gyda fi am byth.”