Trysor prin o'r Oes Efydd i'w gweld yn Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr eitemau eu canfod yn Llangeitho yn 2020
  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Am y tro cyntaf yn gyhoeddus, mae trysorau prin o鈥檙 Oes Efydd wedi cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion.

Mae鈥檙 celciau, sef dros 50 o eitemau a gafodd eu canfod yn Llangeitho yn 2020, yn cynnwys offer efydd, arfau ac addurniadau corff.

Daw鈥檙 arddangos wedi i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion gyrraedd eu targed ariannol er mwyn prynu鈥檙 eitemau a鈥檜 cadw yn y sir.

Dywedodd Cyril Evans, Cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion fod "nifer o forthwylion, topiau'r morthwyl eu hunain, wedyn arfau a hefyd mwclesi a chlustlysau corff" ymhlith y trysorau o 3,000 o flynyddoedd yn 么l.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r eitemau'n rhan o "dreftadaeth" Cymru, medd Cyril Evans

鈥淢aen nhw鈥檔 brin ofnadwy ac wrth gwrs maen nhw鈥檔 rhan o鈥檔 treftadaeth ni,鈥 meddai.

鈥淏eth fyddai鈥檔 ddiddorol darganfod yw ble gaethon nhw eu gwneud, gan bwy ac o bosib pam gaethon nhw eu cuddio hefyd.鈥

Cafodd y trysorau eu darganfod yn Llangeitho yn 2020 gan ddau oedd yn defnyddio datgelyddion metel.

Dywedodd y crwner fod y gwrthrychau yn "drysor" yn unol 芒'r Ddeddf Trysor, gyda chyfle鈥檔 dod i鈥檞 prynu a鈥檜 cadw鈥檔 lleol.

'Ennill medal aur'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r trysor yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth

Bellach, mae'r celciau ar gael yn Amgueddfa Ceredigion wedi i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion gyrraedd targed ariannol o 拢4,200 i brynu鈥檙 trysorau.

Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion yr Amgueddfa fod y swm wedi鈥檌 godi "dros nos bron".

鈥淩oedd yr arian yn llifo ymhellach na Cheredigion, o Gymru ben baladr a dros y ffin, oherwydd eu pwysigrwydd archeolegol nhw, eu pwysigrwydd nhw yng nghyd-destun hanes yr ardal ond hanes ehangach Cymru,鈥 meddai.

鈥'Dw i nawr yn meddwl, pan 鈥榙an ni鈥檔 ganol y gemau olympaidd a鈥檙 s么n am y gwahanol fedalau, 'dw i鈥檔 credu mai medal aur enillodd Ceredigion pan ddaeth y celciau o鈥檙 oes efydd yma i鈥檙 golwg.鈥

Mae鈥檙 celciau i鈥檞 gweld yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, lle bydd arddangosfa yn cael ei chreu yn y dyfodol fydd yn nodi鈥檙 hanes.