Â鶹ԼÅÄ

Dyn wedi ei ganfod yn farw yng nghanol Caerdydd

Sgwar CallaghanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Sgwâr Callaghan tua 14:20

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei ddarganfod yn farw yng nghanol Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn adroddiad bod dyn wedi’i ganfod yn anymatebol yn Sgwâr Callaghan, Trebiwt, cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r ardal toc wedi 14:20.

Cafodd y dyn ei ddatgan yn farw yn y fan a’r lle, meddai’r llu.

Maen nhw’n ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth ac mae’r ardal yn parhau i fod ar gau.

Pynciau cysylltiedig