Cwmni drag anabl cyntaf Cymru'n 'rhoi hyder' i bobl

Ffynhonnell y llun, Chris Lloyd

Disgrifiad o'r llun, House of Deviant yw'r cwmni drag聽anabl cyntaf, a鈥檙 unig un, yng Nghymru
  • Awdur, Liz Clements
  • Swydd, Gohebydd cymunedau 麻豆约拍 Cymru

鈥淢ae'n gwneud i fi deimlo'n wych ac yn hyderus. Rwy鈥檔 falch o fod yn fenyw mewn drag.鈥

Mae bod yn frenhines ddrag anabl wedi cael effaith sylweddol ar fywyd Nicole Bird.

Mae hi鈥檔 rhan o House of Deviant, y cwmni drag聽anabl cyntaf, a鈥檙 unig un yng Nghymru.

Mae'r criw yn paratoi i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ymunodd Nicole, 27 oed o Gaerffili, 芒 House of Deviant yn ystod y cyfnod clo ac mae鈥檔 cynnig cyfleoedd iddi鈥檔 barhaus.

鈥淔y enw drag yw Flossie Sunshine!鈥 meddai.

"Mae鈥檔 gwneud i fi deimlo鈥檔 bwysig bod yn rhan o鈥檙 gr诺p drag anabl cyntaf yng Nghymru.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Nicole wedi cael cyfle i ddysgu Cymraeg a mwy am Gymru, dywedodd

Bydd Nicole yn perfformio mewn sioe o鈥檙 enw Ffabinogion yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy鈥檔 cynnig gwedd fodern ar rai o chwedlau鈥檙 Mabinogi.

Nid yw鈥檙 cw卯ns anabl yn siarad Cymraeg felly maen nhw wedi bod yn dysgu ymadroddion a llinellau ar gyfer y sioe.

鈥'Dw i wedi bod yn mwynhau dysgu Cymraeg a dysgu am Gymru,鈥 meddai Nicole.

'Bod yn nhw eu hunain'

Mae Ellis Lloyd Jones yn gyflwynydd ac yn ddylanwadwr TikTok o鈥榬 Rhondda鈥檔 wreiddiol.

Ef fydd yn arwain perfformiad House of Deviant ar y llwyfan.

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Ellis Lloyd-Jones bersona drag ei hun ac mae'n falch bod cyfle i bobl "fod yn nhw eu hunain"

Dywedodd Ellis ei fod wedi clywed am waith y gr诺p ychydig fisoedd cyn cael ei wahodd i gymryd rhan, a鈥檌 fod wrth ei fodd gyda鈥檌 hysbryd nhw.

鈥淥'n nhw鈥檔 gwneud drag 鈥 ma' nhw jest yn joio fe, ma' nhw鈥檔 perfformio a bod yn nhw eu hunain, a dyna rywbeth fi鈥檔 neud lot pan fi鈥檔 neud drag, fi鈥檔 mynd ar y llwyfan a gweld be sy鈥檔 digwydd,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 bwysig bo da ni鈥檙 gynrychiolaeth yma o bobl Cymraeg anabl ac awtistig, cwiar hefyd, mae鈥檔 bwysig bod da ni rhywbeth fel hwn yn yr Eisteddfod."

'Mae'n rhan o'n diwylliant'

Nododd ei fod yn gwerthfawrogi鈥檙 bartneriaeth rhwng y gymuned LHDT a鈥檙 Eisteddfod - 聽Mas ar y Maes.

鈥淵n tyfu lan fel rhywun cwiar, o'n i ddim yn gweld lot o bethau cwiar yn digwydd yn yr Eisteddfod, ond dyddie 'ma, eleni nawr ma' da fi cwpl o sioeau lle fi鈥檔 perfformio mewn drag a ma' fe mor lysh i weld llwyth o bethau fel 'na.

鈥淢ae鈥檙 'Steddfod yn rhywbeth diwylliannol 鈥 diwylliant Cymru 鈥 a 'da ni gyd yn rhan o鈥檙 diwylliant 鈥 fel fi fel person cwiar聽sy鈥檔 perfformio mewn drag rhan fwya' o鈥檙 amser mewn Cymraeg 鈥 mae hwnna鈥檔 rhan massive o鈥檔 niwylliant i, a fi mor falch bo fi鈥檔 gallu mynd ar y llwyfan yn yr Eisteddfod a pherfformio fel 'na.

鈥淢a' llwyth o bethau鈥檔 rhan o鈥檙 diwylliant 鈥 mwy na cerdd dant a thelynau!鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Sophie Scheeres, 31, yn ceisio bod yn fwy hyderus

Roedd un arall o鈥檙 perfformwyr, Sophie Scheeres, 31 oed, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Miss Shade B, yn un o鈥檙 rhai wnaeth ysbrydoli sefydlu House of Deviant.

鈥淩wy鈥檔 ceisio defnyddio fy llais yn fwy, bod yn fwy hyderus 鈥 dyna sydd ei angen arnaf,鈥 meddai.

鈥淢ae gan bob un ohonom anableddau dysgu.聽'Dyn ni ddim yn ei weld felly.

鈥淩wy鈥檔 meddwl ei fod yn anhygoel gallu bod yn gymeriad gwahanol i bwy ydych chi. Mae Miss Shade yn sassy 颈补飞苍鈥

鈥淒wi braidd yn nerfus, gyda鈥檙 iaith hefyd, achos mae鈥檔 newydd i fi鈥 ond mae鈥檔 dod yn araf. Mae bach yn wahanol a bach yn anodd, ond rwy鈥檔 dysgu."

Disgrifiad o'r llun, Gareth Powell yw sylfaenydd y gr诺p

I Gareth Powell, sylfaenydd y gr诺p, mae wedi bod yn destun balchder mawr gweld y cw卯ns聽yn ymarfer, ond yn 鈥渉er go iawn鈥 ar yr un amser.

鈥淢ae鈥檙 prosiect nid yn unig yn datblygu eu hunan-barch ond mae鈥檔 dangos i鈥檙 byd yr hyn maen nhw鈥檔 gallu gwneud,鈥 meddai.

Ar 么l perfformio mewn drag am 22 mlynedd ei hun, dywedodd Gareth fod ei gymeriad yn rhoi 鈥渉yder鈥 iddo ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ei fywyd bod dydd.

Disgrifiad o'r llun, Bydd y criw yn perfformio ym Maes D yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau 10 Awst

Dywedodd, o ganlyniad, ei fod wedi archwilio sut i 鈥渄defnyddio perfformiad drag gydag oedolion ag anableddau dysgu i fagu hyder a hunan-barch".

鈥淢ae鈥檔 arf da iawn i helpu pobl sydd weithiau鈥檔 gweld hi鈥檔 anodd cael eu lleisiau wedi鈥檜 clywed,鈥 meddai.

鈥淢ae yna nifer o resymau pam y byddai unrhyw un eisiau 'neud drag.

鈥淓fallai ei fod yn ymwneud ag archwilio rhywedd, efallai ei fod yn ymwneud ag hunaniaeth a hunan-barch, efallai eich bod chi wir yn hoffi glitter a sequins gwych.

鈥淢ae House of Deviant yn ddathliad o ddynoliaeth."

'Gwahaniaeth mawr'

Un o'r teimladau mwyaf gwerthfawr i Gareth yw gwylio'r effaith y mae drag yn ei gael ar y perfformwyr.

鈥淧an y'ch chi'n gweld y newid yna - sut mae person yn meddwl amdano'i hun... ydyn, maen nhw'n dangos i gynulleidfaoedd pa mor wych ydyn nhw, a beth maen nhw'n gallu ei wneud, ond hefyd, mae'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r unigolyn hwnnw," meddai.

鈥淒yna鈥檙 aur a鈥檙 trysor yn y prosiect hwn mewn gwirionedd.鈥

Bydd House of Deviant yn perfformio Ffabinogion nos Iau 10 Awst am 18:30 ym Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd.