'Gallwn fod wedi taro bachgen pe bawn dros 20mya'

Disgrifiad o'r llun, Roedd Wyn Rees o Landudoch yn gyrru yn yr ardal pan fu'n ffodus i beidio taro bachgen 12 oed gan ei fod yn gyrru'n ddigon araf
  • Awdur, Aimee Thomas
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae dyn o Sir Benfro yn dweud y gallai fod wedi lladd bachgen 12 oed os oedd yn gyrru dros 20mya.

Roedd Wyn Rees o Landudoch yn gyrru yn yr ardal pan wnaeth y plentyn groesi鈥檙 ffordd yn dal ei gacen pen-blwydd.

Yn 么l Wyn, yr unig reswm y llwyddodd i stopio oedd oherwydd bod y terfyn cyflymder wedi鈥檌 ostwng i 20mya.

Mae'r ardal yn rhan o gynllun peilot ers 2021 cyn i ddeddf Llywodraeth Cymru i ostwng terfynau ffyrdd 30mya ddod i rym fis nesaf.

鈥淥'n i鈥檔 gyrru ac oedd g诺r wedi parcio ar ochr yr heol. Fe wnaeth e arwyddo i fi allu mynd ond wnaeth y bachgen bach feddwl bod yr arwydd iddo fe, a gamodd e allan i鈥檙 heol o du 么l y ceir oedd wedi parcio ar yr ochr.

鈥淟wcus o ni鈥檔 20mya a llwyddais i stopio cyn i fi fwrw fe.

"Byddai pethau yn wahanol iawn os fydden i 鈥榙i bod yn gyrru 30mya. Fe fydden i 'di bwrw y plentyn yn bendant.

鈥漅oedd e鈥檔 sioc i fi, ond yn fwy o sioc i fam y plentyn oedd ar ochr arall yr heol.

鈥漎n ardaloedd mewn pentrefi fel Llandudoch gyda nifer o dai, fi鈥檔 credu'n bendant bod 20mya yn syniad da.鈥

Mae mam y bachgen yn dweud ei fod yn hynod lwcus fod Wyn yn gyrru 20mya.

"Fe wnaeth Wyn fedru stopio ond troedfedd i ffwrdd o'r bachgen a wnaeth popeth ddigwydd mor gyflym. O'n i wir wedi fy ysgwyd.鈥

Pa ffyrdd fydd yn cael eu heffeithio?

Mae ugain o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu鈥檔 ddifrifol ar ffyrdd ar draws Cymru bob wythnos, yn 么l data diweddaraf yr heddlu.

O 17 Medi, 20mya fydd y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, er y bydd cynghorau'n gallu gosod eithriadau.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio fel rhai sydd 芒 goleuadau stryd wedi'u gosod heb fod yn fwy na 200 llath (tua 180m) oddi wrth ei gilydd.

Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o gerddwyr.

Mae鈥檙 terfyn cyflymder newydd eisoes wedi鈥檌 gyflwyno mewn rhai mannau, lle鈥檙 oedd yn arfer bod yn 30mya, fel rhan o gynllun peilot sydd ar waith ers 2021.

Y rhain yw Llandudoch yn Sir Benfro, Sant-y-brid ym Mro Morgannwg, Llanelli, Bwcle yn Sir y Fflint, Caerdydd, Cilffriw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Y Fenni a Glannau Hafren yn Sir Fynwy.

Disgrifiad o'r llun, Dyma le y bu bron i'r bachgen gael ei daro

Mae Dr David Hanna, ymgynghorydd argyfwng pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn croesawu鈥檙 polisi, gan ddweud y bydd yn 鈥渉elpu i leihau nifer y gwrthdrawiadau a difrifoldeb yr anafiadau".

Dywedodd fod plant mewn mwy o berygl o anafiadau difrifol nag oedolion.

鈥淢ae gan blant llai o ymwybyddiaeth o鈥檙 ffyrdd nag oedolion a gall fod yn anodd ei weld.

"Maen nhw hefyd yn dueddol o gael eu taro鈥檔 uwch ar y corff nag oedolion oherwydd eu taldra llai, ac yn fwy tebygol o ddioddef o anafiadau difrifol o ganlyniad.鈥

Serch hynny, nid yw pob gyrrwr yng Nghymru yn cefnogi鈥檙 newid, gyda rhai yn protestio drwy glymu rhubanau coch i鈥檞 ceir.

Martin Bailey o Fwcle yn Sir y Fflint yw un ohonyn nhw.

鈥淒ydyn ni ddim yn credu bod angen i鈥檙 terfyn cyflymder gael eu cyflwyno i bob heol.

鈥淣i鈥檔 eithaf hapus gyda 20mya ar heolydd mewn ardaloedd preswyl, ond ni鈥檔 credu dylai鈥檙 prif ffyrdd aros yn 30mya.

鈥淢ae ganddon ni ddeiseb sydd gyda dros 62,000 o lofnodion, ni 'di bod yn gweithio gyda鈥檙 Llywodraeth a鈥檙 cyngor lleol i dreial codi ymwybyddiaeth.

鈥淒oedd na ddim cyfathrebu yngl欧n 芒 hyn, doedd neb eisiau gwrando arnon ni fel cymuned yngl欧n 芒 beth yw barn ni am y cynlluniau.

鈥淔i鈥檔 gallu gweld pam bod e鈥檔 bwysig i osod y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl, ond beth dydw i ddim yn deall yw pam mae鈥檙 Llywodraeth yn annog pobl fregus ar y priffyrdd.

"Dylai鈥檙 heolydd yna fod ar gyfer ceir yn unig, nid plant.鈥

'Poblogaidd yn gyffredinol'

Mae pryderon hefyd wedi'u codi y bydd y terfyn newydd yn effeithio ar gyflymder teithio'r heddlu i argyfyngau.

Ond dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, fod tystiolaeth o dramor yn awgrymu y byddai'r polisi yn cael ei dderbyn dros amser.

Fe ddywedodd: 鈥淧an edrychwn yn fyd-eang ar y dystiolaeth, gallwn weld bod y newidiadau hyn, er eu bod yn aml yn gallu bod yn anodd i'w gweithredu, yn boblogaidd iawn ymhlith cymunedau yn gyffredinol.

鈥淣id yw hyn yn ymwneud 芒 bod yn erbyn moduro, mae hyn yn ymwneud 芒 bod yn wlad foduro sy鈥檔 fwy diogel.鈥

Mae data o ardaloedd Cymru sy'n treialu'r terfyn cyflymder o 20mya yn dangos bod nifer y gyrwyr sy'n cydymffurfio wedi codi o 45% ar ddechrau'r cynllun i 64%.

Bellach mae gan lawer o ardaloedd yn Llundain gyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl, tra bod yr Alban yn bwriadu dilyn arweiniad Cymru a gwneud y polisi鈥檔 genedlaethol erbyn 2025.

Dywedodd Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd ar Amgylchedd Iechyd Cyhoeddus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai鈥檙 newid mewn polisi gael effaith fawr ar wasanaeth iechyd Cymru oherwydd 鈥済ostyngiad o tua 40% yn nifer y damweiniau鈥.

鈥淢ae hynny鈥檔 golygu bod llai o bobl yn dod drwy ddrysau unedau damweiniau ac achosion brys a bydd damweiniau ac anafiadau sy鈥檔 digwydd yn tueddu i fod yn llai difrifol."

Ychwanegodd: 鈥淢ae llawer o fanteision iechyd ehangach鈥 gan gynnwys annog mwy o bobl i gerdded a beicio a chynhyrchu llai o lygredd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae lleihau cyflymder nid yn unig yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau ond yn gwella ansawdd bywyd, gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel, tra鈥檔 helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol.

鈥淣id yw newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20mya yn effeithio ar y ddeddfwriaeth sy鈥檔 caniat谩u i鈥檙 heddlu, gwasanaethau t芒n ac ambiwlans fynd y tu hwnt i derfynau cyflymder yn ystod dyletswyddau ymateb brys.鈥