Â鶹ԼÅÄ

Dyn yn seiclo o Gaerdydd i Bilbao er cof am ffrind

Disgrifiad,

O Gymru i Wlad y Basg: "Seiclo i godi arian er cof am fy ffrind"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi dechrau ar daith seiclo dros 1,000km o Gymru i Bilbao er cof am ei ffrind.

Bu farw ffrind Aled Jones, Justin, yn 2022 ac roedd yn byw yn Bilbao.

Mae Aled wedi penderfynu seiclo i'r ddinas yng Ngwlad y Basg ac yn codi arian i elusen tra'n gwneud hynny.

Mae'n gobeithio cwblhau'r her o fewn 48 awr.

'Penderfynol er cof amdano'

"O'dd e [Justin] yn ddyn hynod o bobologaidd. O'dd lot o gariad gyda phobl tuag ato fe," eglurodd Aled.

"Cyn iddo fe farw 'naethon ni drafod ar y ffôn am seiclo o Gaerdydd i Affrica, a chwrdd â fe yn Bilbao a seiclo gyda'n gilydd.

"O'n i'n drist iawn 'nath hynny ddim digwydd wrth gwrs.

"Yn anffodus fuodd e farw blwyddyn diwetha'.

"'Na'th e ladd ei hun yn drychinebus. Doedden i ddim yn gwybod ei fod e'n byw gyda salwch meddwl.

"Fe oedd y cyntaf i gysylltu gydag unrhyw un oedd â phroblem, ond dwi'n poeni ei fod e'n cadw ei broblemau ei hun i ffwrdd o'i ffrindiau.

"Ond o'n i'n benderfynol i neud y trip beth bynnag, fel rhywbeth er cof am Justin."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Jones wedi gwneud sawl her seiclo

Fe fydd Aled yn dechrau ei her ddydd Mawrth, ac yn gwneud y siwrnai 1,050km o Gaerdydd i Bilbao heb stopio.

"Nes i edrych ar y map a gweithio mas bod hi'n bosib 'neud e heb stopio. Yn amlwg mae cwch yn y canol. Felly allai gael bach o saib ar y cwch dros nos.

"Mae Caerdydd i Portsmouth tua 250km. Mae'r fferi yn cyrraedd St Malo am 8:15 y bore wedyn, ac o fynna i Bilbao mae e'n 900km."

Dywedodd ei fod yn disgwyl teithio drwy'r dydd a nos ar y cyfandir a rhan fwyaf y diwrnod wedyn, cyn gobeithio cyrraedd cyn iddi nosi ar yr ail noson.

"Er mwyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid bod popeth yn mynd yn iawn, ac mae angen cadw, ar gyfartaledd 25km yr awr, ac mae hwnna'n cynnwys unrhyw saib i fynd i'r tÅ· bach neu brynu bwyd a thrwsio punctures," ychwanegodd.

'Cyfraniadau ar draws y byd'

Nid dyma'r tro cyntaf i Aled herio ei hun, ar ôl seiclo ar y cyfandir y llynedd. Ond mae e'n derbyn y bydd hon yn her wahanol.

"Haf dwetha' nesa i Kyiv i Gaerdydd a 'naethon ni godi arian ar gyfer confoi o ambiwlansys - a gymrodd hwnna tua 10 diwrnod.

"Y gwahaniaeth y tro yma yw bod e lot byrrach, ond fyddai ond yn cysgu ar y fferi rhwng Portsmouth a St Malo yn Llydaw.

"Dwi ddim yn siŵr sut fydda i'n ymdopi. Mae gena' i caffine gels a math o bethau fel 'na. Ond dwi byth wedi 'neud rhywbeth mor hir â hyn mewn un go.

"Felly mae siawns fydda i'n methu a bod rhaid stopio rhywle. Ond dwi'n teimlo digon o frwdfrydedd a meddwl am Justin a pha mor bwysig yw'r ymgyrch."

Fel rhan o'r her mae Aled yn codi arian ar gyfer elusennau Mind yn y Deyrnas Unedig a Confederación Salud Mental España yn Sbaen.

"Ni 'di cael cyfraniadau ar draws y byd i gyd. O'dd e'n dod o Canada ac wedi byw ym Mhrydain.

"Yn amlwg gath e ddylanwad mawr ar lot o bobl, a lot o bobl yn teimlo'n drist iawn ei fod e wedi diodde', ac eisiau 'neud rhywbeth er cof amdano fe."

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y Â鶹ԼÅÄ.

Pynciau cysylltiedig