Â鶹ԼÅÄ

Sarhau staff siop lyfrau Porthmadog am arddangosfa LHDT+

Sian Cowper
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog siop Browsers, Sian Cowper, yn dweud ei bod hi'n "synnu hefo sylwadau annifyr 'da ni'n cael"

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion siop lyfrau yng Ngwynedd yn dweud fod pobl wedi rhegi ac wedi ymosod yn eiriol arnyn nhw am greu arddangosfa o lyfrau LHDT+ fel rhan o fis Pride.

Fe benderfynodd perchnogion Siop Lyfrau Browsers ar stryd fawr Porthmadog addurno ffenestri blaen eu siop gyda baneri lliwiau'r enfys a llyfrau sy'n ymwneud â'r gymuned hoyw.

Er bod y mwyafrif o bobl wedi bod yn gefnogol, dywedodd Sian Cowper ei bod hi'n "synnu hefo sylwadau annifyr 'da ni'n cael".

Ond mae hi'n mynnu na fydd hi'n newid yr arddangosfa, ac mae'n benderfynol o ddangos bod croeso i bawb yn y siop a'r dref.

Disgrifiad o’r llun,

Er bod rhai pobl yn anhapus gyda'r arddangosfa, mae Sian Cowper yn dweud "yn gyffredinol, 'da ni'n cael sylwadau da"

Mae'r arddangosfa wedi bod yn ffenestri'r siop ers dechrau mis Mehefin, i nodi mis Pride.

Eglura Sian Cowper eu bod nhw wedi bod yn gwneud hynny ers "rhyw bedair neu bum mlynedd" a bod pobl wedi gwneud sylwadau annifyr "eto eleni".

Pedwar diwrnod ar ôl gosod yr arddangosfa, mae hi'n dweud "bod dau ddyn wedi sefyll ar y stepen drws ac yn teimlo yn ddigon cry' yn erbyn yr arddangosfa fel bo' nhw wedi rhegi ac yn taeru arna i yn deud pa mor disgusting oedd y dewis o lyfrau oedd gynnon ni".

Dyna'r cyntaf o dri digwyddiad y diwrnod hwnnw, meddai.

Dywedodd Sian: "Ma' hynna'n ypsetio ni ond be sy'n ypsetio fi fwya' ydy, ar ddiwedd y mis alla i dynnu'r llyfrau a rhoi nhw nôl ar y silffoedd, ond mae o'n codi'r cwestiwn i fi, mae pobl sy'n byw yn rhan o'r gymuned [LHDT+] yn rhan o hynny bob diwrnod o'u bywydau.

"Ydyn nhw'n cael y sylwadau yma bob dydd? Yn 2024, ydan ni dal yn byw mewn byd fel'na?"

Mae staff yn dweud eu bod nhw wedi clywed pobl yn parhau i wneud sylwadau wrth basio'r siop dros yr wythnos ddiwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae siop Browsers yn creu arddangosfa i nodi mis Pride ers sawl blwyddyn

Dywedodd Sian: "Heblaw bod hi'n bwrw glaw, mae'r drws ar agor gynnon ni, a ddoe o'dd 'na grŵp yn deud na fysan nhw'n dod fewn i siop ni oherwydd bod ni'n gwerthu llyfrau sy'n 'creu plant hoyw'... a ma' hynna yn syndod."

Ond mae pobl wedi bod yn gefnogol iawn hefyd.

"Mae Porthmadog yn dre' sy'n croesawu pawb o bob cefndir - yn gyffredinol 'da ni'n cael sylwadau da ond y rhai sy'n cadw fi'n effro yn y nos ydy'r 1% o bobl sy'n d'eud petha' annifyr."

'Creu ardal lle mae pobl yn teimlo'n saff'

Er gwaetha'r sylwadau, mae Sian yn dweud y bydd hi'n "bwrw 'mlaen a dal ati y flwyddyn nesa'".

"Mae 'na sylwadau wedi cael eu rhoi ar social media yn gofyn os ydw i wedi meddwl am y ffaith bod hyn yn cael financial implications ar fy musnes i, a dydi hynna ddim yn bwysig i fi.

"Wrth gwrs, ma' gen i blant i'w bwydo a biliau i'w talu, ond be' sy'n fwy pwysig i fi ydy creu ardal lle mae pobl yn teimlo'n saff ac yn cael eu croesawu.

"Blwyddyn nesa', falla bydd yr arddangosfa yn fwy byth a 'da ni am gario 'mlaen i 'neud be' da ni'n 'neud."

Pynciau cysylltiedig