Cyn-faer yn osgoi carchar am greu lluniau anweddus o blant

Disgrifiad o'r llun, Terry Judkins oedd maer Doc Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae cyn-faer tref Doc Penfro wedi osgoi dedfryd o garchar ar 么l pleidio'n euog i fod 芒 delweddau anweddus o blant yn ei feddiant, a'u dosbarthu.

Roedd Terry Judkins, 55, wedi cyfaddef dau gyhuddiad yn ymwneud 芒 delweddau Categori C o blant ac o gael delwedd gwaharddedig o blentyn yn ei feddiant rhwng 27 Medi, 2018 a 5 Awst, 2021.

Roedd Judkins hefyd yn wynebu 52 cyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant categori A - y math mwyaf difrifol - rhwng 27 Medi 2018 a 5 Awst, 2021.

Clywodd y llys bod yna 11 o ddelweddau unigryw oedd wedi cael eu dyblygu ar ddwy ddyfais ddigidol. Roedd 10 o鈥檙 delweddau o lanc 17 oed, ac un ddelwedd o fechgyn ifanc rhwng 10 ac 13 oed.

Dywedodd ei fargyfreithiwr, David Maunder, wrth y llys fod y delweddau o鈥檙 llanc 17 oed yn 鈥済ydsyniol.鈥

Mae rhannu delweddau anweddus o bobl dan 18 oed yn drosedd.

'Gwarth ac embaras'

Fe wnaeth Judkins, sy'n byw yn Noc Penfro, gyfaddef y cyhuddiadau ar Fehefin 20.

Fe blediodd yn euog i ddosbarthu delweddau categori A ar 25 Gorffennaf, 2020.

Roedd Judkins yn Faer Cyngor Tref Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021, pan gafodd rhai o'r troseddau eu cyflawni.

Dywedodd ei fargyfreithiwr, David Maunder 鈥渘ad oedd tystiolaeth bod y llys yn delio gyda rhywun oedd yn bedoffeil ymroddedig鈥 ond 鈥渞hywun oedd wedi rhoi 鈥渂laen bys ei droed鈥 yn y math yma o ymddygiad, 鈥渞hywbeth yr oedd yn ei ddifaru yn fawr.鈥

Ychwanegodd Mr Maunder fod gan y diffynnydd 鈥済ymeriad da鈥 a'i fod wedi dioddef 鈥済warth ac embaras鈥 yn sgil y troseddau.

Yn 么l y Barnwr Catherine Richards, roedd yr achos yn erbyn Judkins mewn 鈥済wrthgyferbyniad gyda鈥檙 enw da rydych wedi ei feithrin".

Dywedodd 鈥渘ad oedd tystiolaeth鈥 fod nifer fawr o luniau yn ymwneud 芒 bechgyn ifanc, ar wah芒n i鈥檙 delweddau o鈥檙 bechgyn oedd rhwng 10 ac 13 oed.

Yn 么l y Barnwr, roedd Judkins wedi dosbarthu dau lun o lanc 17 oed ac roedd y gyfraith yno i 鈥渨archod pobl ifanc.鈥

Cafodd Judkins ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am ddosbarthu delweddau anweddus.

Yn ogystal, cafodd dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am yr un cyfnod, am greu delweddau anweddus.

Fe fydd y ddwy ddyfais ddigidol a ddefnyddiwyd gan Judkins 鈥 cyfrifiadur a ff么n symudol 鈥 yn cael eu dinistrio ar orchymyn y llys.

Fe fydd Judkins yn gorfod mynychu rhaglen ar gyfer unigolion sydd wedi eu cael yn euog o lawrlwytho delweddau anweddus o blant a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.