O barti gwaith i ddrama'r geni - hen luniau traddodiadau'r 'Dolig

Plant fel bugeiliaid efo tyweli am eu pen, cinio Merched y Wawr, canu carolau a pharti staff - fel mae’r hen luniau yma yn ei ddangos mae traddodiadau'r wythnosau cyn y Nadolig yn rhan bwysig o'r ŵyl ers amser maith.

Er bod nifer o’r lluniau yn yr oriel yma'n rhai du a gwyn, y ffasiwn wedi newid ac ambell i beth yn codi’r aeliau (fyddai plant heddiw yn smalio smocio pibell mewn drama Nadolig?) mae’r delweddau yn debyg iawn i'r rhai sydd i'w gweld ar hyd a lled Cymru heddiw.

Dyma ddetholiad o luniau Casgliad y Werin o ddathliadau'r ŵyl yn yr wythnosau cyn y Diwrnod Mawr.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Catrin Stevens

Disgrifiad o'r llun, Drama'r geni yn Aberystwyth, o gwmpas 1959

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Merched y Wawr Deudraeth

Disgrifiad o'r llun, Cinio Nadolig Cangen Merched y Wawr Deudraeth, Meirionnydd, yng Nghastell Rhuthun, Tachwedd 1969

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Mair Morgan

Disgrifiad o'r llun, Parti Nadolig Ysgol Ysbyty Ystwyth (dim dyddiad)

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Cangen Merched y Wawr Llangefni

Disgrifiad o'r llun, Cangen Merched y Wawr Llangefni yn dathlu cinio Nadolig yn 1973

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Ann Green

Disgrifiad o'r llun, Cyngerdd Nadolig Eglwys Cribyn yn yr 1950au

Ffynhonnell y llun, Dafydd Parri/Casgliad y Werin

Disgrifiad o'r llun, Drama geni Ysgol Boduan gafodd ei pherfformio yn Eglwys St Buan tua 1960

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Archif Cenedlaethol Prydain

Disgrifiad o'r llun, Glowyr yn canu carolau Nadolig o dan ddaear yng Nglofa'r Bers, Rhostyllen, Wrecsam, o gwmpas 1950

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Disgrifiad o'r llun, Dawns a swper Nadolig ffatri Christie-Tyler yn Neuadd y Ddinas Caerdydd (dim dyddiad)

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Papur Pawb

Disgrifiad o'r llun, Cyngerdd Nadolig Ysgol Llangynfelyn, 1996

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Byron Hughes

Disgrifiad o'r llun, Parti Nadolig plant Capel Siloam, Cydweli, yn yr 1950au

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Ian Smith

Disgrifiad o'r llun, Ysgol Gynradd Hafod, Abertawe, 1965

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Papur Pawb

Disgrifiad o'r llun, Cinio Nadolig pobl hÅ·n Tal-y-bont, 1986

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Papur Pawb

Disgrifiad o'r llun, Cyngerdd Nadolig Ysgol Llangynfelyn, 1989

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Gwasanaethau Archif Cyngor Conwy

Disgrifiad o'r llun, Parti Nadolig Ysgol Bodlondeb, Conwy (dim dyddiad)

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Cangen Dinbych Merched y Wawr

Disgrifiad o'r llun, Cangen Merched y Wawr Dinbych, Glyn Maelor, yn barod am wledd parti Nadolig 1977

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Cangen Llangefni Merchd y Wawr

Disgrifiad o'r llun, Cinio Nadolig Cangen Merched y Wawr Llangefni yn 1974

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Disgrifiad o'r llun, Siôn Corn yn ymweld ag Ysgol Cofadail, Trefenter, 1964

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Merched y Wawr Tegryn

Disgrifiad o'r llun, Merched y Wawr Tegryn yn canu carolau (dim dyddiad)