Â鶹ԼÅÄ

Gwahardd cynghorydd am negeseuon rhywiol i berson bregus

Bernie AttridgeFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bernie Attridge yn gynghorydd sir ers 2004 ac yn aelod o Gyngor Tref Cei Connah ers 30 o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Y Fflint wedi cael ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am bedwar mis ar ôl anfon negeseuon o natur rywiol at breswylydd bregus.

Daeth tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru i'r casgliad bod Bernie Attridge wedi torri cod ymddygiad y cyngor ar saith achlysur.

Dyfarnodd hefyd bod y cynghorydd annibynnol dros ward Canol Cei Connah wedi ymddwyn fel bwli a heb barch tuag at swyddogion, a dwyn anfri ar ei swydd.

Mae gan Mr Attridge, sydd wedi cael cais am ymateb, hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad.

'Anghwrtais a bygythiol'

Roedd y ddynes a gwynodd - Ms M - wedi cysylltu â Mr Attridge ym mis Mawrth 2021 yn y gobaith o helpu wyres i gael tŷ cyngor.

Ar y pryd roedd hi'n cael cymorth gwasanaethau cymdeithasol fel unigolyn bregus.

Yn nifer o'r negeseuon dilynol rhwng y ddau, fe wnaeth Mr Attridge sawl sylw o natur rywiol.

Ar ôl cysylltu â'r adran dai am gymorth, clywodd y panel ei fod yn "anghwrtais a bygythiol" pan fethodd swyddogion â helpu, gan amlygu agwedd debyg at swyddog monitro'r cyngor.

Ffynhonnell y llun, Matt Harrop
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bernie Attridge yn ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Y Fflint tan i'r arweinydd Aaron Shotton ei ddiswyddo yn 2019

Dyfarnodd y panel yn unfrydol i'w wahardd am bedwar mis fel aelod o Gyngor Sir Y Fflint a Chyngor Tref Cei Connah, gan ddweud bod y negeseuon yn "awgrymu'n gryf ei fod yn ceisio rhyw fath o berthynas rywiol neu gymwynas".

Ychwanegodd: "Yn ei gyfweliad, fe wnaeth gydnabod ei fod "eisiau dynes" ac mae'r anghydbwysedd grym yn dangos ei fod felly wedi ceisio defnyddio'i sefyllfa fel cynghorydd yn amhriodol i sicrhau mantais bersonol amhriodol."

'Isafbwynt fy mywyd'

Wedi i'r negeseuon ddod i'r amlwg yn 2022, roedd yna gyfarfod rhwng y cyngor a'r heddlu i drafod lles y ddynes.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y negeseuon wedi croesi'r trothwy o ran erlyniad, ac aeth Ms M ati i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyda chymorth prif swyddog monitro'r cyngor, Gareth Owens.

Pan ddaeth Mr Attridge i wybod am hynny, fe gyhuddodd Mr Owens o fod eisiau difetha ei yrfa, ond fe dynnodd y cyhuddiad yn ôl pan ofynnodd y prif weithredwr am dystiolaeth.

Roedd y sylwadau hynny, medd y panel, yn "amharchus" ac yn torri'r cod ymddygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Ymddiheurodd Mr Attridge gan grybwyll digwyddiad trawmatig a salwch corfforol a meddyliol fel rhesymau dros ei ymddygiad

Dywedodd Mr Attridge bod yr ymddygiad dan sylw yn ganlyniad i salwch corfforol a meddyliol, a disgrifiodd y digwyddiad fel "isafbwynt fy mywyd".

Mewn ebost i'r panel, fe wnaeth erfyn am beidio cael ei wahardd gan ddweud mai'r "cyngor yw fy mywyd [ac] rwy'n deffro bob bore eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl".

Ychwanegodd: "Mae'n ddrwg gen i i bawb yr wyf wedi eu rhoi trwy'r broses yma, ond rwy'n ffyddiog y bydd y therapi a'r cymorth proffesiynol rwyf wedi ei gael yn fy helpu gyda thrawma plentyndod ac yn rhoi'r nerth i mi pan rwy'n gallu i helpu eraill a'u hannog i siarad yn gynt nag y gwnes i."