鶹Լ

Capiau rhyngwladol: Dathlu hanes 'anweledig' merched Cymru

Chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyn-chwaraewyr eu gwahodd i ddathliad cyn gêm Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl dros ddeugain mlynedd, bydd menywod a gynrychiolodd tîm pêl-droed Cymru yn y 1970au a'r 1980au yn cael eu capiau rhyngwladol mewn digwyddiad arbennig nos Wener.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn chwilio am y chwaraewyr fu'n cynrychioli tîm y menywod er mwyn rhoi’r capiau yn swyddogol iddyn nhw.

Yn ôl cyn-gapten Cymru, Laura McAllister: "Ma' lot o hanes merched yng Nghymru yn anweledig felly mae ‘di mor anodd i ffindio y bobl sy’n haeddu’r fraint ‘ma a cael y capiau hyn."

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod nifer y merched sy'n chwarae pêl-droed wedi cynyddu 45% ers iddyn nhw ddechrau eu cynllun 'Ein Cymru: Amdani Hi' yn 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Laura McAllister ym mhob gêm Cymru rhwng 1994 a 2001

Mae gan y CBDC gofnodion o 27 o gemau a gafodd eu cynnal rhwng 1973 a 1993, o pan gafodd y gêm ryngwladol gyntaf ei chynnal yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Afan Lido.

Ond chafodd y menywod a chwaraeodd i Gymru yn y cyfnod hwnnw - cyn i'r tîm cenedlaethol ddod o dan reolaeth CBDC - gapiau ar y pryd.

Laura McAllister fydd un o'r gwesteion fydd ar banel yn y digwyddiad yn Amgueddfa Sain Ffagan nos Wener fydd yn trafod hanes pêl-droed merched yng Nghymru a dyfodol y gamp.

Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ac S4C.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd bod y digwyddiad “mor bwysig” i ddathlu llwyddiant y menywod oedd yn chwarae yn ystod cyfnod “anodd iawn i’r gêm”.

Dywedodd: “Mae’n anodd credu nawr ond roedd ban am 50 mlynedd i ferched i chwarae ar gaeau unrhyw le yng Nghymru ac unrhyw le yn Lloegr.

“Ro’dd y menywod ‘ma wedi trefnu tîm cenedlaethol ar eu hunain gydag arian eu hunain a jest gweithio mor galed i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol.

“Do’dd y gêm ddim yn cal y strwythur ffurfiol fel sydd gyda fe nawr.

“Dyna’r broblem rili... ma lot o hanes merched yng Nghymru yn anweledig felly mae ‘di mor anodd i ffindio y bobl sy’n haeddu’r fraint ‘ma a cael y capiau hyn.

Ychwanegodd hefyd bod y chwaraewyr hyn wedi gosod “y seiliau i lwyddiant heddiw”.

Ffynhonnell y llun, CBDC

Mae 94 o chwaraewyr wedi’u hadnabod o’r cyfnod hwnnw, ac mae gan CBDC fanylion cyswllt ar gyfer 70 o’r chwaraewyr hynny.

Maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd eu helpu nhw i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y 24 o gyn-chwaraewyr eraill.

Pwy yw'r chwaraewyr coll?

Mae CBDC dal yn chwilio am fanylion cyswllt ar gyfer:

Pat Griffiths, Linda James, Ann Rice, Julie Yale, June Houldey, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Jean McCarthy, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Suzy Faul, Jill Anson, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Val Williams, G Day, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton, Caroline Brunt.

'Adeiladu ar y llwyddiant'

Yn 2021 fe ddechreuodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ymgyrch i annog mwy o ferched i fod yn rhan o'r gamp.

Ers hynny, maen nhw'n dweud bod nifer y chwaraewyr benywaidd wedi cynyddu 45% a bod gemau’r tîm cenedlaethol wedi gweld cynnydd o 198% yn nifer y cefnogwyr.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y buddsoddiad mewn pêl-droed i ferched wedi cynyddu 254% ers 2021.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol CBDC, Noel Mooney: “Rydyn ni’n hynod falch o dwf cyflym y gêm i Ferched a Genethod ar draws Cymru."

"Mae strategaeth Ein Cymru: Amdani Hi yn uchelgeisiol, ac mae’r cynnydd hyd yn hyn yn aruthrol.

"Mae CPDC wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac i gyrraedd uchderau hyd yn oed yn fwy.”