Enwebiad gwobr i actor sy'n helpu pobl â dementia

Disgrifiad o'r fideo, Gwyliwch Emyr Gibson yn cyd-ganu'r emyn Gwahoddiad gyda Margaret Rotheram a David Edwards

Mae Emyr Gibson yn gyfarwydd fel actor ar raglenni S4C ac fel cantor ar lwyfannau Cymru, ond ei rôl yn y maes gofal sydd wedi ennill enwebiad cenedlaethol iddo yn ddiweddar.

Yn enwog am chwarae rhan Meical yn nrama sebon Rownd a Rownd ac fel aelod o’r grŵp Trio, fe ddechreuodd helpu mewn cartref gofal dementia lleol yn ystod cyfnod Covid pan ddiflannodd llawer o’i waith arferol.

Mae wedi ei enwebu am Wobr Gofal Cymru Sefydliad Syr Bryn Terfel am Hyrwyddo’r Celfyddydau ym maes gofal am ei waith fel ymarferydd creadigol yng nghartref Bryn Seiont Newydd ger Caernarfon.

Mae’n edrych ymlaen at fod yn noson Gwobrau Gofal Cymru 2024 yng Nghaerdydd ar 18 Hydref.

“Roedd yn syrpreis bach neis,” meddai, “mae’n hyfryd cael dy enwebu a hynny gan y cwmni.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Emyr Gibson yn canu a dawnsio gydag un o'r preswylwyr, Elizabeth Driver

Mae’r gwaith yn Bryn Seiont Newydd wedi dangos iddo pa mor wyrthiol yw pŵer cerddoriaeth, meddai Emyr, sy’n rhan o dîm sy’n cyfoethogi bywyd preswylwyr y cartref dan arweiniad Nia Davies Williams, y cerddor preswyl.

Roedd gan Emyr brofiad helaeth yn cynnal gweithdai drama i blant ysgol pan ymunodd yn 2022 a’i fwriad oedd defnyddio’r profiad hwnnw a chynnal gweithgareddau drama tebyg i’r preswylwyr.

Ond buan iawn y sylweddolodd bod rhaid iddo addasu a gwelodd mor bwerus oedd cerddoriaeth fel yr allwedd i annog y preswylwyr i gymryd rhan ac mae’n cynnal nifer o sesiynau canu ar y cyd â Nia.

Nid yn unig mae canu hen ganeuon yn procio’r cof mewn ffordd unigryw, mae hefyd yn cyfrannu at les a thawelwch meddwl pobl sydd â dementia, meddai Emyr.

'Geiriau a bob dim yn dod nôl'

“Hyd yn oed os ydi rhywun yn canu a jyst yn gorwedd ac yn cau eu llygaid maen nhw’n gallu bod yn y foment ac anghofio am bob dim.

“Mae pobl yn sbïo’n wirion arna’i pan dwi’n dweud hynny am bobl sydd efo dementia ac wedi anghofio popeth beth bynnag.

“Ond mae lot ohonyn nhw’n poeni a ddim yn gwybod pam eu bod nhw yno ac yn gofyn pethau fel pwy ddaeth â nhw yno? Lle mae eu pres nhw? Lle mae eu bag nhw? Sut dwi’n mynd adra?

“Ond y munud maen nhw’n cael bod yn y foment yn canu mae hynna i gyd yn mynd. Felly mae mor bwerus bod geiriau a phob dim yn dod nôl, ond hefyd eu bod nhw’n cael y buzz yna.

“Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwybod y geiriau mae’r gerddoriaeth yn dod ag atgofion a theimlad braf iddyn nhw. Hyd yn oed i bobl â dementia drwg mae cerddoriaeth yn anhygoel o bwerus.”

Ffynhonnell y llun, Bryn Seiont Newydd

Disgrifiad o'r llun, O Un Dydd ar y Tro i Love Me Tender, mae Emyr a cherddor preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Williams, yn gweld grym pob math o gerddoriaeth

Un o’r bobl hynny ydi Elizabeth Driver – neu Beti fel mae Emyr yn ei galw – gwraig sydd o gyffiniau Lerpwl yn wreiddiol ac a oedd yn arfer teithio trwy Brydain a thros y dŵr i Ewrop mewn band gyda’i gŵr.

Mae’n cymryd perswâd i’w chael i ddod i’w sesiwn ganu yn aml, meddai Emyr, a hithau’n poeni pam ei bod yno, nad oes ganddi bres i dalu neu ei fod yn rhy bell.

Ond pan mae’n llwyddo i’w pherswadio yna mae’r “ofn yna, y teimlad o fod ar goll” yn diflannu, meddai Emyr.

“Y munud ti’n ei chael i eistedd a mae’r nodyn cyntaf yn cael ei chwarae ar y piano – dyna fo, mae hi’n anghofio bob dim [am ei phryderon] ac mae’r geiriau a’r miwsig yn dod yn ôl.”

Disgrifiad o'r fideo, Yr hen alaw Albanaidd My Bonnie yn cael ei ganu gan Emyr ac Elizabeth Driver

Mae repertoire Emyr a Nia’n amrywio o Un Dydd ar y Tro i Love Me Tender gan Elvis a chaneuon Abba ac maen nhw’n hen gyfarwydd â beth sy’n gweithio orau erbyn hyn.

Ac mae rhai caneuon yn rhoi mwy o gyfle na’r lleill i Emyr ymarfer ei ddoniau fel actor hefyd.

“Hen Feic Peni-Ffardding Fy Nhaid,” meddai, “dwi’n gwneud honna’n wirion bost; mae’n eu gwneud nhw’n gyfforddus ac rydan ni’n cael hwyl a dwi’n jyst bod yn ffŵl.

"A Defaid Wiliam Morgan, dwi’n fwy o ffŵl yn honna! Whistlo a ballu ‘run fath â Now, Hogia Llandegai.”

Sgwrs a chwmni yn bwysig

Mae’r canu’n rhoi’r preswylwyr mewn gwell hwyliau ac yn gallu golygu eu bod yn bwyta’n well neu’n hapusach i gymryd eu meddyginiaeth wedyn, meddai Emyr, sydd yno o leiaf unwaith yr wythnos, weithiau hyd at bedair, a phob sesiwn yn chwe awr.

Mae Nia Davies Williams yn arbenigo yng ngrym cerddoriaeth mewn gofal dementia.

Mae’n rhan o ethos y cwmni sy’n rhedeg Bryn Seiont Newydd hefyd, meddai Emyr, sef Parc Pendine a wnaeth ei enwebu am y wobr.

Mae mathau eraill o sesiynau ar gael i’r 107 o breswylwyr yno hefyd ym maes celf, tylino, gwneud gwallt ac ewinedd.

Weithiau mae rôl Emyr yn golygu bod yn gwmni a sgwrsio.

“Ti’n dod i nabod y preswylwyr, a weithiau maen nhw’n cymryd atat ti,” meddai Emyr a fydd yn mynd gyda rhai preswylwyr i’r ysbyty os ydyn nhw wedi gofyn amdano.

“Ella ’na’i weld rhywun ddim yn edrych yn eu hwyliau gorau ac eistedd efo nhw, hyd yn oed am 10 munud, a gofyn sut maen nhw, gofyn am yr hen amser; mae dim ond hynna’n gallu gwneud gwahaniaeth.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Emyr Gibson gydag un o'r preswylwyr Karen Dunkley Jones

Mae YouTube yn rhoi help llaw iddo hefyd i fynd â rhai o’r preswylwyr yn ôl i’w hieuenctid.

Drwy ddangos clip o hen ffilm, sydd wedyn yn gallu arwain at bob math o glipiau eraill, gall ysgogi sesiwn gyfan o hel atgofion am ffilmiau, caneuon a’r hen amser a gorffen weithiau gyda phawb yn dawnsio!

“Mae’r salwch yma’n afiach a mor greulon, ac yn fwy felly i bobl o’r teulu sy’n gweld nhw’n dirywio ac yn anghofio.

“Ond hefyd maen nhw’n dal yn gallu gwenu, canu a deall rhai pethau felly dydi o ddim yn fater o gau drws a dweud ‘dyna fo’, mae 'na ddigon o bethau i’w gwneud i roi bywyd iddyn nhw.”

Beti yn dysgu 'Hen Feic'

Mae Beti hefyd wedi eu synnu mewn ffordd arall, meddai Emyr.

“Mae’r arbenigwyr yn dweud pan mae gen ti ddementia bod ti methu dysgu ond rydan ni’n ei weld o efo Beti; fysa hi erioed wedi clywed Hen Feic Peni-Ffardding fy Nhaid.

"Ond rŵan pan dwi’n canu’r bennill gynta’ ti’n gallu gweld ei bod hi’n barod - mae’n sbïo arna’i fel siot ac mi wneith hi ddod i fewn efo fi ar lein gynta’r gytgan.

“Mi wneith Nia sbïo arna’ i, ‘a maen nhw’n dweud bod pobl efo dementia methu cofio a dysgu!’

"Wel mae'r dystiolaeth o flaen dy lygaid di. Mae o yna rywle.”