鶹Լ

£1m o arian loteri i droi tafarn 200 oed yng Ngwynedd yn 'galon y gymuned'

Tafarn y PluFfynhonnell y llun, Sion Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tafarn y Plu yng Ngwynedd dros 200 mlwydd oed ac yn dal i gadw llawer o’r nodweddion traddodiadol o’r 1950au

  • Cyhoeddwyd

Mae dau brosiect o Gymru wedi derbyn cyfanswm o bron i £2m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd Menter y Plu yn Llanystumdwy, Gwynedd yn derbyn £1.05m i weithredu fel canolbwynt cymunedol a darparu cyfleoedd cymdeithasol yn yr ardal.

Dywedodd Siôn Jones, cyd-gyfarwyddwr Menter y Plu bod yr arian yma yn “hanfodol” i’r fenter - sydd eisoes yn rhedeg tafarn gymunedol.

Yr ail brosiect o Gymru fydd yn elwa o’r gronfa yw Castell Margam ym Mhort Talbot.

Bydd 15 prosiect ar draws y Deyrnas Unedig yn derbyn cyfanswm o £30m i nodi pen-blwydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 30 oed.

'Calon y gymuned'

Aeth Tafarn y Plu ar werth yn 2015, ac roedd ofnau bryd hynny y byddai'n cau.

Erbyn 2018, cafodd Menter y Plu ei sefydlu gyda’r nod o brynu’r dafarn leol yn Llanystumdwy a’i rhedeg fel un gymunedol.

Mae’r dafarn dros 200 mlwydd oed ac yn dal i gadw llawer o’r nodweddion traddodiadol o’r 1950au.

Bwriad y fenter ydy defnyddio’r arian gan gronfa'r loteri er mwyn darparu cyfleoedd cymdeithasol yn yr ardal.

Fe fydd y dafarn yn cael ei defnyddio fel canolbwynt ar gyfer gweithgareddau Clwb Ffermwyr Ifanc, digwyddiadau i ddysgwyr Cymraeg ac fel lle i bobl hŷn yr ardal gymdeithasu.

Dywedodd Siôn Jones, un o gyfarwyddwyr Menter y Plu bod yr arian yn “hanfodol” i’w galluogi nhw i barhau i gefnogi’r gymuned.

“Mae’r gefnogaeth hon yn ein galluogi i weithio gyda phobl a phartneriaid lleol i sicrhau bod gennym weithgareddau a gofodau ar gyfer pobl o bob oedran yn Llanystumdwy," meddai.

"Boed hynny’n bryd o fwyd ar ôl y gêm i’r tîm pêl-droed lleol, yn berfformiad byw ar lwyfan awyr agored, neu’n gyfle i bobl hŷn gael sgyrsiau ystyrlon dros de a bisgedi.

"Rydym wedi cymryd camau bach, cyson dros y blynyddoedd, a bydd yr ariannu hwn yn sicrhau ein bod yn gwireddu’r freuddwyd o droi Tafarn y Plu yn galon y gymuned."

Ychwanegodd: “Ers dros 200 mlynedd mae’r dafarn hon wedi dod â phobl ynghyd, a gyda’n gilydd gallwn greu newid cadarnhaol parhaol a sicrhau bod Tafarn y Plu yn parhau i fod yn hyb bywiog i bawb am flynyddoedd i ddod.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Castell Margam yn derbyn £900,000 er mwyn adfer yr adeilad

Mae prosiect Ail-ddychmygu Castell Margam ym Mhort Talbot yn derbyn £900,030 o'r un gronfa er mwyn adfer yr adeilad.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips o Gyngor Castell-nedd Port Talbot bod hwn yn “ddechrau pennod newydd” i’r sir.

"Mae'r cyllid hwn yn newid ein treftadaeth a'n heconomi leol," meddai.

Ychwanegodd y bydd yr arian "yn gwarchod un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru" ac yn "creu cyfleoedd newydd" i'r gymuned ddysgu am hanes yr ardal.

“Dyma ddechrau pennod newydd gyffrous i Gastell-nedd Port Talbot wrth i ni greu swyddi, hybu twristiaeth a chadw ein treftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae cyfanswm o £8.6bn wedi’i fuddsoddi mewn dros 47,000 o brosiectau ar draws y DU ers sefydlu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ym 1994, gyda bwriad i fuddsoddi £3.6bn pellach dros y 10 mlynedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig