Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn o Fôn yn cyfaddef bod â fideo o weithgareddau rhyw ar grwban
Mae dyn o Ynys Môn wedi cyfaddef bod ym meddiant pornograffi eithafol yn ymwneud â gweithredoedd rhyw gyda chrwban.
Plediodd James Owen, 30, hefyd yn euog i fod â delwedd anweddus o blentyn, yn y categori mwyaf difrifol o gam-drin plant yn rhywiol.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau iddo gael ei arestio yn dilyn ymchwiliad i bedoffeil hysbys gan Heddlu'r Met yn Llundain.
Fe wnaethon nhw enwi Owen, o Lanfechell ger Amlwch, fel rhywun oedd wedi derbyn y llun categori A cam-drin plant.
Pan aeth yr heddlu i'w gartref ym Môn i gael ei ddyfeisiadau electronig, fe ddaethon nhw hefyd o hyd i bedwar llun a 24 fideo o berson yn perfformio'n rhywiol gyda'r anifail byw.
Clywodd Owen fod yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw, ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Hydref.