Ethol Gary Pritchard yn arweinydd newydd Cyngor M么n

Disgrifiad o'r llun, Yn wreiddiol o Gaergybi, mae Gary Pritchard wedi cynrychioli ardal Biwmares ers 2021
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae'r cynghorydd Gary Pritchard wedi cael ei ethol yn arweinydd newydd Cyngor Ynys M么n.

Yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Seiriol - ardal Biwmaers a'r cylch - ers 2021, y Cynghorydd Pritchard oedd yr unig ymgeisydd i roi ei enw ymlaen mewn cyfarfod llawn o'r awdurdod brynhawn Iau.

Yn gyn-ohebydd a chynhyrchydd chwaraeon, roedd wedi bod yn arweinydd dros dro - gyda'r cynghorydd Robin Williams - ers i Llinos Medi roi'r gorau'r awenau wedi iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol yr ynys.

Yn dilyn ei etholiad unfrydol dywedodd Mr Pritchard 鈥渆r fod 鈥榥a newid capten fydd y llong ddim yn newid cwrs鈥, gan gydnabod bod llywodraeth leol yn wynebu cyfnod anodd.

Disgrifiad o'r llun, Gary Pritchard fydd yn olynu Llinos Medi fel arweinydd y cyngor sir

Cafodd ei bwyso gan arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Aled Morris Jones, i sicrhau y byddai鈥檙 awdurdod yn gwneud eu gorau i sicrhau bod datblygiad yn digwydd yn safle Wylfa.

鈥淏ydd y cyngor yn gwneud popeth yn ein gallu, ond mae鈥檔 bwysig fod San Steffan yn gwneud pendefyniad cynnar fel ein bod yn ran o鈥檙 siwrnai yna ac yn sicrhau鈥檙 buddion,鈥 meddai鈥檙 Cynghorydd Pritchard yn ei ymateb.

Yn ei faniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth dywedodd Gary Pritchard mai'r flaenoriaeth fyddai "sicrhau sefydlogrwydd a dilyniant er mwyn arwain awdurdod sy鈥檔 perfformio鈥檔 dda i鈥檙 cyhoedd," er gwaetha'r heriau ariannol.

Dywedodd hefyd fod dyhead i "ddatblygu鈥檙 economi i gefnogi鈥檙 Gymraeg" ac i barhau i ddefnyddio鈥檙 dreth premiwm ar ail dai a thai gwag "er mwyn cefnogi prynwyr tro cyntaf".

Ym mis Gorffennaf cafodd Mr Pritchard ei ddewis i arwain gr诺p Plaid Cymru'r cyngor, gyda'r blaid wedi sicrhau mwyafrif yn etholiad lleol 2022 ar 么l arwain clymblaid gyda charfan o gynghorwyr annibynnol cyn hynny.

Roedd Llinos Medi, cyn ei hethol fel Aelod Seneddol, wedi arwain yr awdurdod ers 2017.

Mae hi wedi camu o'r neilltu fel cynghorydd sir hefyd, ond roedd hi'n bresennol yn y siambr brynhawn Iau wrth ddewis ei holynydd.