鶹Լ

Ethol Gary Pritchard yn arweinydd newydd Cyngor Môn

Gary Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Gaergybi, mae Gary Pritchard wedi cynrychioli ardal Biwmares ers 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynghorydd Gary Pritchard wedi cael ei ethol yn arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn.

Yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Seiriol - ardal Biwmaers a'r cylch - ers 2021, y Cynghorydd Pritchard oedd yr unig ymgeisydd i roi ei enw ymlaen mewn cyfarfod llawn o'r awdurdod brynhawn Iau.

Yn gyn-ohebydd a chynhyrchydd chwaraeon, roedd wedi bod yn arweinydd dros dro - gyda'r cynghorydd Robin Williams - ers i Llinos Medi roi'r gorau'r awenau wedi iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol yr ynys.

Yn dilyn ei etholiad unfrydol dywedodd Mr Pritchard “er fod ‘na newid capten fydd y llong ddim yn newid cwrs”, gan gydnabod bod llywodraeth leol yn wynebu cyfnod anodd.

Disgrifiad o’r llun,

Gary Pritchard fydd yn olynu Llinos Medi fel arweinydd y cyngor sir

Cafodd ei bwyso gan arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Aled Morris Jones, i sicrhau y byddai’r awdurdod yn gwneud eu gorau i sicrhau bod datblygiad yn digwydd yn safle Wylfa.

“Bydd y cyngor yn gwneud popeth yn ein gallu, ond mae’n bwysig fod San Steffan yn gwneud pendefyniad cynnar fel ein bod yn ran o’r siwrnai yna ac yn sicrhau’r buddion,” meddai’r Cynghorydd Pritchard yn ei ymateb.

Yn ei faniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth dywedodd Gary Pritchard mai'r flaenoriaeth fyddai "sicrhau sefydlogrwydd a dilyniant er mwyn arwain awdurdod sy’n perfformio’n dda i’r cyhoedd," er gwaetha'r heriau ariannol.

Dywedodd hefyd fod dyhead i "ddatblygu’r economi i gefnogi’r Gymraeg" ac i barhau i ddefnyddio’r dreth premiwm ar ail dai a thai gwag "er mwyn cefnogi prynwyr tro cyntaf".

Ym mis Gorffennaf cafodd Mr Pritchard ei ddewis i arwain grŵp Plaid Cymru'r cyngor, gyda'r blaid wedi sicrhau mwyafrif yn etholiad lleol 2022 ar ôl arwain clymblaid gyda charfan o gynghorwyr annibynnol cyn hynny.

Roedd Llinos Medi, cyn ei hethol fel Aelod Seneddol, wedi arwain yr awdurdod ers 2017.

Mae hi wedi camu o'r neilltu fel cynghorydd sir hefyd, ond roedd hi'n bresennol yn y siambr brynhawn Iau wrth ddewis ei holynydd.