Â鶹ԼÅÄ

Lluniau: Yr awyr yn goleuo dros Gymru

Llanfair-Dyffryn-ClwydFfynhonnell y llun, Ruth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa uwchben Llanfair-Dyffryn-Clwyd

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn storm solar bwerus, roedd golygfeydd godidog o Lewyrch yr Arth, neu'r aurora borealis, i'w gweld dros Gymru nos Iau.

O Fôn i Fynwy, roedd yr awyr wedi ei goleuo'n hardd.

Mae'r golygfeydd i'w gweld oherwydd cyfuniad o'r golau gogleddol arferol a gweithgaredd anghyffredin ar wyneb yr haul.

Er bod y goleuadau i'w gweld uwchben y gwledydd mwya' gogleddol fel arfer, fel Gwlad yr Iâ, roedd y storm hon mor gryf fel bod yr awrora i'w weld mor bell i'r de â'r Swistir a'r Eidal.

Mae sawl enw gwahanol am yr aurora borealis yn Gymraeg - Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd ac i eraill Ffagl yr Arth neu Lewyrch yr Arth.

Dyma rywfaint o'r golygfeydd dros Gymru nos Iau.

Ffynhonnell y llun, Cat Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Pont Pen-y-benglog yng Ngwynedd

Ffynhonnell y llun, Sion Ynyr
Disgrifiad o’r llun,

Tre'r Ceiri ym Mhen LlÅ·n

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyr uwchben tref Cei Connah yn Sir Y Ffilnt

Disgrifiad,

Dyma Elen yn esbonio pam fod y ffenomen yn digwydd yn amlach yn ddiweddar.

Ffynhonnell y llun, Mari Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Moelfre, ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn

Ffynhonnell y llun, Arwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Llynnau Cregennen ger Dolgellau

Ffynhonnell y llun, Riversdalehouse
Disgrifiad o’r llun,

Yr anifeiliaid anwes yn cael golwg hefyd - yma yn Llangollen, Sir Dinbych

Disgrifiad o’r llun,

Yr awyr uwchben Yr Wyddgrug yn y gogledd-ddwyrain

Ffynhonnell y llun, Cat Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Un arall gan Cat Lloyd o beftref Penmon, Ynys Môn

Ffynhonnell y llun, : Carolyn Grocott
Disgrifiad o’r llun,

Cefndir godidog i'r dolffin yma yn Aberporth

Ffynhonnell y llun, Ruthy
Disgrifiad o’r llun,

Nantmel, ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa oddi ar arfordir Aberporth yng Ngheredigion

Ffynhonnell y llun, Wings
Disgrifiad o’r llun,

Dinas Abertawe o'r awyr

Ffynhonnell y llun, Cat Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Pentre' Penmon ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Fynydd y Garth

Disgrifiad o’r llun,

Tudweiliog, Pen LlÅ·n

Ffynhonnell y llun, Katie
Disgrifiad o’r llun,

Castell Llanhuadain, Sir Benfro

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa dros Langynnwr, Caerfyrddin

Pynciau cysylltiedig