Bangor: Miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol

  • Awdur, Sion Tootill
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae miloedd wedi gorymdeithio drwy strydoedd Bangor i gefnogi Cymru annibynnol.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf i gael ei drefnu gan Yes Cymru ac All Under One Banner (AUOB).

Daeth miloedd hefyd ynghyd yng ngorymdaith debyg yn Abertawe fis Mai.

Yn ôl y trefnwyr mae’r niferoedd uchel sy’n mynychu yn dangos bod y galw am Gymru annibynnol yn cynyddu.

Geraint Thomas ydy un o gyfarwyddwyr Yes Cymru ac un o drefnwyr yr orymdaith ym Mangor.

Dywedodd eu bod wedi disgwyl i rhwng tua 6,000 a 8,000 o bobl fynychu.

Ers hynny mae'r mudiadau wedi dweud y gwnaeth dros 10,000 ymuno.

Disgrifiad o'r llun, Geraint Thomas oedd un o drefnwyr y digwyddiad ddydd Sadwrn

“Mae gweld cymaint o bobl yma ym Mangor yn wych," dywedodd.

"Mae’n dangos pŵer y neges a’r cynnydd aruthrol yn y gefnogaeth i annibyniaeth sydd yn digwydd ar hyn o bryd.

“Ein nod ni yma heddiw yw lledaenu’r neges ymhellach ac i geisio dangos i bobl beth sy’n bosib i ni fel cenedl.â€

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n gyfle i rannu ein neges ni i’r ardal yma ac i weddill y wlad" - Llio Roberts

Ymhlith y miloedd a fynychodd yr orymdaith oedd Llio Roberts.

“Dwi’n meddwl bod hi’n hynod o bwysig ein bod ni yma heddiw.

"Mae’n cyfle i rannu ein neges ni i’r ardal yma ac i weddill y wlad, meddai.â€

'Lledaenu neges'

Mae Ioan Bryn yn dod o Fangor, ac yn falch i weld gorymdaith o’r fath yn dod i’w ddinas enedigol.

Dywedodd: “Mae’n wych i gael hwn ym Mangor heddiw, dyma fy nghartref i.

"Mae’n grêt gweld ffrindiau a theulu a gallu lledaenu’r neges i bobl sydd falle' heb glywed am Gymru annibynnol a beth gallai hynny feddwl."

Disgrifiad o'r llun, Mae "cadw momentwm" mewn sawl rhan o Gymru yn bwysig, dywedodd Angharad Gwyn

Mae Angharad Gwyn o Gaernarfon wedi mynychu sawl gorymdaith debyg o’r blaen.

“Handi iawn cael yr orymdaith yma ym Mangor achos dw i’n byw ochrau Caernarfon," dywedodd.

"Mae’n braf bod y digwyddiadau yma yn symud rownd y wlad ac yn dod i lefydd fel Bangor.

"Dwi wedi bod i orymdeithiau tebyg yng Nghaerdydd a llefydd eraill o’r blaen ac mae’n bwysig parhau i gynnal nhw i gadw’r momentwm."