Â鶹ԼÅÄ

Ymchwilydd yn ymddiswyddo wedi negeseuon am Dorïaid

CyfrifiadurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiadau bod Sinead Cook wedi anfon sawl neges sarhaus am y Ceidwadwyr ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwilydd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae ynglŷn â negeseuon sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Sinead Cook ei gwahardd ddydd Gwener diwethaf, wrth iddi wynebu ymchwiliad ynglŷn â sylwadau a gafodd eu gwneud ganddi ar-lein am y Ceidwadwyr.

Mewn datganiad gan swyddfa'r Ombwdsmon ddydd Iau, dywed bod Ms Cook wedi ymddiswyddo, a'i bod hi ddim yn cael ei chyflogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru rhagor.

Mae disgwyl datganiad pellach gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yr wythnos nesaf.

Dyw hi ddim yn eglur beth y bydd ei hymddiswyddiad yn ei olygu o ran yr ymchwiliad yn ei herbyn.

Beth yw'r cefndir?

Pwrpas yr Ombwdsmon a'i staff yw ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd ynghylch cyrff cyhoeddus neu gynghorwyr.

Dau o brif egwyddorion y swyddfa yw didueddrwydd ac annibyniaeth.

Roedd adroddiadau bod Sinead Cook wedi anfon sawl neges, gan gynnwys un oedd yn dweud "f*** the Tories".

Mae swydd yr Ombwdsmon yn benodiad gan y Goron yn dilyn argymhellion gan y Senedd.

Michelle Morris sydd wedi dal y swydd ers 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae David TC Davies wedi galw am Ombwdsmon a chorff gwarchod newydd

Wedi gwaharddiad Ms Cook, dywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies nad oedd hyder ganddo bellach yn yr Ombwdsmon, Michelle Morris, na'r swyddfa.

Galwodd am Ombwdsmon newydd, ac i sefydlu corff gwarchod arall.

Yn siarad cyn yr ymddiswyddiad, dywedodd Mr Davies: "Mae pob un achos sydd wedi ei roi i'r Ombwdsmon ers i Ms Cook fod yn ymchwilio yno, angen i rywun annibynnol ailedrych arno.

"Rydym angen dod o hyd i rywun sydd â hyder pob plaid wleidyddol yng Nghymru".

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn â sylwadau Ysgrifennydd Cymru.