Â鶹ԼÅÄ

Caerdydd: Arwydd ffordd gwallus yn arwain gyrwyr i gyfeiriadau gwahanol

Yr arwydd ffordd gwallus
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn gwrthddweud yr hyn mae'r arwydd yn ei nodi yn Saesneg

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cydnabod fod arwydd ffordd yn arwain gyrwyr i gyfeiriadau gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'r arwydd gwaith ffordd yn y brifddinas yn dweud yn Saesneg wrth yrwyr i ddilyn dargyfeiriad tua'r dwyrain, ond mae'r cyfieithiad Cymraeg yn dweud wrthynt droi tuag at y gorllewin.

Mae'r arwydd ar Stryd Pendyrys wedi ei osod oherwydd bod system unffordd wedi'i chyflwyno.

Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn nodi "Unffordd tua'r gorllewin yn unig" sy'n anfon gyrwyr heibio arwyddion sy'n nodi'n glir fod y ffordd ar gau iddynt.

Brynhawn Llun fe gadarnhaodd y cyngor fod gwall o ran y cyfieithiad Cymraeg, ac y dylai fod yn arwain gyrwyr i'r dwyrain, fel sy'n cael ei nodi yn Saesneg.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi hysbysu'r contractwr am y gwall.

"Bydd yr arwydd sydd â gwall arno yn cael ei dynnu ac yn ei le bydd arwydd dim mynediad yn cael ei osod.

"Wrth y fynedfa arall bydd arwydd un ffordd yn cael ei osod, os nad yw wedi ei osod eisoes."